Mae’n ddrwg gennym, nid oes erthyglau blog
15:00 01 December 2023
Rydym profi tymheredd isel mewn nifer o’n cymunedau gyda thywydd rhewllyd ac ia. Mae yna beryg y bydd pibellau dŵr yn rhewi ac yn byrstio.
Byddwn yn gweithio ddydd a nos er mwyn cynnal cyflenwadau dŵr ond rydym angen eich help.
Rydym yn gofyn i gwsmeriaid i ofalu am eu pibellau dŵr drwy sicrhau bod tapiau a phibellau allanol wedi eu gorchuddio a dylech wybod ble mae eich ‘stop tap’ rhag ofn bod yna broblemau. Os ydych yn sylwi bod ein rhwydwaith ni n gollwng dŵr, ffoniwch ni ar 0800 052 0130 – neu rhowch wybod i ni ar-lein - fel y gallwn ddatrys hyn yn gyflym.
Er mwyn dysgu mwy am sut i baratoi eich cartref ar gyfer y tymheredd rhewllyd, ewch i’n tudalennau Paratowch am y Gaeaf.
Cadwch yn ddiogel.
Mae’n ddrwg gennym, nid oes erthyglau blog