Tywydd Oer – Neges i'n Cwsmeriaid

Information

15:00 01 December 2023

Rydym profi tymheredd isel mewn nifer o’n cymunedau gyda thywydd rhewllyd ac ia. Mae yna beryg y bydd pibellau dŵr yn rhewi ac yn byrstio.

Byddwn yn gweithio ddydd a nos er mwyn cynnal cyflenwadau dŵr ond rydym angen eich help.

Rydym yn gofyn i gwsmeriaid i ofalu am eu pibellau dŵr drwy sicrhau bod tapiau a phibellau allanol wedi eu gorchuddio a dylech wybod ble mae eich ‘stop tap’ rhag ofn bod yna broblemau. Os ydych yn sylwi bod ein rhwydwaith ni n gollwng dŵr, ffoniwch ni ar 0800 052 0130neu rhowch wybod i ni ar-lein - fel y gallwn ddatrys hyn yn gyflym. 

Er mwyn dysgu mwy am sut i baratoi eich cartref ar gyfer y tymheredd rhewllyd, ewch i’n tudalennau Paratowch am y Gaeaf.

Cadwch yn ddiogel.

Ffitrwydd dŵr

Mae’n hawdd arbed dŵr, ynni ac arian gyda Ffitrwydd dŵr.

Hoffech chi wybod faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio?

Efallai’ch bod wedi treulio mwy o amser gartref yn ddiweddar a’ch bod yn poeni y bydd eich biliau’n cynyddu neu efallai fod gennych bryderon ehangach am yr amgylchedd. Os felly gall Ffitrwydd dŵr fod yn ddefnyddiol i chi.

Gall teclyn cyfrifo digidol Ffitrwydd dŵr gan ein partneriaid Save Water Save Money eich helpu i wybod faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio bob dydd ac effaith hynny ar eich biliau ynni.

Mae’n hawdd – cofrestrwch a nodi’ch cod post ac o fewn ychydig funudau gallwch greu darlun personol o ddefnydd dŵr yn eich cartref chi, a chael syniadau sut i arbed dŵr, ynni ac arian.

Cofrestru yw’r cam cyntaf ar eich taith. Ar ôl gwneud hynny, cewch archebu pecyn arbed dŵr am ddim a mynd yn ôl at y teclyn cyfrifo i weld sut y mae’r defnydd a wnewch o ddŵr yn newid dros amser.

Fideos gwybodaeth

Am gael rhagor o awgrymiadau am arbed dŵr yn eich cartref?

Rydyn ni'n defnyddio llawer o ddŵr yn ein cartrefi, ond mae yna ffyrdd syml iawn o arbed dŵr...

Canfod mwy