Oriau agor dros y Nadolig

Information

Noder mai oriau agor ein canolfan gyswllt ar gyfer bilio a'n sgwrs we yw:

Dydd Llun 22 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mawrth 23 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mercher 24 Rhagfyr: 08:00 - 14:00
Dydd Iau 25 Rhagfyr - Dydd Gwener 26 Rhagfyr: Ar gau
Dydd Sadwrn 27 Rhagfyr: 09:00 - 13:00
Dydd Llun 29 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mawrth 30 Rhagfyr: 08:00 - 18:00
Dydd Mercher 31 Rhagfyr: 08:00 - 14:00
Dydd Iau 1 Ionawr: Ar gau
Dydd Gwener 2 Ionawr: 08:00 - 18:00
Dydd Sadwrn 3 Ionawr: 09:00 - 13:00

Mae ein canolfan gyswllt ar gyfer Gweithrediadau ar agor 24/7 drwy gydol cyfnod y Nadolig ar gyfer unrhyw argyfwng.

Help gyda’ch biliau


Wrth i'r argyfwng costau byw barhau, mae gennym nifer o ffyrdd y gallem o bosibl eich helpu a gwneud eich biliau'n fwy fforddiadwy.

Rydym yn cydnabod bod costau byw yn parhau i effeithio ar ein cwsmeriaid. Bwriad y dudalen hon yw rhoi cymorth a chefnogaeth i wneud biliau yn fwy fforddiadwy drwy godi ymwybyddiaeth o’r gwahanol opsiynau sydd ar gael all fod o fudd i aelwydydd a lleihau’r defnydd o ddŵr.

Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi dros 145,000 o gwsmeriaid bob blwyddyn gyda chymorth ariannol ac arbedion gwerth hyd at £300. Yn ogystal â hyn, rydym yn rhoi cyngor a all arbed hyd at 215 litr o ddŵr y dydd.

Edrychwch i weld a ydych yn gymwys ar gyfer unrhyw un o’n cynlluniau neu dariffau cymdeithasol

Defnyddiwch ein gwiriwr cymhwystra i wybod pa gynlluniau cymorth ariannol y gallwch wneud cais amdanynt.

Mae gennym gynlluniau a thariffau ar gael i ostwng eich bil a helpu i glirio unrhyw arian sy’n ddyledus ar eich cyfrif.
Gwiriwch a ydych yn gymwys

Os oes arnoch arian i ni eisoes, wedi cael eich cysylltu gan Asiantaeth Casglu Dyledion neu wedi derbyn llythyrau ôl-ddyledion...

Gwyddom y gall bod mewn dyled fod yn straen a gall fod yn anodd gwneud yr alwad gyntaf. Dyma sut y gallwn ni helpu os ydych mewn ôl-ddyledion ar eich cyfrif.

Gofyn am alwad yn ôl am gynlluniau talu personol

Dywedwch wrthym beth yw eich amgylchiadau a'ch manylion cyswllt a byddwn yn adolygu eich cyfrif ac yn paratoi'r opsiynau gorau i chi. Yna bydd un o'n cynghorwyr cyfeillgar yn eich galw'n ôl i gytuno ar ffordd addas ymlaen. Gallwch wneud hyn gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Os oes Asiantaeth Casglu Dyledion wedi cysylltu â chi

Rydym yn gweithio gydag Asiantaethau Casglu Dyledion i gysylltu â chwsmeriaid a chasglu taliadau ar ein rhan. Os ydych wedi derbyn llythyr ganddynt, y peth gorau i'w wneud yw ymateb iddynt drwy'r dulliau cyswllt yn y llythyr. Bydd eu cynghorwyr cyfeillgar wrth law i weithio gyda chi mewn ffordd anfeirniadol i'ch cael yn ôl ar y trywydd iawn

Cael cyngor diduedd

Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr


Mae’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn darparu cyngor a chanllawiau diduedd sy'n ymwneud ag unrhyw fath o broblem â chyflenwad dŵr neu garthffosiaeth mewn cartrefi.

Cael cyngor diduedd
Vulnerability Conference 2024

Ein Strategaeth Bregusrwydd newydd hyd at 2030

Cefnogi ein cwsmeriaid. Gweithio wrth galon ein cymuned.

Cliciwch yma i wybod mwy
Kitemark

Ardystiad Nod Barcud y BSI

Mae ardystiad Nod Barcud y BSI wedi'i deilwra'n benodol i arddangos arfer gorau ar gyfer darparu dŵr, ac mae'n nodi ein bod yn darparu gwasanaethau teg, hyblyg a chynhwysol sy'n cynyddu canlyniadau cadarnhaol i ddefnyddwyr sydd mewn sefyllfaoedd bregus.

Promotions Team

Calendr digwyddiadau

y Tîm Cymunedol

Mae ein Tîm Cymunedol yn mynd ati i hyrwyddo'r gefnogaeth a gynigir ac yn mynd i ddigwyddiadau fforddiadwyedd mewn cymunedau ledled y rhanbarth yr ydym yn ei wasanaeth yn rheolaidd.

Gweler isod y rhestr lawn o ddigwyddiadau.

Dysgu mwy