Frwydr Dŵr ap
Yn Dŵr Cymru, rydyn ni am helpu plant i ddeall pwysigrwydd arbed dŵr, a sut y gall newidiadau bach yn eu bywydau pob dydd wneud gwahaniaeth mawr — gan helpu i arbed dŵr, ynni ac arian.
Beth yw’r Frwydr Dŵr?
Mae’r Frwydr Dŵr yn helpu plant i ddeall pwysigrwydd arbed dŵr trwy droi’r peth yn gêm hwyliog ac addysgiadol. Mae’n addysgu plant am werth defnyddio dŵr yn ddoeth, a’r effaith bositif y gall hynny ei chael am genedlaethau i ddod.
Ar gyfer pwy mae’r ap yma?
Plant 6-13 oed
Dyluniwyd yr ap â chynulleidfa ifanc mewn golwg. Wrth chwarae’r ap, bydd y plant yn helpu creaduriaid bychain i oroesi mewn byd sy’n cael ei beryglu gan ddŵr, sy’n addysgu’r meddyliau ifanc am ddefnydd cyfrifol o ddŵr, a ffyrdd o arbed dŵr.
Rhieni a gwarcheidwaid
Chwaraewch gyda’ch plentyn, enillwch bwyntiau a thraciwch sut mae siwrnai arbed dŵr eich plentyn yn mynd.
Sut mae chwarae’r Frwydr Dŵr?
Bydd plant yn ennill pwyntiau trwy gwblhau lefelau ar yr ap, a gall eu rhieni neu warcheidwaid gymryd rhan trwy gofnodi defnydd y teulu o ddŵr.
Gall rhieni neu warcheidwaid ennill pwyntiau hefyd, a helpu eu plant i ddatblygu’n gynt trwy wneud mân-addasiadau i’w harferion pob dydd o ran defnyddio dŵr.
Gyda’i gilydd, mae teuluoedd yn dysgu am ddefnydd cynaliadwy o ddŵr, yn ennill rhagor o bwyntiau, ac yn gweithio tuag at ennill y Frwydr Dŵr.
Sganiwch y cod Apple QR i lawrlwytho ap y Frwydr Dŵr heddiw
Lawrlwythwch ap y frwydr dŵr gan ddefnyddio’r cod QR neu’r linc isod.
Llawrlwytho ymaSganiwch y cod Google QR i lawrlwytho ap y Frwydr Dŵr heddiw
Lawrlwythwch ap y frwydr dŵr gan ddefnyddio’r cod QR neu’r linc isod.
Llawrlwytho yma