Paratowch am y Gaeaf

Paratoi eich cartref neu’ch sefydliad am dywydd oerach.

Mae’r gaeaf yn gallu bod yn adeg hudolus, ond mae tymheredd oer iawn yn gallu achosi problemau os nad ydych chi’n barod.

Pan fo’r tymheredd yn gostwng, mae’r dŵr yn eich pibellau a’ch tapiau’n gallu rhewi, gan atal eich cyflenwad dŵr a gwneud i’ch pibellau fyrstio.

Pibellau a thapiau yn yr awyr agored neu mewn mannau oer fel llofftydd neu garejys sydd fwyaf tebygol o rewi, ac am fod dŵr yn ehangu wrth rewi, gall gracio’r pibellau metel cryfaf hyd yn oed.

Paratowch ar gyfer y gaeaf

Darllenwch ein cynigion a'n cyngor i sicrhau bod eich cartref neu fusnes yn barod ar gyfer tywydd oer.

Paratoi eich cartref am y gaeaf

Cyngor tywydd oer ar gyfer eich busnes

Cwestiynau Cyffredin