Carthffosydd wedi’u rhwystro a llifogydd


Mae ein tîm o arolygwyr carthffosydd yn gweithio i helpu i gadw ein rhwydwaith carthffosiaeth yn glir. Ond weithiau, bydd rhwystrau’n digwydd a all stopio, neu leihau llif carthion drwy garthffosydd.

Nodi rhwystrau

Dyma rai arwyddion fod rhwystr gennych:

  • Arogl gwael o amgylch yr eiddo
  • Dŵr neu wastraff sy’n draenio’n araf neu nad yw’n draenio, gan gynnwys tyllau plygiau
  • Twll/tyllau caead y tu allan i’r eiddo yn gorlifo

Beth i’w wneud nesaf os oes rhwystr gennych

Mae angen i ni gadarnhau pwy sy’n gyfrifol am ba bibellau gan mai perchennog y cartref sy’n gyfrifol am y pibellau mewnol. Gwyliwch ein fideo isod, sy’n para 2 funud, ac edrychwch ar y diagram i benderfynu pwy sy’n gyfrifol.

Os mai chi sy’n gyfrifol am y pipellau, bydd angen i chi gysylltu â phlymwr.

Os mai carthffos gyhoeddus sydd wedi achosi’r rhwystr, ffoniwch ni cyn gynted â phosibl ar 0800 085 3968. Bydd aelod o’n tîm yn eich ffonio’n ôl o fewn yr awr i roi gwybod i chi pryd y byddwn yn dod. Byddwch hefyd yn cael enw unigolyn cyswllt a fydd yn rheolwr achos i chi yn ystod y digwyddiad.

Byddwn yn ymateb i rwystrau bob amser. Byddwn yn ceisio cyrraedd o fewn 24 awr. Weithiau, yn enwedig yn ystod tywydd garw, mae’n bosibl y byddwn yn cymryd ychydig yn hirach, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd y byddwn yn debygol o gyrraedd.

Pan fyddwn yn dod, os yw’r rhwystr yn cael ei achosi gan garthffos gyhoeddus, byddwn yn ei glirio am ddim. Os yw yn eich pibellau preifat, efallai y byddwn yn gallu ei glirio ond codir tâl am hyn. Bydd ein gweithredwr jetio yn trafod hyn â chi yn ystod ei ymweliad. Ein tâl am glirio rhwystr preifat yn cynnwys TAW yw £165.58.

Llifogydd Mewnol

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

Os mai carthffos gyhoeddus sydd wedi achosi’r llifogydd, ffoniwch ni cyn gynted â phosibl ar 0800 085 3968. Bydd aelod o’n tîm yn ceisio cysylltu â chi o fewn yr awr i roi gwybod i chi pryd y byddwn yn dod. Byddwch hefyd yn cael enw unigolyn cyswllt a fydd yn rheolwr achos i chi yn ystod y digwyddiad.

Byddwn yn ymateb i lifogydd carthion bob amser. Byddwn yn ceisio cyrraedd o fewn 2 awr, ddydd neu nos. Weithiau, yn enwedig yn ystod tywydd garw, mae’n bosibl y byddwn yn cymryd ychydig yn hirach, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd y byddwn yn debygol o gyrraedd.

Yr hyn sydd angen i chi ei wneud

Cysylltu â’ch cwmni yswiriant ar unwaith i roi gwybod am y llifogydd ac am unrhyw ddifrod a achoswyd. Bydd yn gallu eich helpu i drefnu glanhau a sychu eich eiddo, dod o hyd i lety amgen os bydd angen, a rhoi cyngor a chymorth i chi ynghylch gwneud cais am iawndal neu golledion.

Pan fyddwn wedi cadarnhau beth sydd wedi achosi’r llifogydd, byddwn yn cael gwared â gweddillion carthffosiaeth ac yn diheintio lle bo modd. Y gobaith yw y byddwn yn gwneud hyn ar yr un diwrnod, ond yn ystod cyfnodau prysur, gallai hyn fod y diwrnod wedyn.

Llifogydd Allanol

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

Os mai carthffos gyhoeddus sydd wedi achosi’r llifogydd, ffoniwch ni cyn gynted â phosibl ar 0800 085 3968. Bydd aelod o’n tîm yn eich ffonio’n ôl o fewn yr awr i roi gwybod i chi pryd y byddwn yn dod. Byddwch hefyd yn cael enw unigolyn cyswllt a fydd yn rheolwr achos i chi yn ystod y digwyddiad.

Byddwn yn ceisio cyrraedd o fewn 4 awr. Weithiau, yn enwedig yn ystod tywydd garw, mae’n bosibl y byddwn yn cymryd ychydig yn hirach, ond byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd y byddwn yn debygol o gyrraedd.

Pan fyddwn wedi atal yr hyn sydd wedi achosi’r llifogydd, byddwn yn clirio’r holl weddillion carthion o’r ardaloedd yr effeithir arnynt. Byddwn yn diheintio unrhyw ardaloedd sydd wedi dioddef llifogydd. Noder: byddwn ond yn gallu glanhau o dan decin os yw wedi’i godi i ni ymlaen llaw.

Yr hyn sydd angen i chi ei wneud

Os bydd unrhyw ddifrod i’ch gardd, e.e. lawnt, cerrig mân ac ati, cysylltwch â’ch cwmni yswiriant cartref a all roi cyngor a chymorth i chi ar wneud cais am iawndal a cholledion.

Bydd angen i chi gyfyngu ar ddefnyddio’r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt hyd nes y bydd y gwaith wedi gorffen. Mae canllawiau’r diwydiant dŵr yn dweud y bydd yr ardd yn ddiogel ar ôl glanhau a chyfnod cwarantin, fel a ganlyn:

Tymor

Glaswellt/Clai

Pridd/Tywod/Cerrig mân/Rhisgl

Gwanwyn 13 diwrnod 20 diwrnod
Haf 6 diwrnod   9 diwrnod
Hydref 13 diwrnod 20 diwrnod
Winter 18 diwrnod 11 diwrnod

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Yr hyn y byddwn yn ei wneud

Rydym yn ymchwilio i bob achos o lifogydd carthffosydd. Bydd aelod o dîm Dŵr Cymru yn cwrdd â chi a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddeall pam y digwyddodd y llifogydd.

Byddwn yn cynnal ymchwiliad llawn, gan gynnwys arolwg teledu cylch cyfyng o’r garthffos, er mwyn helpu i gadarnhau beth sydd wedi achosi’r llifogydd.

Os byddwch yn dioddef llifogydd oherwydd un o’n carthffosydd, bydd gennych hawl i daliad drwy ein Safonau Gwasanaeth Gwarantedig (GSS), yn unol â rheoliadau’r diwydiant. Byddwch hefyd yn cael taliad ewyllys da o £100 os bydd llifogydd yn eich cartref. Byddwch yn cael y taliad hwn o fewn 7 diwrnod.

Gwerthoedd taliad GSS

Llifogydd carthion mewnol Os byddwch wedi dioddef llifogydd carthion mewnol gan un o’n carthffosydd (lle mae carthion yn mynd i mewn i adeilad neu eich cartref neu garej fewnol), byddwn yn rhoi taliad i chi sy’n cyfateb i’ch bil carthffosiaeth blynyddol (isafswm £150 ac uchafswm £1000 fesul digwyddiad) o fewn 20 diwrnod gwaith.

Llifogydd carthion allanol difrifol: Os bydd carthion yn mynd i mewn i’ch tir neu’ch eiddo ac yn eich atal rhag mynd i mewn i’ch cartref; yn achosi llifogydd helaeth yn eich gardd, gan arwain i bob pwrpas at ei dinistrio; neu eich adeiladau allanol/garejis nad ydynt yn hanfodol yn dioddef llifogydd o’n carthffosydd, byddwn yn rhoi taliad i chi sy’n cyfateb i hanner eich bil carthffosiaeth blynyddol (isafswm £75 ac uchafswm £500 fesul digwyddiad) o fewn 20 diwrnod gwaith.