Byrst mewn Pibell Ddŵr - Brychdwn

Wedi’i ddiweddaru: 09:00 17 August 2025

Rydym yn parhau i weithio i adfer cyflenwadau dŵr mewn rhannau o Sir y Fflint yn dilyn ein gwaith i drwsio'r brif bibell ddŵr oedd wedi byrstio ym Mrychdyn.

Mae'r broses o ail-lenwi'r rhwydwaith dŵr ar y gweill. Mae hyn yn broses ofalus wedi ei reoli er mwyn osgoi gollyngiadau eilaidd ac i amddiffyn ansawdd y dŵr ar draws rhwydwaith eang yma o dros 500km. Rydym yn disgwyl i gyflenwadau ddychwelyd i'r ardaloedd canlynol dros nos a bore yfory. Amcangyfrifon yw'r amseroedd hyn a gallent newid wrth i ni ail-lenwi'r rhwydwaith.

  • Nos Sadwrn: Disgwylir i gyflenwadau ddychwelyd i'r Fflint, Bagillt, Treffynnon, a rhannau o'r Wyddgrug erbyn tua 9 PM.
  • Yn hwyrach nos Sadwrn: Bydd ail gam yr ail-lenwi yn dod â dŵr yn ôl i Lannau Dyfrdwy, Cei Connah a mwy o ardaloedd o'r Wyddgrug erbyn tua 11 PM.
  • Canol Sul: Bydd y cam olaf yn canolbwyntio ar eiddo cyfagos ym Mrychdyn ac ardal ehangach Sir y Fflint, gyda disgwyl adferiad llawn erbyn amser cinio yfory (Dydd Sul).

Efallai y bydd rhai eiddo yn cymryd mwy o amser i weld eu cyflenwad dŵr wedi'i adfer yn llawn. Gall hyn ddigwydd am sawl rheswm. Gall cartrefi ar dir uwch brofi pwysedd isel neu gyflenwadau ysbeidiol ar y dechrau oherwydd bod dŵr yn cymryd mwy o amser i gyrraedd ardaloedd uwch. Gall aer sydd wedi'i ddal yn y system hefyd rwystro llif y dŵr, ac mae ein timau'n gweithio i leoli a rhyddhau'r aer hyn. Yn ogystal, gall ail-lenwi'r rhwydwaith ar ôl aflonyddwch mawr weithiau achosi byrst neu ollyngiadau eilaidd, ond mae gennym dimau wrth law i drwsio rhain cyn gynted â phosibl.

Mae'n ddrwg iawn gennym am yr aflonyddwch ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd wrth i ni weithio i adfer cyflenwadau arferol cyn gynted â phosibl yn ddiogel.

Mae poteli dŵr dal ar gael dros nos o:

  • Pafiliwn Jade Jones, Y Fflint CH6 5ER
  • Maes Parcio a Theithio, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, CH5 2NY
  • Maes Parcio Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NF

Gofynnwn i gwsmeriaid gymryd y poteli dŵr sydd ei angen yn unig ac iddynt gysylltu â chymdogion bregus neu hŷn.

Rydym wedi cadarnhau trefniadau iawndal ac wedi cyhoeddi llythyr agored at gwsmeriaid yma.

I gael y newyddion diweddaraf, ewch i Yn Eich Ardal neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Sychder yn Datblygu yng nghanolbarth a de Ceredigion


As of 12th June 2025, rydyn ni’n datgan statws ‘Sychder yn Datblygu’ yng nghanolbarth a de Ceredigion oherwydd lefelau’r storfeydd dŵr sydd yng nghronfeydd dŵr yr ardal.

Mae hynny’n golygu ein bod ni bellach ar Gam 2 (o 6) yn yr ardal hon - sef Sychder yn Datblygu: Mae’r amodau’n sych ac mae’r rhagolygon yn addo tywydd sych a braf parhaus. Nid yw’r glaw ysbeidiol diweddar yn yr ardal wedi bod yn ddigon i wneud gwahaniaeth i lefelau’r cronfeydd. Mae’r adnoddau dŵr yn dechrau dangos arwyddion fod sychder yn datblygu, ond mewn ardaloedd lleol iawn yn unig. Dyma'r unig faes sy'n peri pryder ar hyn o bryd.

Nid oes yna unrhyw gyfyngiadau ar ddefnyddio dŵr ar hyn o bryd, ond rydyn ni’n gofyn i gwsmeriaid weithio gyda ni i ddefnyddio dŵr yn ofalus.

Camau Sychder

Cam 1 - Gweithrediad Arferol

Mehefin 12 2025

Actif | Cam 2 - Sychder yn datblygu

Mae’r amodau’n sych ac mae’r rhagolygon yn addo tywydd sych a braf parhaus. Mae’r adnoddau dŵr yn dechrau dangos arwyddion fod sychder yn datblygu, ond mewn ardaloedd lleol iawn yn unig.

Cam 3 - Sychder

Yn sgil cyfnod estynedig o dywydd sych, mae’r adnoddau dŵr yn is na’r disgwyl ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn. Er mwyn amddiffyn cyflenwadau, mae’n bosibl y bydd angen gwaharddiad dros dro ar ddefnydd rhai ardaloedd.

Cam 4 - Sychder Difrifol

Mae parhad y tywydd sych estynedig yn golygu bod yr adnoddau dŵr yn isel dros ben. Rhoddir mesurau ychwanegol ar waith i gynnal cyflenwadau ar gyfer cwsmeriaid lle mae mesurau defnydd dros dro yn gweithredu.

Cam 5 - Mesurau Argyfwng

Mae’r adnoddau dŵr wedi cyrraedd lefelau lle mae hi’n amhosibl cynnal cyflenwad rheolaidd ar gyfer cwsmeriaid ac felly mae angen rhoi mesurau argyfwng ar waith. Gallai hynny gynnwys defnyddio safbibellau, a thoriadau mewn cyflenwadau dŵr ar adegau penodol, neu fesurau helaeth i reoli’r pwysedd wrth ystyried yr effaith bosibl ar ansawdd dŵr o fewn ardaloedd penodol ar ein rhwydwaith cyflenwi dŵr.

Cam 6 – Diwedd y Sychder

Trwy gydweithio dan amodau tywydd sych arbennig o ymestynnol, gallwn gyhoeddi diwedd yr amodau sychder a’r cyfyngiadau dros dro a rhoddwyd ar waith.

Pa ardal sydd o dan sylw?

Mae’r ardal o dan sylw’n cwmpasu canolbarth a de Ceredigion, rhannau o ogledd Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Mae’n cwmpasu 32,000 eiddo o Lanon, Llangwyryfon a Chwm Ystwyth yng Ngheredigion, i lawr i Grymych, Llanfyrnach a Nanhyfer yng ngogledd Sir Benfro, ynghyd â rhannau o ogledd Sir Gâr i lawr i Ffarmers, Pencader a Hermon hefyd.

I ganfod a yw hyn yn effeithio ar eich ardal chi defnyddiwch y chwiliwr cod post yma.

O ble mae dŵr yr ardal yma’n dod?

Daw cyflenwadau rhwydwaith dŵr yr ardal o gronfeydd dŵr Pyllau Teifi ar ymyl orllewinol Mynyddoedd Cambria, ac o ddŵr sy’n cael ei godi o afon Teifi yn Llechryd.

Pam fod hyn yn digwydd?

Mae lefelau’r gronfa’n isel, tua 28% yn is na’r un adeg y llynedd, ac mae hynny’n dangos bod sychder yn bosibilrwydd yn yr ardal dros yr haf.

Mae cronfeydd dŵr Pyllau Teifi wedi gweld cwta 56% o’r glawiad cyfartalog tymor hir disgwyliedig rhwng Mawrth a Mai eleni. Nid yw’r glaw ysbeidiol diweddar wedi bod yn ddigon i wneud gwahaniaeth i lefelau’r cronfeydd dŵr.

Mae’r tir mawnog sy’n amgylchynu’r cronfeydd yma’n dal dŵr, sy’n golygu bod y dŵr yn cael ei ryddhau nôl i’r amgylchedd yn arafach nac mewn ardaloedd eraill. Nid yw’r glawiad dros y pythefnos diwethaf wedi gwneud fawr ddim i wella’r sefyllfa.

Os na fydd lefelau’r cronfeydd yn yr ardal yn ymadfer yn sgil glaw dros yr ychydig wythnosau nesaf, mae’n bosibl y bydd angen i ni symud i gam tri, a chyhoeddi gwaharddiadau dros dro ar ddefnydd - neu waharddiad ar ddefnyddio pibellau dyfrio.

Mae’r fideo isod yn esbonio rhagor am Byllau Teifi, adnoddau dŵr ac effaith unrhyw gyfnod estynedig o dywydd sych. Mae hi’n dangos hefyd beth rydyn ni fel cwmni’n ei wneud i helpu, a beth y gallwch chi ei wneud i arbed dŵr.

Beth yw’r camau nesaf?

Rydyn ni’n monitro’r sefyllfa’n ofalus, a chaiff y dudalen hon ei diweddaru wrth i’r sefyllfa newid. Byddwn ni’n dilyn gwahanol ofynion a chamau’r Cynllun Sychder statudol ac yn cyflwyno cyfyngiadau os oes angen.