Dod o hyd i osodwr cymeradwy


Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod unrhyw waith a wneir ar eich system neu eich ffitiadau plymio yn cydymffurfio â’r rheoliadau, ac yn helpu i gadw dŵr yfed yn ddiogel.

I wneud hyn, rydym yn argymell defnyddio contractwr cymeradwy. Mae nifer o fuddion yn gysylltiedig â hyn:

  • Maent yn gymwysedig, ac maent wedi cael hyfforddiant penodol ynghylch y rheoliadau.
  • Byddant yn rhoi tystysgrif ‘gwaith wedi’i gwblhau’ i chi ac i ni.
  • Caiff contractwr cymeradwy wneud rhywfaint o waith plymio heb ofyn am ein cymeradwyaeth ni, a all osgoi oedi.
  • Dylai fod ganddynt yr yswiriant cywir i’ch diogelu chi a’u hunain pe byddai rhywbeth yn mynd o’i le.
  • Caiff contractwyr a busnesau cymeradwy eu harchwilio i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio yn y ffordd gywir.

Ceir amrywiaeth o gynlluniau hyfforddi cymeradwy, megis WIAPS (Cynllun Plymwyr Cymeradwy y Diwydiant Dŵr), a gynhelir gan y Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr ar ran Dŵr Cymru a nifer o gwmnïau dŵr eraill. Mae’r ddolen ganlynol yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am WIAPS a sut y gall plymwyr gofrestru.Caiff yr holl gontractwyr neu fusnesau cymeradwy sydd wedi dilyn yr hyfforddiant hwn ddod yn aelodau o WaterSafe.

Mae WaterSafe yn dymuno gwella gwaith plymio a gwneud dŵr yfed mor ddiogel â phosibl. Maent yn gwneud hyn drwy ei gwneud yn hawdd i chi ddod o hyd i’r holl gontractwyr neu fusnesau cymeradwy yn y DU. Mae popeth ar-lein a chewch chwilio amdano isod. Er enghraifft, er bod modd gwerthu pob math o osodiadau, ffitiadau ac offer plymio, gallai’r ffordd y cânt eu defnyddio neu eu gosod wedyn fod yn anghyfreithlon. Dylai plymwyr cymeradwy wybod hyn a defnyddio gosodiadau, ffitiadau, offer a deunyddiau cymeradwy.