Byrst mewn Pibell Ddŵr - Brychdwn

Wedi’i ddiweddaru: 19:00 16 August 2025

Rydym yn parhau i weithio i adfer cyflenwadau dŵr mewn rhannau o Sir y Fflint yn dilyn ein gwaith i drwsio'r brif bibell ddŵr oedd wedi byrstio ym Mrychdyn.

Mae'r broses o ail-lenwi'r rhwydwaith dŵr ar y gweill. Mae hyn yn broses ofalus wedi ei reoli er mwyn osgoi gollyngiadau eilaidd ac i amddiffyn ansawdd y dŵr ar draws rhwydwaith eang yma o dros 500km. Rydym yn disgwyl i gyflenwadau ddychwelyd i'r ardaloedd canlynol dros nos a bore yfory. Amcangyfrifon yw'r amseroedd hyn a gallent newid wrth i ni ail-lenwi'r rhwydwaith.

  • Nos Sadwrn: Disgwylir i gyflenwadau ddychwelyd i'r Fflint, Bagillt, Treffynnon, a rhannau o'r Wyddgrug erbyn tua 9 PM.
  • Yn hwyrach nos Sadwrn: Bydd ail gam yr ail-lenwi yn dod â dŵr yn ôl i Lannau Dyfrdwy, Cei Connah a mwy o ardaloedd o'r Wyddgrug erbyn tua 11 PM.
  • Canol Sul: Bydd y cam olaf yn canolbwyntio ar eiddo cyfagos ym Mrychdyn ac ardal ehangach Sir y Fflint, gyda disgwyl adferiad llawn erbyn amser cinio yfory.

Efallai y bydd rhai eiddo yn cymryd mwy o amser i weld eu cyflenwad dŵr wedi'i adfer yn llawn. Gall hyn ddigwydd am sawl rheswm. Gall cartrefi ar dir uwch brofi pwysedd isel neu gyflenwadau ysbeidiol ar y dechrau oherwydd bod dŵr yn cymryd mwy o amser i gyrraedd ardaloedd uwch. Gall aer sydd wedi'i ddal yn y system hefyd rwystro llif y dŵr, ac mae ein timau'n gweithio i leoli a rhyddhau'r aer hyn. Yn ogystal, gall ail-lenwi'r rhwydwaith ar ôl aflonyddwch mawr weithiau achosi byrst neu ollyngiadau eilaidd, ond mae gennym dimau wrth law i drwsio rhain cyn gynted â phosibl.

Mae'n ddrwg iawn gennym am yr aflonyddwch ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd wrth i ni weithio i adfer cyflenwadau arferol cyn gynted â phosibl yn ddiogel.

Mae poteli dŵr dal ar gael dros nos o:

  • Pafiliwn Jade Jones, Y Fflint CH6 5ER
  • Maes Parcio a Theithio, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, CH5 2NY
  • Maes Parcio Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NF

Gofynnwn i gwsmeriaid gymryd y poteli dŵr sydd ei angen yn unig ac iddynt gysylltu â chymdogion bregus neu hŷn.

Rydym wedi cadarnhau trefniadau iawndal ac wedi cyhoeddi llythyr agored at gwsmeriaid yma.

I gael y newyddion diweddaraf, ewch i Yn Eich Ardal neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Esbonio biliau anfesuredig


Os nad oes gennych fesurydd dŵr, byddwch yn gorfod talu cost sefydlog bob blwyddyn yn seiliedig ar eich eiddo. Yma, rydym yn rhoi manylion eich bil er mwyn i chi wybod beth yr ydych yn talu amdano, a beth y mae angen i chi ei wneud.

Sut caiff fy mil ei gyfrifo?

Mae’r swm yr ydym yn ei godi yn wahanol ar gyfer pob eiddo. Rydym yn bilio o 1 Ebrill i 31 Mawrth, neu o’ch dyddiad symud i mewn i 31 Mawrth os ydych wedi symud i mewn yn ddiweddar. Mae cyfradd sefydlog  ar gyfer y flwyddyn wedi’i seilio ar y canlynol:

  • Maint yr eiddo
  • Nifer yr ystafelloedd
  • Cyfleusterau lleol
  • Lleoliad yr eiddo
  • Cyflwr cyffredinol

Nid ydym ni’n bilio am faint o ddŵr yr ydych chi’n ei ddefnyddio, na nifer y bobl sy’n byw yn eich eiddo. Os byddai’n well gennych gael eich bilio am y dŵr yr ydych yn ei ddefnyddio, gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell i amcangyfrif eich defnydd a thaliadau ac yna gwneud cais ar-lein am fesurydd.

Taliadau Cartref Anfesuredig

Mae biliau anfesuredig yn cael eu hanfon unwaith y flwyddyn a hynny ar un o’r ddau fformat canlynol:

Tâl gwerth ardrethol - bydd y bil yn cynnwys cost sefydlog a chost fesul punt (£) o werth ardrethol ar gyfer yr eiddo

neu

Tâl Gwasanaeth Unffurf (ar gyfer eiddo a adeiladwyd rhwng 1 Ebrill 1990 a 31 Mawrth 2000) – mae’r taliadau wedi’u seilio ar werth ardrethol cyfartalog eiddo yng Nghymru.

Ein 2024-2025 costau yw:

Gwasanaethau Dŵr Anfesuredig £
Tâl sefydlog 124.30
Tâl yn seiliedig ar werth ardrethol - fesul punt o werth ardrethol 1.0676
Tâl Gwasanaeth Unffurf 263.09
Taliadau Carthffosiaeth Anfesuredig £
Tâl Sefydlog 221.46
Tâl sefydlog – dŵr budr yn unig 168.23
Tâl yn seiliedig ar werth ardrethol - fesul punt o werth ardrethol 1.7779
Tâl Gwasanaeth Unffurf 452.59
Tâl Gwasanaeth Unffurf – dŵr budr yn unig  399.36
Dŵr Wyneb yn unig - yn cynnwys draenio priffyrdd  55.10

Ein 2025-2026 costau yw:

Gwasanaethau Dŵr Anfesuredig £
Tâl sefydlog 179.83
Tâl yn seiliedig ar werth ardrethol - fesul punt o werth ardrethol 1.5607
Tâl Gwasanaeth Unffurf 382.72
Taliadau Carthffosiaeth Anfesuredig £
Tâl Sefydlog 276.18
Tâl sefydlog – dŵr budr yn unig 213.76
Tâl yn seiliedig ar werth ardrethol - fesul punt o werth ardrethol 2.1879
Tâl Gwasanaeth Unffurf 560.61
Tâl Gwasanaeth Unffurf – dŵr budr yn unig  498.19
Dŵr Wyneb yn unig - yn cynnwys draenio priffyrdd  74.41

Mae’r holl daliadau o 1 Ebrill i 31 Mawrth ar gyfer y blynyddoedd a nodwyd. Cyfrifir ein taliadau yn unol â lwfansau a bennir gan Ofwat, rheoleiddiwr y diwydiant dŵr. I gael rhagor o wybodaeth am ein costau defnyddio presennol, cyfeiriwch at ein crynodeb o gostau cartref:

Os ydych chi’n derbyn eich gwasanaethau carthffosiaeth gan Hafren Dyfrdwy, gweler costau Hafren Dyfrdwy yma.

Os ydych chi’n derbyn eich gwasanaethau carthffosiaeth gan Severn Trent, gweler costau Severn Trent yma.

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn derbyn fy mil?

Fe fyddwn yn danfon eich bil anfesuredig unwaith y flwyddyn rhwng mis Chwefror a mis Mawrth ar gyfer costau o 1 Ebrill i’r 31 Mawrth canlynol (fel eich bil treth gyngor).

Mae’n rhaid talu eich bil o fewn 14 diwrnod i’w dderbyn heblaw bod gennych gynllun talu neu Ddebyd Uniongyrchol ar waith. Os ydych chi’n talu eich bil erbyn 1 Ebrill, fe fyddwch yn cael disgownt o 1.5% ar eich taliad.

Debyd Uniongyrchol yw’r ffordd symlaf o dalu oherwydd y gallwch wasgaru’r gost dros flwyddyn, ac fe fyddwn ni’n cymryd y taliadau yn awtomatig. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein tudalen Debyd Uniongyrchol.

Os oes gennych chi gynllun talu ar waith ond yn methu â chadw at y trefniant, bydd y balans llawn sy'n ddyledus yn daladwy.

Os ydych chi’n symud tŷ

Os ydych chi’n symud allan o eiddo anfesuredig cyn 31 Mawrth ac y talwyd eich bil yn llawn, caiff unrhyw or-daliad ei ad-dalu neu ei drosglwyddo i’ch cyfeiriad newydd, felly ni fyddwch yn colli arian.