Byrst mewn Pibell Ddŵr - Brychdwn

Wedi’i ddiweddaru: 22:30 13 August 2025

Mae’n ddrwg gennym orfod rhoi gwybod i gwsmeriaid ein bod ni wedi cael problemau pellach gyda’r atgyweiriad dros dro a wnaethom ar y byrst mewn prif bibell ddŵr ym Mrychdwn. Mae hyn yn golygu bod angen i ni gyflawni atgyweiriad llawn ar frys, a bydd hynny’n effeithio ar gyflenwadau dŵr cwsmeriaid yn y cymunedau canlynol unwaith eto: Fflint, Treffynnon, Ffynnongroyw, Maes Glas, Llannerch y Môr, Mostyn, Oakenholt, Talacre, Chwitffordd, Queensferry, Shotton, Connah's Quay.

Er mwyn cynorthwyo’r cwsmeriaid o dan sylw:
  • Mae gorsaf dŵr potel yn Pafiliwn Jade Jones 60 Earl St, Flint CH6 5ER
  • Rydym yn dosbarthu dŵr potel i'n cwsmeriaid mwyaf agored i niwed heno ac yfory.
  • Rydyn ni wedi cysylltu â chwsmeriaid yn yr ardal o dan sylw trwy neges destun.

Gallwn eich sicrhau chi bod ein timau’n gweithio’n galed i ddatrys y digwyddiad sylweddol yma’n gyflym ac yn ddiogel.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma. I gael y newyddion diweddaraf, ewch i Yn Eich Ardal  neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ansawdd dŵr yfed


Mae Dŵr Cymru’n darparu dŵr yfed diogel a dibynadwy ar gyfer dros 1.4 miliwn o gartrefi a busnesau.

Cyflenwi dŵr yfed iachus, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn yw ein blaenoriaeth uchaf. Mae hyn yn golygu bod ein dŵr tap yn parhau i fod yn rhydd o gemegau a bacteria niweidiol ac yn blasu’n ddymunol.

Bob blwyddyn, cymerir dros 300,000 o samplau o'n gwaith trin dŵr, cronfeydd dŵr gwasanaeth ac eiddo cwsmeriaid. Bob dydd, mae samplau dŵr yn cael eu cymryd ym mhob rhan o’n system gyflenwi ac yn cael eu dadansoddi yn ein labordai sy’n cynnwys offer o'r radd flaenaf.

Rhaid i'r dŵr rydyn ni'n ei gyflenwi fodloni'r safonau a nodir yn Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018. Os hoffech wybod mwy am yr holl baramedrau rydyn ni'n eu monitro, edrychwch ar ein Adroddiadau Parth Ansawdd Dŵr ar ein gwefan Yn Eich Ardal.

Fideos gwybodaeth am ansawdd dŵr