Cyfrifoldebau am garthffosydd


Am ein bod ni'n cludo'ch holl ddŵr brwnt i ffwrdd, efallai eich bod chi'n meddwl taw ni sy'n gyfrifol am yr holl ddraeniau, a'r garthffos. Ond eich cyfrifoldeb chi neu eich landlord yw rhai o'r pibellau mewn gwirionedd.

Beth sy'n eiddo i chi?

Y pibellau porffor yn y darlun isod. Chi sy'n gyfrifol am y pibellau sy'n casglu'r dŵr gwastraff o'ch eiddo chi yn unig, ac sy'n gorwedd y tu fewn i'ch cartref neu o fewn ffiniau eich eiddo.

Beth sy'n eiddo i ni?

Y pibellau oren yn y darlun isod. Ni, yn fwy na thebyg, sy’n gyfrifol am y pibellau sy'n draenio eich cartref ond sy'n gorwedd y tu hwnt i ffin eich eiddo, a'r pibellau sy'n eich gwasanaethu chi a'ch cymdogion.

Beth sy'n eiddo i'r Cyngor?

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am unrhyw floc ar yr eiddo y maen nhw'n eu rheoli, ac mewn draeniau ar briffyrdd a chwteri.

Beth i'w wneud os oes bloc ar eich pibellau?

Os nad oes problem gan neb o'ch cymdogion, mae'n debygol bod y bloc ar eich pibellau preifat. Os oes problem gydag unrhyw un o'ch pibellau preifat, cysylltwch â chontractwr draenio da a fydd yn gallu’ch helpu chi. Chi, neu yswirwyr eich cartref fydd yn gorfod talu'r gost o ddatrys unrhyw ddiffygion ar y pibellau hyn.

Beth i'w wneud os ydych chi'n credu bod bloc ar bibellau Dŵr Cymru?

Os ydych chi'n amau bod bloc yng ngharthffos Dŵr Cymru, rhowch alwad i ni ar 0800 085 3968 a byddwn ni'n ymchwilio i'r broblem.

Ansicr ymhle mae'r bloc?

Weithiau mae'n gallu bod yn anodd canfod ymhle mae'r bloc. Os ydych chi'n ansicr pwy sy'n gyfrifol am y pibellau dŵr gwastraff, cysylltwch â ni ar 0800 085 3968 a gallwn ni eich helpu i ganfod pwy sydd biau'r bibell.

Er mwyn helpu i wella’r cofnodion sydd gennym o systemau draenio, byddem yn croesawu copïau o unrhyw gynlluniau sydd gennych sy’n dangos y draeniau o gwmpas eich cartref.

Hoffem pe baech yn ebostio copi digidol (wedi’i sganio neu wedi tynnu llun â chamera mewn fformat .pdf neu .jpg os oes modd) atom yn gis.bureau@dwrcymru.com

Neu gallwch anfon copi papur trwy’r post i:

GIS Bureau
Dŵr Cymru Welsh Water
Linea
Fortran Road
Llaneirwg
Caerdydd
CF3 0LT


* Cofiwch ddweud wrthym beth yw cyfeiriad yr eiddo yn y cynllun.

Does dim angen i chi anfon llythyr na rhagor o fanylion gyda’ch cynllun.

Draeniau tir a chyrsiau dŵr

Mae'r cyfrifoldeb am ddraenio yn ein cymunedau trefol yn gymhleth ac yn cael ei rannu rhyngom ni, awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a pherchnogion tir neu eiddo lleol. O bryd i'w gilydd, mae hyn yn golygu ein bod yn ychwanegu pibell at ein mapiau nad yw'n gyfrifoldeb i ni.

Mae draeniau tir a chyrsiau dŵr yn cario dŵr daear a dŵr wyneb i ffwrdd o'n tirweddau naturiol. Bydd llawer o'r draeniau a’r nentydd hyn wedi'u rhoi mewn pibelli o dan ein trefi a'n dinasoedd pan ddigwyddodd y datblygiad.

Yn y rhan fwyaf o achosion, perchennog y tir y mae ei eiddo'n mynd drwyddo fydd yn gyfrifol am y systemau draenio hyn, neu y mae ei dir yn ffinio ag ef. Gelwir y cyfrifoldebau hyn yn Hawliau Glan yr Afon a gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth amdanynt ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae mapiau o'r carthffosydd yr ydym yn eu cynnal wedi'u casglu dros genedlaethau. Mewn rhai achosion gwelwn fod draeniau tir, nentydd tanddaearol (cyrsiau dŵr wedi'u sianelu) a draeniau priffyrdd wedi'u hychwanegu'n anghywir at ein mapiau. Gwnaed yr ychwanegiadau hyn yn aml gyda bwriad da, ond gallant achosi dryswch ynghylch pwy sy'n gyfrifol am eu cynnal a'u cadw.

Er mwyn helpu i gadarnhau perchnogaeth o'r pibellau hyn byddwn yn cynnal ymchwiliad manwl pryd bynnag y bydd ein staff, neu staff asiantaeth ddraenio arall, yn rhoi gwybod i ni am wall mapio posibl. Er mwyn sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn deg, ein nod yw dilyn gweithdrefn genedlaethol yn yr achosion hyn, ac mae copi o'r rhain i'w gweld ar wefan Water UK.

Gall awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru roi gwybod am unrhyw wallau y maen nhw’n dod o hyd iddynt drwy lawrlwytho a chwblhau'r Profforma NoF 029 - Cais am Newid Statws Asedau. Gall ymchwiliadau gymryd sawl mis i'w cwblhau, felly mae'n bwysig bod yr holl dystiolaeth sydd ar gael yn cael ei chyflwyno gydag unrhyw gais.

Profforma NoF 029 - Cais am Newid Statws Asedau

DOCX, 90kB