Gwanwyn a haf 2025 oedd y mwyaf cynnes ar gofnod yn y DU, a chafwyd pedwar cyfnod o dywydd poeth iawn yng Nghymru.

Er gwaetha’r sialensiau, fe lwyddon ni i ddod drwy’r cyfnod yma o dywydd sych a phoeth heb orfod rhoi gorfodi unrhyw gyfyngiadau dros dro ar ddefnydd - fel gwaharddiadau ar bibellau dyfrio.

Beth rydyn ni wedi ei wneud dros y gwanwyn a’r haf

Dros y gwanwyn a’r haf, fe fuon ni’n monitro lefelau’r cronfeydd ar draws ein hardal weithredu’n ofalus iawn am eu bod nhw ychydig bach yn is na’r lefelau arferol ar gyfer yr adeg honno o’r flwyddyn.

Yn ystod y cyfnodau o dywydd poeth dros y misoedd diwethaf, gwelwyd cynnydd sylweddol yn y galw am ddŵr – gan gynyddu cymaint â 20% yn ystod y tywydd poeth iawn.

Hoffem ddiolch i’n cwsmeriaid am ein cynorthwyo ni trwy ddefnyddio dŵr mewn ffordd gyfrifol a lleihau eu defnydd.

Mae cyflymu rhaglen trwsio gollyngiadau Dŵr Cymru wedi cael effaith sylweddol wrth gynnal cyflenwadau dŵr ar draws Cymru, gyda dros 16,000 o atgyweiriadau’n cael eu cyflawni ar draws yr ardal weithredu ers dechrau’r flwyddyn. Yng Ngheredigion yn unig, cwblhawyd 817 o atgyweiriadau rhwng Ebrill ac Awst.

Mae ein fflyd o danceri dŵr wedi bod yn symud dŵr o gwmpas y rhwydwaith er mwyn ategu’r tanciau dŵr yfed mewn ardaloedd lle mae’r galw yn uchel. 

Rhybuddion Gweithredol Ar Waith

Nid oes unrhyw pryder am unrhyw ardaloedd ar hyn o bryd.

Lefelau’r cronfeydd dŵr

Dŵr wyneb yw ffynhonnell tua 95% o’n hadnoddau dŵr, naill ai o gronfeydd storio neu ddŵr sy’n cael ei godi o afonydd. Mae’r ddelwedd isod yn dangos y sefyllfa o ran lefelau ein cronfeydd. Mae hyn yn cael ei ddiweddaru bob wythnos.

Ychydig iawn o ddibyniaeth sydd gennym ar gyflenwadau dŵr daear.

Mae’r ddibyniaeth yma ar ddŵr wyneb yn gallu ein gadael ni’n fwy bregus i gyfnodau byr o lawiad isel am fod lefelau afonydd yn newid yn gynt na dŵr daear. Cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw lefelau afonydd.

Camau Sychder

Rydyn ni’n dilyn pum cam gweithredu yn ein Cynllun Gweithredu ar Sychder, sy’n cael eu rheoli trwy fesurau rheoli galw. Rydyn ni’n cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac asiantaethau eraill ar bob cam yn rhan o Grŵp Cyswllt Sychder Cymru.

Cam 1 - Gweithrediad Arferol

Dyma’r sefyllfa ar gyfer y rhan fwyaf o’r flwyddyn, ond mae ein 23 parth adnoddau dŵr ar draws Cymru’n gallu symud i wahanol gamau ar wahanol adegau. Yn ystod y cam yma, mae’r tywydd yn normal am yr adeg o’r flwyddyn ac nid oes unrhyw bryderon o ran y cyflenwad neu’r galw. Ond yn y gwanwyn neu ar ddechrau’r haf, mae angen dechrau rhannu negeseuon â chwsmeriaid er mwyn cyflwyno pwysigrwydd arbed dŵr.

Cam 2 - Sychder yn datblygu

Mae’r amodau’n sych ac mae’r rhagolygon yn addo tywydd sych a braf parhaus. Mae’r adnoddau dŵr yn dechrau dangos arwyddion fod sychder yn datblygu, ond mewn ardaloedd lleol iawn yn unig.

Cam 3 - Sychder

Yn sgil cyfnod estynedig o dywydd sych, mae’r adnoddau dŵr yn is na’r disgwyl ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn. Er mwyn amddiffyn cyflenwadau, mae’n bosibl y bydd angen gwaharddiad dros dro ar ddefnydd rhai ardaloedd.

Cam 4 - Sychder Difrifol

Mae parhad y tywydd sych estynedig yn golygu bod yr adnoddau dŵr yn isel dros ben. Rhoddir mesurau ychwanegol ar waith i gynnal cyflenwadau ar gyfer cwsmeriaid lle mae mesurau defnydd dros dro yn gweithredu.

Cam 5 - Mesurau Argyfwng

Mae’r adnoddau dŵr wedi cyrraedd lefelau lle mae hi’n amhosibl cynnal cyflenwad rheolaidd ar gyfer cwsmeriaid ac felly mae angen rhoi mesurau argyfwng ar waith. Gallai hynny gynnwys defnyddio safbibellau, a thoriadau mewn cyflenwadau dŵr ar adegau penodol, neu fesurau helaeth i reoli’r pwysedd wrth ystyried yr effaith bosibl ar ansawdd dŵr o fewn ardaloedd penodol ar ein rhwydwaith cyflenwi dŵr.

Cam 6 – Diwedd y Sychder

Trwy gydweithio dan amodau tywydd sych arbennig o ymestynnol, gallwn gyhoeddi diwedd yr amodau sychder a’r cyfyngiadau dros dro a rhoddwyd ar waith.

Cynllun Sychder

Mae Cynllun Sychder Dŵr Cymru’n amlinellu sut rydyn ni’n rheoli ein cyflenwadau dŵr mewn cyfnodau o dywydd sych er mwyn sicrhau parhad ein gwasanaethau i gwsmeriaid wrth amddiffyn yr amgylchedd. Mae’r cynllun yn cynnwys monitro lefelau dŵr a phatrymau’r tywydd er mwyn rhag-weld amodau sychder. Rydyn ni’n cyd-weithio’n agos â Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid i ddatblygu’r cynllun.

Gallwch ddarllen ein cynllun sychder diweddaraf yma.

Newyddion cysylltiedig