Landlordiaid: deddfwriaeth Llywodraeth Cymru


Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth newydd sy'n effeithio ar unrhyw landlord/asiant gosod/Awdurdod Lleol (yng Nghymru a Lloegr) y mae ei eiddo yn cael gwasanaethau dŵr neu garthffosiaeth gan Ddŵr Cymru Welsh Water.

Daeth y ddeddfwriaeth i rym ar 1 Ionawr 2015 ac mae'n gofyn bod landlordiaid yn hysbysu Dŵr Cymru am y tenantiaid sydd yn eu heiddo cyn pen 21 diwrnod ar ôl i'r tenantiaid symud i mewn. Os na fydd landlord yn gwneud hyn, gall fod yn atebol ar y cyd ac yn unigol â'r tenant am unrhyw daliadau dŵr a charthffosiaeth a ddaw'n ddyledus.

Bydd angen darparu'r manylion canlynol:

  • Cyfeiriad yr eiddo
  • Diwrnod dechrau'r denantiaeth
  • Teitl, enw a dyddiad geni'r holl breswylwyr mewn oed

Trwy fynd i www.landlordtap.co.uk

Porth gwe a ddatblygwyd gan y diwydiant dŵr i helpu landlordiaid i reoli eu portffolio o gyfrifon yn hwylus dros y rhyngrwyd yw hwn. Un o'r manteision yw ei fod yn storio'r data rydych chi'n ei anfon atom gan greu cofnod cynhwysfawr y gallwch gyfeirio ato yn y dyfodol.

Am gopi o ganllaw Llywodraeth Cymru, ewch i clic yma.

Os nad ydych chi’n siŵr am eich rhwymedigaeth i ni, gwyliwch y fideo byr isod.

Adnoddau am ddim i werthwyr tai a landlordiaid

ZIP, 6.8MB

Rydyn ni’n gwybod bod symud tŷ yn gallu bod yn brofiad anodd a drud i rai, felly rydyn ni am eich helpu chi i helpu’ch tenantiaid.


Mae Dŵr Cymru wedi datblygu cynnwys rhad ac am ddim i werthwyr tai a landlordiaid. Mae eich pecyn cymorth rhad ac am ddim yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol i berchnogion tai neu denantiaid newydd; fel sut y dylai myfyrwyr ddelio â’u biliau dŵr, sut i sicrhau eich bod chi’n cael biliau cywir am eich dŵr, a sut i arbed dŵr ac ynni ar ôl symud i mewn. Fe ffeindiwch chi blogiau, delweddau, negeseuon cymdeithasol a mwy, sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol a fydd o gymorth i chi gobeithio.


Croeso i chi ddefnyddio’r rhain ar eich sianeli eich hunain a’u haddasu yn ôl yr angen i sicrhau eu bod yn gyson â’ch brand, eich tôn llais, a gofynion eich SEO.