Eich cais am fesurydd dŵr
Rydym yn derbyn llawer iawn o geisiadau am fesurydd ar hyn o bryd felly efallai y bydd yn cymryd mwy o amser nag arfer i ni gysylltu â chi.
Peidiwch â phoeni, nid oes angen cysylltu â ni eto, dyma beth allwch chi ei ddisgwyl wrth i ni brosesu eich cais:
Byddwch yn cael tâl gostyngol
Rydym yn y broses o gymhwyso tâl gostyngol o ddyddiad y cais i'r holl gwsmeriaid sydd wedi gwneud cais ac sy'n aros am eu hapwyntiad arolwg. Byddwn yn ysgrifennu atoch i’w gadarnhau pan fydd wedi ei drefnu.
Cael apwyntiad arolwg mesurydd
Os nad ydych wedi derbyn dyddiad ar gyfer apwyntiad mesurydd eto, byddwch yn cael galwad o fewn 10 diwrnod o rif 0330 pan fyddwn yn ceisio trefnu apwyntiad gyda chi. Byddwn yn ceisio eich ffonio 3 gwaith, ar y 3ydd ymgais byddwn yn gadael neges llais. Bydd y neges llais yn gofyn i chi gysylltu â ni o fewn 7 diwrnod i gadarnhau apwyntiad, os na dderbynnir cyswllt byddwn yn canslo eich apwyntiad mesurydd ac yn tynnu'r ffioedd dros dro (AMC) o'ch cyfrif.
Beth fydd yn digwydd ar y diwrnod?
Ar ddiwrnod eich apwyntiad bydd ein syrfewyr yn asesu a allwn osod mesurydd yn yr eiddo. Ein polisi yw gosod ein mesuryddion yn allanol, ond lle nad yw hyn yn bosibl, efallai y bydd angen i ni asesu a allwn osod un yn fewnol yn lle hynny. Byddwn yn rhoi gwybod i chi ar y diwrnod os yw hyn yn wir.
Beth fydd yn digwydd ar ôl yr apwyntiad?
Os ydym wedi gosod mesurydd, byddwn yn diweddaru eich cyfrif, yn cadarnhau eich bod bellach yn cael eich bilio ar y mesurydd ac yn newid eich trefniant talu i adlewyrchu bilio mesuredig. Os nad ydym wedi gallu gosod mesurydd, byddwch yn aros ar y tâl gostyngol a gymhwyswyd gennym yn ystod eich proses o wneud cais.