Camgysylltiadau


Mae cysylltiadau plymio a draenio diffygiol yn llygru afonydd a thraethau ledled Prydain. Gwnewch yn siŵr bod eich eiddo wedi ei gysylltu â’r draeniau cywir. Os yw’ch pibell dŵr gwastraff neu garthffosiaeth wedi ei chysylltu â draen dŵr wyneb, gallech lygru eich afon neu’ch traeth lleol.

Fel perchennog yr eiddo, chi sy’n gyfrifol am drwsio camgysylltiad. Cysylltwch â Dŵr Cymru, eich awdurdod lleol neu blymiwr WaterSafe.

Os ydych chi’n amau bod camgysylltiad yn eich eiddo, neu os ydych chi wedi sylwi ar ddigwyddiad o lygredd, cysylltwch â ni ar (0800 0853968) neu pollutionrisk@dwrcymru.com

Nod yr ymgyrch ConnectRight yw:

Atal camgysylltiadau a chodi ymwybyddiaeth perchnogion eiddo, y cyhoedd a phobl broffesiynol am broblemau draenio a llygredd dŵr. Mae’n tynnu partneriaid sy’n gweithio i leihau llygredd dŵr ynghyd – fel rheoleiddwyr amgylcheddol, cwmnïau dŵr, awdurdodau lleol a phobl broffesiynol a sefydliadau eraill sydd â buddiant.


Camgysylltiadau – y ffeithiau

1. Mae yna ddau fath o system ddraenio:

  • system gyfunol – lle mae’r holl lif yn mynd i’r garthffos fudr ac yn cael ei drin yn y gweithfeydd trin carthffosiaeth
  • systemau ar wahân – lle mae’r glaw glân yn draenio’n uniongyrchol i afon, y môr neu i’r ddaear, a’r draeniau carthffosiaeth fudr yn draenio i weithfeydd trin carthffosiaeth

2. Mae yna ddau fath o gamgysylltiad:

  • lle mae’r garthffosiaeth neu’r dŵr gwastraff yn draenio i ddraeniau dŵr wyneb glân
  • lle mae’r dŵr glân yn draenio i’r draeniau carthffosiaeth fudr

Y cyntaf o’r rhain sy’n achosi’r pryder mwyaf i ni.

3. Mae camgysylltiadau’n achosi llygredd. Mae rhyddhau dŵr budr i ddraeniau dŵr glân yn golygu bod carthffosiaeth sydd heb ei thrin yn llifo’n uniongyrchol i gwrs dŵr. Ond mae’n broblem os yw dŵr glaw glân yn llifo i garthffos fudr hefyd, am fod hyn yn gallu peri i’r garthffos orlifo, mae’r dŵr glân yn rhoi pwysau ar allu’r garthffos i ymdopi, yn effeithio ar y gweithfeydd trin carthffosiaeth ac mae angen ynni i bwmpio a thrin yr holl ddŵr.

4. Problem yw hon sy’n effeithio ar bron pob nant drefol i ryw raddau. Amcangyfrifir bod 15% o’n hafonydd a 9% o’n traethau (sef 49 o draethau) yn methu â chyrraedd y safonau o ran ansawdd dŵr, a hynny oherwydd camgysylltiadau a llygredd sy’n gysylltiedig â charthffosiaeth.

5. Dyma pum prif effaith llygredd carthion:

  • mae’r maetholion yn y llygredd carthion, ac yn enwedig Ffosfforws, yn achosi twf gormodol planhigion ac mae hyn yn disbyddu’r ocsigen wrth iddynt farw drachefn; maent yn newid yr ecoleg naturiol ac yn lladd pysgod a bywyd gwyllt arall
  • mae pathogenau’n peri risg i iechyd ac yn effeithio ar bysgodfeydd pysgod cregyn
  • mae’r bacteria a’r microbau eraill yn disbyddu’r lefelau ocsigen wrth dreulio’r defnydd organig, gan ladd pysgod a bywyd gwyllt arall
  • tocsinau - mae mwy a mwy o dystiolaeth yn dangos bod cemegolion fel Nonylffenolion, sy’n cael eu golchi allan o ddillad sydd wedi eu mewnforio, a Tryclosan, sef elfen wrthfacteria mewn hylifau golchi dwylo, past dannedd a llawer o gynhyrchion eraill, yn effeithio ar gyrsiau dŵr. Nid ydym yn llwyr ddeall gwir effaith tymor hir y sylweddau hyn ar fywyd gwyllt hyd yn hyn.
  • Effeithiau esthetig – malurion a solidau carthffosiaeth.

6. Mae gan hanner o gartrefi’r DU garthffosydd ar wahân. Mae’n anodd amcangyfrif union nifer y cartrefi â chamgysylltiadau ,am fod y stoc tai mor gymhleth. Mae adroddiad Diwydiant Dŵr y DU yn awgrymu bod camgysylltiad gan ryw 140,000 eiddo, ond mewn rhai ardaloedd, mae ymchwiliadau wedi dangos bod camgysylltiad yn hyd at 1 o bob 5 eiddo. Gallai’r gwir gyfanswm yn y DU fod yn fwy na 500,000.

7. Mae’r arfer o drosi eiddo, y diwylliant o wneud gwaith yn eich cartref eich hun ac anwybodaeth y cyhoedd a’r fasnach adeiladu am garthffosydd, oll yn ychwanegu at y broblem. Y cysylltiadau diffygiol mwyaf cyffredin yw peiriannau golchi dillad (35%), sinciau (10-15%), peiriannau golchi llestri (10-15%), tai bach (5%), a chartrefi cyflawn (5%).

8. Gyda chymorth awdurdodau lleol, mae cwmnïau dŵr, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn gweithio i fynd i’r afael â’r broblem yn lleol ac yn genedlaethol. Mae’r costau ymchwilio’n uchel. Mae’r cwmnïau dŵr yn gwario mwy a mwy ar ganfod camgysylltiadau yn y systemau carthffosiaeth; ac mae’r amcangyfrifon cyfredol yn dangos bod y gwaith i ymchwilio a chanfod yr holl gamgysylltiadau yn costio cymaint â £450 miliwn a chost y gwaith i gywiro’r draeniau yw £42 miliwn.

9. Mae cyfleuster a fydd yn eich helpu chi i chwilio am gamgysylltiadau ar wefan connectright.org.uk, ynghyd â rhagor o wybodaeth am gamgysylltiadau a llygredd sy’n gysylltiedig â charthffosydd.

10. Rhaid i ‘UK PLC’ gydymffurfio â’r safonau o ran ansawdd dŵr o dan rai Cyfarwyddebau Ewropeaidd. Gallwn ni i gyd chwarae ein rhan wrth amddiffyn ein hamgylchedd lleol.