Cais am fesurydd dŵr

Information

Rydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau ac mae’n cymryd mwy o amser nag yr hoffem i drefnu apwyntiadau. Mae eich cais wedi ei gofnodi ac nid oes angen cysylltu â ni.

Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl wrth i ni brosesu eich cais.

Os ydych chi am gyflwyno cais am fesurydd, gallwch wneud hynny ar lein.

Cartref

Helpu chi yn eich cartref a'ch cymuned i arbed dŵr, ynni ac arian.

Mae Cartref yn dîm sy’n gweithio’n agos gyda chwsmeriaid drwy gynnig nifer o wasanaethau personol, o gynnig atgyweiriadau toiledau gollwng am ddim gan ein plymwyr, yn ogystal a ymweliadau effeithlonrwydd dŵr yn eich tŷ i helpu chi i ddeall eich defnydd o ddŵr a sut y gallwch wneud newidiadau bach a gall cael effaith fawr ar eich biliau ac ar yr amgylchedd.

Efallai welwch chi ni o gwmpas y lle neu mewn digwyddiadau yn eich ardal leol yn gweithio gyda grwpiau cymunedol a phartneriaid.