Esbonio biliau mesuredig


Os oes mesurydd dŵr yn eich eiddo, byddwch yn cael bil wedi’i fesur ar gyfer y dŵr yr ydych chi wedi ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod bilio. Yma, rydym ni’n cynnig dadansoddiad o’r bil fel eich bod yn ymwybodol o’r hyn yr ydych chi’n talu amdano, a’r hyn y mae angen i chi ei wneud.

Os oes gennych chi fesurydd dŵr, bydd dwy ran i’ch bil -taliadau a fesurwyd ar gyfer yr aelwyd, a thâl gwasanaeth.

Taliad a fesurwyd ar gyfer yr aelwyd

Gan ddefnyddio'r darlleniadau yr ydych chi’n eu rhoi i ni o'ch mesurydd dŵr, byddwn yn cyfrifo faint o ddŵr yr ydych chi wedi'i ddefnyddio ac yn codi fesul metr ciwbig*.

Dŵr - £1.3419 fesul metr ciwbig

Carthffosiaeth - £2.0027 fesul metr ciwbig

neu £2.0027 fesul metr ciwbig gydag ad-daliad dŵr wyneb.

*1000 litr neu 220 galwyn yw metr ciwbig - sy'n cyfateb i ddefnyddio’ch peiriant golchi 12 gwaith, cael 12 bath neu 28 cawod.

Tâl gwasanaeth

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys cost darllen a chynnal a chadw eich mesurydd dŵr, a gosod un newydd pan fydd angen.

Tâl gwasanaeth
Maint y mesurydd Dŵr Carthffosiaeth (Llawn) Carthffosiaeth (Dŵr budr yn unig)
O dan 30mm £37.43 £113.64 £78.14
30mm £37.43 £113.64 £78.14
40mm £37.43
£113.64 £78.14

Bydd maint y mesurydd yn cael ei ddangos ar eich bil*

Mae'r holl daliadau o 1 Ebrill 2024 tan 31 Mawrth 2025. Caiff ein taliadau eu pennu gan Ofwat, rheoleiddiwr y diwydiant dŵr. Os hoffech ragor o wybodaeth am ein taliadau defnyddio presennol, gweler ein crynodeb o ffioedd aelwydydd:

Os ydych yn cael eich gwasanaethau carthffosiaeth gan Hafren  Dyfrdwy, gweler eich taliadau yma.

Os ydych yn cael eich gwasanaethau carthffosiaeth gan Severn Trent, gweler eich taliadau yma.

Beth sy'n digwydd pan fyddaf yn cael fy mil?

Byddwch yn cael bil bob chwe mis pan fyddwn ni’n darllen y mesuryddion yn eich ardal. Byddwn yn ceisio bilio ar sail darlleniad gwirioneddol, ond os na fyddwn ni’n gallu darllen y mesurydd, byddwn yn anfon bil wedi’i gyfrifo.

Mae’n rhaid talu eich bil o fewn 14 diwrnod i’w dderbyn heblaw bod gennych gynllun talu neu Ddebyd Uniongyrchol ar waith. Debyd Uniongyrchol yw’r ffordd symlaf o dalu oherwydd y gallwch wasgaru’r gost dros flwyddyn, ac fe fyddwn ni’n cymryd y taliadau yn awtomatig. I gael rhagor o wybodaeth edrychwch ar ein tudalen Debyd Uniongyrchol.

Os oes gennych chi gynllun talu ar waith ond yn methu â chadw at y trefniant, bydd y balans llawn sy'n ddyledus yn daladwy.

Beth os wyf i’n cael bil wedi’i gyfrifo?

  • Dewis 1 - Gallwch gymryd darlleniad gwirioneddol (os yw'n ddiogel gwneud hynny). Anfonwch eich darlleniad atom gan ddefnyddio ein ffurflen cyflwyno darlleniad mesurydd. Yna, byddwn yn anfon bil diwygiedig atoch, neu
  • Dewis 2 - Mae ein rhaglen gyfrifo yn gywir iawn. Gallwch dalu eich bil wedi’i gyfrifo yn ôl yr arfer. Byddwn yn ceisio darllen y mesurydd yn ystod y chwe mis nesaf.

A wyddech chi...

  • Os byddwn ni angen newid y mesurydd am unrhyw reswm, byddwch yn cael bil rhwng eich biliau chwe misol.

Pan fyddwch chi’n symud i eiddo â mesurydd:

  • Efallai na fyddwch chi’n cael bil am hyd at chwe mis, os darllenwyd y mesurydd gennym ni ychydig cyn i chi symud i mewn, neu
  • Gallai eich bil cyntaf fod am lai na chwe mis os byddwn ni’n darllen y mesurydd yn fuan ar ôl i chi symud i mewn. Felly, gallai eich bil cyntaf fod yn llai na'ch bil chwe misol nesaf.
  • Pan fyddwch chi’n symud i mewn, byddwn yn anfon pecyn croeso atoch fel y byddwch yn gwybod ym mha fisoedd y bydd eich biliau yn cael eu hanfon.