Cynllun Cymorth Dyled y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid


Bwriad cynllun Cymorth Dyled y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid yw helpu’r rhai mewn caledi ariannol difrifol i glirio a bod ar ben eu taliadau.

Sut mae’n gweithio?

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn trefnu cynllun talu bob mis, pythefnos neu wythnos a fyddai'n seiliedig ar swm fforddiadwy, a fydd yn cyfateb o leiaf â’ch taliadau parhaus presennol. Bydd y tîm yn cysylltu â chi i ymgynghori â chi ac i sefydlu cynllun talu yn seiliedig ar eich amgylchiadau unigol.

Pan fyddwch wedi gwneud taliadau am 6 mis, byddwn ni’n dileu 50% o’ch dyled flaenorol.

Os byddwch yn parhau i wneud y taliadau yr ydym wedi cytuno arnynt am 6 mis arall, byddwn wedyn yn talu gweddill eich ôl-ddyledion blaenorol.

Cyfle untro yw hwn. Os byddwch chi'n mynd i ôl-ddyledion eto, ni fyddwn yn gallu cynnig cynllun Cymorth Dyledion y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid i chi.

Beth yw’r Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid?

Sefydlwyd y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid i helpu cwsmeriaid i glirio’u dyledion gyda ni. Os bydd eich cais yn llwyddiannus:

  • Byddwn ni’n trefnu cynllun talu fesul mis, pythefnos neu wythnos i’ch helpu chi i gynllunio ar gyfer taliadau’r flwyddyn gyfredol.
  • Ymhen 6 mis, os byddwch chi wedi llwyddo i wneud eich taliadau i gyd, byddwn ni’n dileu 50% o’ch dyled.
  • Os byddwch chi’n llwyddo i dalu am 6 mis pellach, byddwn ni’n dileu gweddill y ddyled.

Enghraifft o randaliadau

Enghraifft yn unig yw hon – efallai y bydd gan gwsmeriaid randaliadau gwahanol i’r isod. 

Ar sail dyled o £550, a bil o £400 ar gyfer y flwyddyn gyfredol:

  • Byddai eich rhandaliadau wythnosol yn £7.69 (bil o £400 ÷ 52 wythnos)
  • Rydym yn talu 50% cyntaf (£275) eich dyled ar ôl 26 wythnos.
  • Rydym yn talu ail 50% (£275) eich dyled ar ôl 52 wythnos.

Os byddwch yn gwneud eich taliadau’n brydlon dros y flwyddyn, byddech chi wedi talu eich bil a byddwn ni wedi clirio’r ddyled.

Dyma gyfle untro. Os byddwch yn mynd i ôl-ddyledion eto, ni fyddai cynllun Cymorth Dyled y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid yn cael ei gynnig.

Ydych chi’n gymwys?

Gallech fod yn gymwys os:

  • Mae’ch cyfrif dŵr ar gyfer eiddo domestig lle’r ydych chi'n byw ar hyn o bryd.
  • Mae’ch ôl-ddyledion yn fwy na £150 ac o leiaf 6 mis yn hwyr.

Sylwer: mae hon yn gronfa ddewisol a bydd eich cymhwysedd yn cael ei asesu yn seiliedig ar eich cais a statws eich cyfrif.

Bydd ein tîm yn cysylltu â chi dros y ffôn i drafod. Byddant yn rhoi canlyniad i chi ac yn sefydlu cynllun o fewn 10 diwrnod gwaith. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni siarad â chi er mwyn i chi gael eich derbyn.

Mae’n ofyniad gennym hefyd eich bod yn sefydlu Debyd Uniongyrchol, oni bai bod amgylchiadau penodol sy'n atal hyn.

Gwnewch gais ar-lein am

gynllun Cymorth Dyled ein Cronfa Cymorth i Gwsmeriaid

Gallwch wneud cais ar-lein gyda ffurflen cynllun Cymorth Dyled ein Cronfa Cymorth i Gwsmeriaid. Trwy lenwi’r ffurflen hon, rydych chi’n caniatáu i ni wirio eich sgôr credyd. Ni fydd hyn yn effeithio ar eich statws credyd, ond bydd yn gadael ôl.

Cynllun cymorth dyled y gronfa cymorth i gwsmeriaid

Os nad ydych chi am i ni wirio eich sgôr credyd, cewch drefnu apwyntiad i lenwi ffurflen gais gyda’ch swyddfa Moneyline Cymru neu Cyngor ar Bopeth.

Pan fyddwn wedi derbyn eich cais, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi a yw wedi bod yn llwyddiannus ai peidio cyn pen 5 diwrnod gwaith.

StepChange

Os ydych chi’n pryderu am ddyled, gall StepChange fod o gymorth.

Elusen dyledion StepChange yw elusen cyngor dyled mwyaf blaenllaw'r DU. Mae ganddyn nhw dros 20 mlynedd o brofiad o helpu pobl i gael gwared ar eu dyledion drwy ddarparu atebion ymarferol.
stepchange.org