Ffyrdd o dalu fy mil


I hwyluso pethau, rydym ni wedi rhestru’r gwahanol ffyrdd o dalu’ch bil. Cymrwch gip arnyn nhw i weld beth sydd orau i chi.

Debyd Uniongyrchol

Wrth dalu drwy ddebyd uniongyrchol bydd gennych y dewis o rannu eich bil yn rhandaliadau a gwneud taliadau sy’n fwy hyblyg i chi a hynny heb gost ychwanegol.

Beth yw buddion sefydlu cynllun talu Debyd Uniongyrchol?

  • Gallwch rannu eich bil yn rhandaliadau (heb unrhyw gost ychwanegol)
  • Mae cynllun talu yn ei gwneud yn haws i chi gynllunio eich trefniadau ariannol
  • Mae gennych hyblygrwydd i ddewis pa mor aml yr ydych yn talu

Pan rydym yn cyfrifo swm eich rhandaliad, byddwn ni’n sicrhau bod eich taliadau yn talu eich costau presennol ac unrhyw ôl-ddyledion (os yw’n berthnasol). Byddwn yn rhoi gwybod i chi faint bydd hyn pan fyddwn wedi sefydlu eich cynllun. Os ydych chi’n credu nad yw’r taliadau’n fforddiadwy, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni drafod opsiynau talu eraill gyda chi.

Os hoffech newid swm eich debyd uniongyrchol, cysylltwch â ni.

Ar-lein neu dros y ffôn gan ddefnyddio Cerdyn Credyd / Debyd

Defnyddiwch ein gwasanaeth talu ar-lein neu linell talu wedi’i hawtomeiddio ar 0800 028 5209 i dalu eich bil cyfan neu randaliad yr ydych wedi cytuno arno gyda ni. Mae’n ddiogel, yn gyflym ac yn hawdd. Gallwch dalu pan fo’n gyfleus i chi.

Rhyngrwyd / Bancio Ffôn / Drwy BACS

Defnyddiwch eich bancio ffôn neu ryngrwyd i dalu eich bil cyfan neu randaliad yr ydych wedi cytuno arno gyda ni.

Os ydych chi’n talu o gyfrif banc y DU bydd  angen:*

  • Cod didoli: - 522107
  • Rhif cyfrif: - 01500007

Os ydych chi’n talu o gyfrif tramor, bydd angen:*

  • Rhif IBAN: - GB51 NWB 5221 0701 5000 07
  • Rhif BIC: - NWBK GB 2L

*Pan fyddwch chi’n gwneud eich taliad, nodwch eich rhif cyfeirnod cwsmer 10 neu 12 digid a ddangosir ar unrhyw fil neu lythyr yr ydym wedi’i anfon atoch. Dyma sut y byddwn yn anfon eich taliad i’r cyfrif dŵr cywir.

Cerdyn Talu

Os nad yw Debyd Uniongyrchol yn addas ar eich cyfer chi, ond rydych chi eisiau gwasgaru eich bil dros randaliadau, gallwch sefydlu cerdyn talu.
Ewch â’ch cerdyn talu a’ch taliad i’ch Swyddfa Bost leol, neu unrhyw siop, gorsaf betrol ac ati lle caiff arwydd PayPoint ei arddangos. Nid oes taliad ychwanegol wrth dalu â cherdyn talu. Dewch o hyd i’ch man PayPoint neu Swyddfa Bost agosaf a gwnewch gais am gerdyn talu yma.

Mewn unrhyw Fanc neu Swyddfa Bost

Talwch am ddim mewn unrhyw fanc neu Swyddfa Bost. Cwblhewch y slip talu Giro ar eich bil ac ewch ag ef gyda chi. Gwiriwch oriau agor cangen leol eich swyddfa bost.