Byrstio yng Ngwaith Trin Dŵr Bryn Cowlyd

Updated: 10:00 17 January 2025

Mae ein timau wedi bod yn gweithio dros nos i atgyweirio'r prif gyflenwad dŵr sy'n effeithio ar gyflenwadau cwsmeriaid yn Nyffryn Conwy.

Rydym wedi agor gorsaf dŵr potel yn:

  • Zip World Conwy, LL32 8QE
  • Parc Eirias LL29 7SP

Mae dŵr potel ar gael at ddibenion yfed.

Mae gennym danciau sefydlog i gwsmeriaid ddod â'u cynwysyddion eu hunain i'w llenwi. Dylid ond defnyddio dŵr hwn ar gyfer fflysio.

Gofynnwn i gwsmeriaid weithio gyda ni a chymryd dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch.

Byddwn hefyd yn parhau i gefnogi ein cwsmeriaid agored i niwed yn uniongyrchol ar y Gofrestr Gwasanaeth â Blaenoriaeth.

Diolch yn fawr am eich amynedd wrth i ni weithio i adfer cyflenwadau.

Gall cwsmeriaid gael y wybodaeth ddiweddaraf ar yn eich ardal neu ein dilyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

A yw'ch toiled yn gollwng?


Allwch chi weld y dŵr yn llifo'n ddi-baid yn y toiled? Gallai fod yn ddiferyn neu’n llif. Efallai bod gennych ddŵr yn gollwng.

Upload a video QR code

Anfonwch ymholiad atom

PDF, 79.6kB

Defnyddiwch y ddolen hon neu sganiwch y cod QR a lanlwythwch fideo byr am y broblem, wedyn atebwch ambell i gwestiwn. Bydd aelod o'r tîm yn gwylio'r fideo ac yn rhoi galwad i chi cyn pen pum diwrnod gwaith i roi gwybod i chi a allwn ni helpu - am ddim, wrth gwrs! Neu gallwch lawrlwytho’r cod QR isod.

Os ydych chi'n cael trafferth gyda'r fideo, peidiwch â phoeni, defnyddiwch y linc i lenwi ein ffurflen ar lein.

Gweler y ddogfen isod am ragor o fanylion.

Generic Document Thumbnail

Helpwch ni i ledu'r gair

PDF, 482.8kB

Gall tŷ bach sy'n gollwng fflysio cannoedd o bunnoedd i lawr y draen bob blwyddyn. Rydyn ni eisiau helpu cynifer o bobl ag y gallwn ni, ac mae angen eich cymorth chi. Rhannwch y neges hon ag unrhyw un fyddai'n gallu elwa ar y gwasanaeth yma.

Get Water Fit

Cofrestrwch i gael Get Water Fit, archebu’ch dyfeisiau arbed dŵr a dechrau gwneud arbedion.

Cliciwch yma