Rheoli eich Cyfrif Dŵr Cymru ar-lein
Nid yw gofalu am eich cyfrif Dŵr Cymru erioed wedi bod yn haws!
Eich bil blynyddol 2022
Dyma bopeth y mae angen i chi ei wybod
Os nad oes gennych fesurydd dŵr, byddwch yn derbyn eich bil blynyddol gennym rywbryd ym mis Chwefror neu fis Mawrth.
Dysgu mwyBeth mae Fy Nghyfrif yn ei gynnig?
Gweld gwybodaeth eich cyfrif am falans, biliau, taliadau a llythyrau ar-lein. Byddwch chi hefyd yn gallu lawrlwytho biliau diweddar i’w hargraffu gartref.
Os ydych chi’n defnyddio mesurydd dŵr, byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd angen i chi ei ddarllen. Rydym ni wedi ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i chi gyflwyno’r darlleniad ei hun hefyd!
Sefydlu debyd uniongyrchol i dalu eich bil neu newid y dyddiad a’r manylion banc ar gyfer eich debyd uniongyrchol gweithredol.
Gwneud taliad ar-lein ar gyfer eich cyfrif ac arbed amser drwy basio ein gwiriadau diogelwch.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes unrhyw broblemau yn effeithio ar eich ardal chi (er enghraifft, os oes pibell wedi byrstio neu argyfwng yn eich ardal chi). Yna gallwch chi gael rhagor o wybodaeth a chofrestru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein cynnydd drwy e-bost
Bydd cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif hefyd yn golygu y byddwch chi’n derbyn eich bil ar-lein ac nid drwy’r post. Yn hytrach, byddwch yn gallu gweld eich bil ar unwaith yn eich cyfrif ar-lein diogel ar unrhyw adeg. Byddwn yn anfon e-bost neu neges destun atoch i roi gwybod i chi fod eich bil neu lythyrau ar gael hefyd.
Trwy gofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif, byddwch chi’n gweld unrhyw nodweddion newydd cyn gynted ag y cânt eu cyhoeddi – felly bydd gennych chi’r offer gorau i reoli’ch cyfrif bob amser.
Ar y gweill...
Rydym bob amser yn gwella ein gwasanaethau ar-lein, ac mae'r nodweddion hyn yn cael eu datblygu i'w rhyddhau'n fuan...
Cymharu eich defnydd o ddŵr â'r aelwyd gyfartalog
Mae hyn yn rhoi cyfle i gymharu eich defnydd o ddŵr ag aelwyd gyfartalog o'r un maint, gan roi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud unrhyw newidiadau i'ch defnydd ac arbed arian, dŵr a'r amgylchedd!
Tracio’ch problemau
Os ydych wedi mewngofnodi i’ch cyfrif byddwch yn gallu tracio unrhyw broblemau yr ydych wedi’u hadrodd a’r cyfan mewn un lle.