Abergele Smart Town
Rydyn ni wrth ein bodd i gael cydweithio â phobl fendigedig Abergele i ddarganfod ffyrdd arloesol o arbed dŵr a lleihau biliau, a allai fod yn fuddiol i gymunedau ar draws Cymru.
Rydyn ni’n eich gwahodd chi i fod yn rhan o’r siwrnai yma trwy roi cynnig ar ein dulliau a’n dyfeisiau arbed dŵr newydd am ddim. Rhannwch eich profiadau â ni i’n helpu ni i greu dyfodol mwy cynaliadwy.
Syniad i Arbed Dŵr yn Abergele
Oes syniad gennych i’w rhannu â ni am ffordd o arbed dŵr?
Sganiwch y cod QR a rhannwch eich syniad â ni.
Cwestiynau Cyffredin
Rydyn ni wrth ein bodd i gael cydweithio â phobl fendigedig Abergele i ddarganfod ffyrdd arloesol o arbed dŵr a lleihau biliau, a allai fod yn fuddiol i gymunedau ar draws Cymru. Rydyn ni’n eich gwahodd chi i fod yn rhan o’r siwrnai yma trwy roi cynnig ar ein dulliau a’n dyfeisiau arbed dŵr newydd am ddim. Rhannwch eich profiadau â ni a’n helpu ni i greu dyfodol mwy cynaliadwy.
Ni fydd unrhyw un o’n mentrau arbed dŵr yn effeithio ar eich bil dŵr, ond gallech ffeindio eich bod chi’n arbed arian.
Bydd y fenter yn ein helpu ni i ddeall patrymau defnydd dŵr yn eich rhanbarth yn well, ac yn ein helpu ni i ddatblygu strategaethau i sicrhau cyflenwad cynaliadwy o ddŵr at y dyfodol yn ogystal â gwella’r amgylchedd. Yn ystod y prosiect yma, byddwn ni’n cynorthwyo’r gymuned lle bynnag y bo modd, ac rydyn ni eisoes wedi dechrau gwneud hynny trwy wneud cyfraniad at Abergele yn ei Blodau.
Na fydd, dydyn ni ddim yn disgwyl iddo darfu dim ar y gymuned, ond os oes unrhyw broblemau gennych, croeso i chi gysylltu â ni.
Os oes unrhyw broblemau gennych, e-bostiwch ein tîm pwrpasol yn SmartTown@dwrcymru.com, lle bydd aelod o staff yn gallu eich cynorthwyo.
I gofrestru i gael mesurydd dŵr, cliciwch ar y linc yma.