Ad-daliad dŵr wyneb


Efallai fod gennych hawl i wneud cais am ad-daliad dŵr wyneb. Rydym wedi darparu rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol isod fel y gallwch gael gwybod a ydych chi’n gymwys i gael ad-daliad a sut y gallwch wneud cais.

Beth yw dŵr wyneb?

Dŵr wyneb yw dŵr glaw sy’n syrthio ar eiddo ac yn rhedeg o bibellau glaw, tramwyfeydd neu lwybrau mewn i ddraen neu rigol ffordd i garthffos gyhoeddus. Mae taliadau carthffosiaeth y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn cynnwys y gost o waredu a thrin dŵr wyneb.

Fodd bynnag, mae rhai mathau o eiddo lle nad yw’r dŵr wyneb yn draenio i un o’n carthffosydd. Er enghraifft, gall dŵr wyneb ddraenio i ffos gerrig pwrpasol, neu i nant, afon neu gwrs dŵr drwy garthffos breifat. Os yw hyn yn berthnasol i’ch eiddo chi, efallai y gallech wneud cais i gael gostyngiad ar eich taliadau carthffosiaeth. Rydym yn galw hyn yn ad-daliad dŵr wyneb.

Gwyddom fod cwmnïau ar gael a fydd yn cysylltu â chi yn honni eu bod yn gallu lleihau eich bil dŵr. Mae’r cwmnïau hyn fel arfer yn codi ffi i weld a yw arbedion yn bosibl, neu yn cadw rhan o unrhyw arbedion a nodwyd. Cofiwch: nid oes angen talu trydydd parti am rywbeth y gallwch ei wneud yn uniongyrchol gyda ni am ddim.

Beth yw ad-daliad dŵr wyneb?

Mae bron pawb sydd wedi cysylltu â’n rhwydwaith o garthffosydd yn cyfrannu at y gost gyffredinol o ofalu am ddŵr glaw neu ddŵr wyneb sy’n mynd i mewn i’n system.

Ond os yw dŵr wyneb eich eiddo yn mynd i rywle arall yn hytrach nag i mewn i’n carthffosydd, yna gallwch wneud cais i gael gostyngiad yn y swm a dalwch tuag at y gost hon.

Ydw i’n gymwys?

Er mwyn gwneud cais am y gostyngiad, mae’n rhaid eich bod wedi eich cysylltu â’n carthffos gyhoeddus ac yn talu taliadau carthffosiaeth. Nodwch, nid yw casglu dŵr wyneb sy’n draenio o do mewn casgen ddŵr yn golygu eich bod yn gymwys i gael gostyngiad, gan nad yw’n strwythur parhaus.

Rydych ond yn gymwys i gael y gostyngiad os nad oes dim dŵr wyneb, dŵr glaw na dŵr daear yn mynd i mewn i'n rhwydwaith. Nid oes gostyngiad ar gyfer draenio rhannol, er enghraifft, ychydig o ddŵr yn mynd i mewn i ffos gerrig ac ychydig o ddŵr yn mynd i mewn i’n rhwydwaith.

Sut galla i wneud cais?

Ar gyfer eiddo domestig ac eiddo masnachol bach, dyma sut i wneud cais:

  • Gallwch gwblhau’r ffurflen gais yn ein llyfryn a’i dychwelyd atom i Dŵr Cymru, Blwch SP 690, Caerdydd CF3 5WL.
  • Gallwch ein ffonio ar 0800 052 6058 Rydym ar agor rhwng 8am ac 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00am a 1.00pm ar ddydd Sadwrn

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf wedi gwneud cais?

Pan fyddwn wedi cael eich cais, byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi beth fydd yn digwydd nesaf. Mae’n debygol y bydd angen i ni ymweld â’ch eiddo i gadarnhau’r trefniadau draenio. Mae’n bwysig iawn eich bod yn parhau i dalu eich taliadau yn ôl yr arfer tra rydym yn adolygu eich cais. Os na allwn dderbyn eich cais neu os nad ydych yn gymwys i gael yr ad-daliad byddwn yn esbonio pam.