Cymuned Cartref


Mae Cartref yn helpu cwsmeriaid i ddeall faint o ddŵr maen nhw'n ei ddefnyddio, ymhle y gallant wneud arbedion, ac un rhan o'r gwasanaeth yn cynnwys trwsio tai bach sy'n gollwng am ddim.

Er taw ein prif ffocws yw trwsio gollyngiadau a chyflawni ymweliadau effeithlonrwydd dŵr domestig, rydyn ni’n gweithio gyda chymunedau a busnesau ar draws Cymru hefyd er mwyn helpu i ledu’r neges.

Ydych chi wedi ein gweld ni yn eich cymuned?

Rydyn ni wedi bod yn gweithio ein ffordd ar draws y wlad, gan ledu’r gair am effeithlonrwydd dŵr, siarad â chwsmeriaid am Cartref a’r gwasanaethau sydd ar gael iddynt, a’u cynorthwyo nhw i arbed dŵr ac arbed arian.

Rydyn ni wedi bod yn cyfarfod â grwpiau cymunedol lleol, busnesau, cymdeithasau tai, ysgolion a chynghorwyr, gan gynnig ein gwasanaethau lle bo modd. Rydyn ni’n cynnal sgyrsiau penodol hefyd i drafod materion effeithlonrwydd dŵr er mwyn helpu cwsmeriaid i arbed dŵr ac arian.

Am weithio gyda ni?

Os oes diddordeb gennych chi gwrdd â'r tîm neu os ydych chi am i ni ddod i siarad â'ch grŵp cymunedol, ysgol neu fusnes lleol, rhowch wybod i ni. Byddai'n braf clywed gennych. Rhowch wybod i ni trwy gysylltu â Cartref@dwrcymru.com.

Generic Document Thumbnail

Helpwch ni i ledu'r gair

PDF, 482.8kB

Mae toiled sy’n gollwng yn gallu fflysio cannoedd o bunnoedd i lawr y tŷ bach bob blwyddyn, a gall ymweliad effeithlonrwydd dŵr cartref helpu cwsmeriaid i arbed arian ar eu biliau!

Rydyn ni am helpu cynifer o bobl ag y gallwn ni, ac mae angen eich cymorth arnom yn hynny o beth. Darllenwch ein Pecyn i Randdeiliaid i’n helpu ni i ledu’r neges i unrhyw un a allai elwa ar ein gwasanaethau.

Allan yn y gymuned