Sefydlu debyd uniongyrchol neu newid eich manylion banc
Wrth dalu drwy ddebyd uniongyrchol bydd gennych y dewis o rannu eich bil yn rhandaliadau a gwneud taliadau sy’n fwy hyblyg i chi a hynny heb gost ychwanegol.
Beth yw buddion sefydlu cynllun talu Debyd Uniongyrchol?
- Gallwch rannu eich bil yn rhandaliadau (heb unrhyw gost ychwanegol)
- Mae cynllun talu yn ei gwneud yn haws i chi gynllunio eich trefniadau ariannol
- Mae gennych hyblygrwydd i ddewis pa mor aml yr ydych yn talu
Pan rydym yn cyfrifo swm eich rhandaliad, byddwn ni’n sicrhau bod eich taliadau yn talu eich costau presennol ac unrhyw ôl-ddyledion (os yw’n berthnasol). Byddwn yn rhoi gwybod i chi faint bydd hyn pan fyddwn wedi sefydlu eich cynllun. Os ydych chi’n credu nad yw’r taliadau’n fforddiadwy, rhowch wybod i ni ac fe wnawn ni drafod opsiynau talu eraill gyda chi.
Os hoffech newid swm eich debyd uniongyrchol, cysylltwch â ni.
Sut rydym yn cyfrifo eich bil
Os oes gan eich eiddo fesurydd dŵr, byddwch yn cael bil mesuredig ar gyfer y dŵr rydych wedi’i ddefnyddio dros y cyfnod bilio. Bydd eich bil yn cynnwys dwy ran – taliadau mesuredig yr aelwyd, a thâl gwasanaeth.
I gael manylion sut rydym yn cyfrifo eich bil cliciwch yma.
Os nad oes gennych fesurydd dŵr, byddwch yn talu cost sefydlog bob blwyddyn yn seiliedig ar eich eiddo. Caiff eich bil ei gyfrifo gan ddefnyddio system o’r enw Gwerth Ardrethol (RV). Cyn 1990, roedd pob eiddo yn cael RV penodol gan eich cyngor lleol.
Sefydlwyd y broses RV ar gyfer pob eiddo yn unigol. Bydd adegau pan fyddwch yn gweld eich bod yn talu mwy, neu lai, na’ch cymdogion hyd yn oed os yw eich eiddo yn debyg iawn. Efallai fod gan rai eiddo fesurydd dŵr neu efallai fod eich cymydog ar dariff sy’n golygu y bydd ei fil yn wahanol.
Daeth RV i ben yn 1990 (oherwydd y cyflwynwyd y Dreth Gyngor), sy’n golygu nad oeddynt bellach yn cael eu hailasesu nac yn cael eu pennu i eiddo newydd a adeiladwyd ar ôl 1990. Yn anffodus, ni fydd gennym ni, na’ch cyngor lleol, unrhyw fanylion am sut y cafodd eich eiddo ei asesu.
I wybod mwy am daliadau anfesuredig, cliciwch yma.
1. Angen cysylltu â ni am sefydlu debyd uniongyrchol?
Sgwrs fyw ynghylch Debyd Uniongyrchol
Siarad ag un o’n gweithredwyr gwasanaethau cwsmeriaid ynghylch Debyd Uniongyrchol.
Agor Sgwrs FywUnrhyw gwestiynau eraill?
Os nad ydych chi’n gallu trefnu neu newid Debyd Uniongyrchol ar-lein, yna siaradwch â gweithredwr gwasanaeth cwsmeriaid
8.00am - 6.00pm Llun-Gwener
9.00am - 1.00pm Sadwrn
Fel arfer mae ein hamseroedd aros hiraf rhwng 11am ac 1pm, ond rydym ar agor tan 6pm ar ddyddiau'r wythnos os hoffech gysylltu â ni ar adeg dawelach.