Siarad Cymraeg?

Oeddech chi’n gwybod bod cofrestru’r Gymraeg fel iaith eich dewis ar eich cyfrif gyda ni? Mae hi’n rhwydd - llenwch ein ffurflen syml a chewch unrhyw ohebiaeth bersonol gennym ni yn Gymraeg!

Nam ar brif bibell ddŵr yn Sir y Fflint

Wedi’i ddiweddaru: 06:00 11 August 2025

Rydym wedi ail-lenwi'r rhwydwaith ac adfer cyflenwadau i'r ardaloedd hynny yr effeithiwyd arnynt gan y brif bibell ddŵr a dorrodd (Y Fflint, Treffynnon, Ffynnongroyw, Maes Glas, Llanerch y Môr, Mostyn, Oakenholt, Talacre, Chwitffordd a Mancot).

Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o broblemau lliwio dros dro sy'n effeithio ar gyflenwadau dŵr i gartrefi yng Nghei Connah. Mae hyn wedi'i achosi gan fod angen i ni symud y dŵr o amgylch y rhwydwaith i gynnal cyflenwadau a bydd yn dros dro.

Rydym yn cysylltu â'r cwsmeriaid hynny ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth a'r cartrefi hynny (testun i ffôn symudol / llinellau tir) a allai gael eu heffeithio.

Efallai bod rhai cartrefi yn dal i brofi dŵr wedi ei liwio ond dim ond dros dro fydd hyn. Rydym yn fflysio'r system a gall cwsmeriaid hefyd redeg eu tapiau am gyfnod byr i'w helpu i glirio.

Gall cwsmeriaid gasglu cyflenwadau dŵr o’n gorsaf poteli dŵr ym Mhafiliwn Jade Jones ym Flint (CH6 5ER) sy’n parhau yn agored.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma. Byddwn hefyd yn parhau i ddarparu diweddariadau ar Yn Eich Ardal  ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Pori

Ein llyfrgell

Mae ein holl daflenni, dogfennau, ac adroddiadau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael i’w darllen a’u lawrlwytho.

Ewch i’n llyfrgell