Symud allan o'ch llety myfyrwyr

Information

Os mai chi yw deiliad y cyfrif a’ch bod yn symud allan o'ch llety myfyriwr, naill ai i eiddo arall neu'n cau eich cyfrif, gallwch fewngofnodi neu gofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif a rhoi gwybod i ni ar-lein yma.

Mae cwestiynau cyffredin am lety myfyrwyr ar gael yma.

Rydym ni eisiau gwneud popeth y gallwn i annog cwsmeriaid i ddod o hyd i ollyngiadau a’u trwsio cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn ein helpu i leihau gollyngiadau a gallai arbed arian i chi. Dilynwch ychydig o gamau rhwydd i weld a oes gollyngiad o fewn ffiniau eich eiddo chi.

Gwirio am ollyngiadau

O bryd i’w gilydd mae gollyngiadau yn digwydd a gall hyn fod oherwydd oedran y bibell, gwendid yn y bibell, ffitiadau neu uniadau sy'n gollwng a symudiad yn y ddaear.

Ymdrin â gollyngiadau dŵr

Os yw eich pibell wedi byrstio, peidiwch â chynhyrfu.

  • Ceisiwch ddod o hyd i ble mae'r gollyngiad - yna atal y cyflenwad drwy droi'r stoptap i’r dde.
  • Agorwch bob tap i leihau llifogydd.
  • Amsugnwch neu rhwystrwch y dŵr sy'n dianc gyda thyweli trwchus.
  • Diffoddwch eich trydan: os yw'r dŵr yn agos at unrhyw beth trydanol - gan gynnwys goleuadau, socedi neu declynnau - peidiwch â'u cyffwrdd. Gall gwifrau trydan sy'n cael eu difrodi gan ddŵr fod yn beryglus iawn ac mae'n debyg y bydd angen i chi ffonio gweithiwr proffesiynol i atgyweirio’r difrod.
  • Ffoniwch blymwr cofrestredig - os oes angen cymorth arnoch i atgyweirio pibell sydd wedi byrstio, cysylltwch â phlymwr sydd wedi’i gymeradwyo gan Watersafe..

Perchnogaeth a Chyfrifoldeb Dros Bibellau

Generic Document Thumbnail

Llyfryn Gollyngiadau Preifat

PDF, 348.7kB