Newid i fesurydd dŵr


A ydych yn byw ar eich pen eich hun, ddim yn defnyddio llawer o ddŵr, neu’n bwriadu lleihau eich bil? Efallai y byddwch yn arbed arian drwy osod mesurydd dŵr.

Pam newid i fesurydd dŵr?

  • Gallech chi arbed arian (po leiaf o ddŵr yr ydych yn ei ddefnyddio, yr isaf y bydd eich bil!)
  • Byddwn yn ei osod am ddim
  • Mae'n helpu i leihau eich ôl troed carbon (mae aelwydydd â mesuryddion yn defnyddio llai o ddŵr fel arfer)
  • Gallwch newid yn ôl i'ch tâl anfesuredig ar unrhyw adeg hyd at 2 flynedd o'r dyddiad y gosodwyd y mesurydd*.

* Mae'r opsiwn hwn ar gael dim ond i gwsmeriaid sydd wedi newid o fod ar gyflenwad anfesuredig i fod ar gyflenwad mesuredig. Os byddwch yn symud i eiddo â mesurydd eisoes, nid yw'r opsiwn hwn ar gael.

Cyfrifiannell amcangyfrif mesurydd

Ydych chi'n byw ar eich pen eich hun, ddim yn defnyddio llawer o ddŵr, neu a ydych chi'n ceisio lleihau eich bil? Efallai y byddwch yn arbed arian drwy osod mesurydd dŵr.

Atebwch ychydig o gwestiynau a gweld beth allai eich bil fod pe bai gennych fesurydd!

Faint o bobl sy'n byw yn eich eiddo?

Mae hyn yn cynnwys oedolion a phlant

{{ displayNumber }}

Sut ydych chi'n defnyddio eich dŵr?

Ydych chi'n defnyddio cawod pŵer, peiriant golchi dillad neu beiriant golchi llestri, taenellwr gardd, neu bibell ddŵr?

Dewiswch ydy neu nac ydy

Eich amcangyfrif misol

Ar sail yr wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi, byddem ni’n disgwyl i'ch bil fod tua £{MonthlyCharge} y mis pe baech yn newid i fesurydd.

Amcangyfrif yn unig yw hwn, gall eich bil fod yn uwch neu'n is na hyn yn dibynnu ar faint o ddŵr yr ydych yn ei ddefnyddio. Byddai eich bil wedi’i seilio ar faint o ddŵr yr ydych yn ei ddefnyddio bob 6 mis.

Os oes gennych ddiddordeb, darllenwch isod am fwy o wybodaeth.

Gallai eich bil bod o gwmpas

£{{monthlyCharge}}

y mis

neu £{AnnualCharge} y blwyddyn.

Camau gwneud cais am fesurydd

Cam 1: Gwneud cais am fesurydd

Cyflwynwch gais am fesurydd ar-lein (bydd angen eich cyfeirnod cwsmer wrth law, sydd i’w weld yn y gornel dde ar frig eich bil, ar eich dangosfwrdd Fy Nghyfrif wrth fewngofnodi, neu ar eich cyfeirnod talu os byddwch yn talu drwy ddebyd uniongyrchol).

Cam 2: Byddwn yn cysylltu

Byddwn yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad i ymweld â'ch eiddo. Byddwn yn gosod mesurydd o fewn 3 mis i dderbyn eich cais (lle bo'n ymarferol i wneud hynny).

Cam 3: Byddwn yn ymweld â’ch eiddo

Byddwn yn ymweld i wirio a all mesurydd gael ei osod. Os gallwn osod y mesurydd ar ddiwrnod yr ymweliad cyntaf, byddwn yn gwneud hynny.

Beth sy’n digwydd os na allwn osod mesurydd?
Os na allwn osod mesurydd ar ddiwrnod yr ymweliad cyntaf, byddwn yn rhoi gwybod i chi pam y bydd angen i ni alw eto. Os na allwn osod mesurydd ond efallai y byddwch yn gallu gwneud rhywfaint o waith i'n galluogi i osod mesurydd (e.e. gosod stop-tap mewnol, amlygu gwaith pibellau), byddwn yn gofyn i chi wneud y gwaith a galw eto i osod y mesurydd ar ôl i’r gwaith gael ei wneud. Os na allwn osod mesurydd o gwbl, ni fydd unrhyw waith yn ei gwneud yn bosibl, byddwn yn dweud wrthych pam ac efallai y byddwn yn eich rhoi ar ein Tâl Mesuredig ar sail Asesiad.

Cam 4: Byddwn yn diweddaru eich cyfrif

O fewn mis i osod y mesurydd, byddwn yn diweddaru eich cyfrif dŵr a byddwn yn anfon manylion atoch am hyn ac a ydym wedi diwygio unrhyw gynllun talu neu a oes ad-daliad yn ddyledus i chi.

Sut rydym yn eich bilio os oes gennych fesurydd

Mae taliadau mesuredig yn seiliedig ar dâl gwasanaeth sefydlog ynghyd â faint o ddŵr yr ydych chi'n ei ddefnyddio. Byddwn yn cyfrifo faint o ddŵr yr ydych wedi'i ddefnyddio yn seiliedig ar eich darlleniadau mesurydd a chodi tâl am bob metr ciwbig o ddŵr a ddefnyddir. Os byddwch yn penderfynu newid i fesurydd dŵr, byddwn yn anfon bil atoch bob chwe mis.

Dysgwch fwy am daliadau mesuredig yma.

Newid eich meddwl

Os oes gennych fesurydd wedi'i osod, mae gennych ddwy flynedd lle gallwch wneud cais i dynnu'r mesurydd. Yna bydd eich taliadau'n dychwelyd i fod yn daliadau anfesuredig. Os oedd gan eich eiddo fesurydd dŵr eisoes wedi'i osod cyn iddo gael ei brynu neu ei rentu, ni ellir tynnu'r mesurydd dŵr.