Symud cartref
Gall symud cartref fod yn straen ond mae rhoi gwybod i ni yn hawdd. Yma gallwch chi greu cyfrif newydd neu roi gwybod i ni eich bod yn symud os ydych eisoes yn gwsmer.
Creu cyfrif
am y tro cyntaf?
Croeso i Dŵr Cymru! Gallwch greu cyfrif bilio newydd ar-lein yma.
Os na allwch gwblhau eich symudiad ar-lein, dyma ffyrdd eraill o gysylltu â ni.
1. Cysylltwch
Sgwrs Fyw
Os ydych chi angen cyngor, mae ein gweithredwyr gwasanaeth cwsmeriaid yma i’ch helpu. 8am - 6pm Llun - Gwener a 9am - 1pm Sadwrn.
Agor Sgwrs Fyw Sgwrsio byw all-lein Sgwrs FywUnrhyw gwestiynau eraill?
Os nad ydych chi’n gallu gadael i ni wybod ar-lein, yna siaradwch â gweithredwr gwasanaeth cwsmeriaid
8:00am - 6:00pm Llun-Gwener
9:00am - 1:00pm Sadwrn
Fel arfer mae ein hamseroedd aros hiraf rhwng 11am ac 1pm, ond rydym ar agor tan 6pm ar ddyddiau'r wythnos os hoffech gysylltu â ni ar adeg dawelach.
Pryd i roi gwybod i ni eich bod chi wedi symud
Os oes gan eich eiddo presennol neu’ch eiddo newydd fesurydd dŵr:
- Rhowch wybod i ni hyd at ddau ddiwrnod ymlaen llaw eich bod yn symud.
- Cofiwch gymryd darlleniad terfynol neu gyntaf ar y diwrnod y byddwch yn symud. Yna gallwn eich bilio am yr hyn yr ydych wedi’i ddefnyddio pan yr oeddech yn gyfrifol.
- Ein nod yw gwneud eich symudiad mor hawdd â phosibl gan ddeall efallai na fydd gennych eich darlleniad mesurydd terfynol. Peidiwch â phoeni, mewn achosion o'r fath, byddwn yn cyfrifo darlleniad yn seiliedig ar eich defnydd yn y gorffennol. Ar gyfer cwsmeriaid sydd angen cymorth ychwanegol, mae gennym yr opsiwn i ddarllenwr mesurydd ymweld â'r eiddo cyn i chi symud allan, gan sicrhau bod darlleniad mesurydd gwirioneddol yn cael ei gymryd. Rhowch wybod i ni o leiaf 21 diwrnod gwaith ymlaen llaw os ydych am drefnu apwyntiad.
Os nad oes gan eich eiddo presennol neu eiddo newydd fesurydd dŵr:
- Gallwch roi gwybod i ni hyd at 14 diwrnod cyn i chi symud cartref, os wnewch chi ffonio neu sgwrsio â ni yn fyw.