ARBED DŴR

Newidiadau bach gwahaniaeth mawr.

Er bod digonedd o law yn disgyn o'r awyr, mae llawer o waith, ynni a chariad yn mynd i gael pob diferyn o ddŵr i chi.

Oeddech chi'n gwybod?

Mae'r person cyfartalog yn defnyddio 176 litr o ddŵr y dydd, sef bron i 310 peint!

Mae Dŵr Cymru'n ffeindio ac yn trwsio 120 o ollyngiadau'r dydd i leihau faint o ddŵr sy'n cael ei golli a'i wastraffu ar y rhwydwaith.

Amddiffyn ein Dyfodol Dŵr

Dŵr. Mae’n perthyn i ni i gyd. Mae amddiffyn a gwella’r adnodd gwerthfawr yma’n flaenoriaeth bwysig.

Mae’r amgylchedd yng Nghymru dan fygythiad fel na fu erioed o’r blaen, ac mae ffactorau amgylcheddol yn gallu cael effaith ddifrifol ar adnoddau dŵr, fel ein cronfeydd dŵr a’n dyfrffyrdd.

Mae poblogaethau’n tyfu, mae sut rydyn ni’n defnyddio dŵr yn newid, ac mae’r galw yn cynyddu.

Mae’r hinsawdd yn newid, ac mae tywydd mwy poeth, cyfnodau estynedig o dywydd sych, a thywydd eithafol yn golygu bod dŵr yn prinhau. Gall pob un ohonom ni chwarae ein rhan wrth amddiffyn a gwerthfawrogi pob diferyn.

Mae cyfrifoldeb arnom ni i gyd i’w amddiffyn heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

I gael rhagor o fanylion am ein cynlluniau AMP8 i wneud i Bob Diferyn Gyfri, cliciwch yma

Arbed dŵr yn yr ystafell ymolchi

  • Cymrwch gawod fer yn lle bath Ac, os gallwch dreulio 4 munud yn y gawod yn lle 10, gallwch arbed tua 15,000 litr o ddŵr y flwyddyn, bydd hynny'n arbed tua £45 ar eich biliau dŵr os oes gennych fesurydd dŵr! Plws yr holl ynni sy'n cael ei wario ar gynhesu'r dŵr
  • Peidiwch â gadael y tap yn rhedeg wrth frwsio dannedd - Gallai cau'r tap wrth frwsio arbed tua 6,000 litr o ddŵr y flwyddyn, gwerth tua £20 o arbedion y flwyddyn.
  • Beth am ystyried gosod pen cawod sy'n defnyddio dŵr yn effeithlon? Gall pen cawod sy'n arbed ynni arbed tua 10,000 litr o ddŵr y flwyddyn o gymharu â phen cawod safonol! I gael eich un chi, crëwch broffil ar ein cyfrifiannell Get Water Fit.
  • Os oes gennych doiled fflysh deuol, ffeindiwch pa fotwm yw'r fflysh mawr, a pheidiwch â'i ddefnyddio heblaw bod angen. Mae'r fflysh mawr yn defnyddio bron dwywaith yn fwy o ddŵr na'r fflysh bach. Ac yw’r dŵr yn euraid – mae fflysio’n ddianghenraid!
  • Toiled yn gollwng? Mae toiled sy'n gollwng yn gwastraffu rhwng 200 a 400 litr y dydd, neu 73,000 i 146,000 y flwyddyn – ac mae'n gallu bod yn fwy o lawer. Gallai trwsio'r broblem arbed rhwng £219 a £438 y flwyddyn! Ewch draw i'n rhaglen Cartref i weld sut y gallwn ni helpu.

Arbed dŵr yn y gegin

  • Defnyddiwch fowlen golchi llestri neu rhowch y plwg i mewn wrth olchi'r llestri yn hytrach na gadael i'r tap redeg. Ac ar ôl golchi'r llestri, defnyddiwch y dŵr sydd ar ôl i olchi unrhyw bethau plastig neu wydr cyn eu hailgylchu.
  • Trwsiwch unrhyw dapiau sy'n gollwng i osgoi gwastraffu dŵr. Oeddech chi'n gwybod bod tap sy'n diferu'n gallu gwastraffu dros 7,000 litr y flwyddyn? Gallai hynny gostio tua £20 y flwyddyn i chi os na gaiff ei thrwsio.
  • Arhoswch nes bod gennych lwyth llawn cyn defnyddio'r peiriant golchi llestri, a chofiwch wasgu'r botwm eco - mae hynny'n gallu arbed dros £15 y flwyddyn.
  • Peidiwch â gorlenwi'r tegell, mae berwi mwy nag sydd ei angen arnoch yn gwastraffu trydan, ac os byddwch chi'n taflu'r dŵr sydd dros ben i ffwrdd bob tro, gallai ychwanegu £5 at eich bil dŵr os oes mesurydd gennych.
  • Cadwch ddŵr tap yn yr oergell i gael diod oer ar unwaith heb orfod rhedeg y tap.
  • Os ydych chi'n prynu teclyn newydd sy'n defnyddio dŵr, cofiwch edrych i weld pa mor effeithlon yw e yn ei ddefnydd o ddŵr.

Arbed dŵr yn yr ardd

  • Defnyddiwch gan dyfrio neu bibell ddŵr (â sbardun) yn lle taenellwr i ddyfrio'r ardd.
  • Mae casgen ddŵr yn ffordd wych o gasglu dŵr glaw i'w ddefnyddio yn yr ardd – ar gael o'n siop Nwyddau.
  • Ychwanegwch grisialau dal dŵr at botiau, tybiau a basgedi crog er mwyn helpu i gadw'r compost yn llaith.
  • Peidiwch â thorri'r lawnt yn rhy fyr a defnyddiwch y toriadau gwaith fel tomwellt i wella iechyd y pridd.

Gwnewch gais am fesurydd dŵr

Peidiwch â thalu am fwy na'ch defnydd.

Eich Mesurydd Dŵr

7 diwrnod yr wythnos

Mae ein timau'n gweithio saith diwrnod yr wythnos, ac yn aml dros nos, i drwsio gollyngiadau ar unwaith.

Ond mae cael y dŵr trwy ein pibellau'n ddigon cyflym yn dipyn o her mewn rhai ardaloedd, ac mae hyn yn aml yn waeth yn ystod y cyfnodau prysur - gyda'r nos ac ar benwythnosau fel rheol.

Trwy ddefnyddio'r holl ddŵr sydd ei angen arnoch, gan ofalu i beidio â'i wastraffu, gallwch chi helpu i wneud gwahaniaeth mawr.

Os byddwch yn sylwi ar ollyngiad, cysylltwch â ni ar 0800 052 0130 (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos) neu cliciwch yma.

Tips i arbed dŵr

Ailddefnyddio dŵr

Generic Document Thumbnail

Effeithlonrwydd dŵr – pecyn i randdeiliaid

PDF, 1.7MB

Dyma sut rydyn ni'n rheoli adnoddau a sut y gallwch chi helpu.