Cynnig cymorth ariannol gan Ddŵr Cymru. Ei nod yw helpu aelwydydd sy’n gweithio sy’n cael trafferth fforddio’r hanfodion, fel eu bil dŵr.
Beth yw’r cynllun?
Bydd aelwydydd cymwys yn cael cyfnod o dri mis ‘heb dâl’, sef disgownt o tua £150-£200 yn seiliedig ar y bil blynyddol cyfartalog.
Pwy sy’n gymwys?
Aelwydydd ag o leiaf un oedolyn sy’n gweithio:
- y mae cyfanswm eu hincwm cyfunol yn £50,000 y flwyddyn neu lai,
- y mae eu biliau domestig yn fwy na’u hincwm,
- nad ydynt yn gymwys ar gyfer unrhyw un arall o gynlluniau dyledion neu dariffau cymdeithasol Dŵr Cymru.
Sut mae’n gweithio?
Ni all cwsmeriaid wneud cais yn uniongyrchol i Ddŵr Cymru. Rhaid iddynt lenwi asesiad o incwm a gwariant gyda sefydliad fel Asiantaeth Cynghori ar Ddyledion, Awdurdod Lleol neu Gymdeithas Tai.
Am fanylion
Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn gymwys ar gyfer y Gronfa Cymuned, dylech eu cyfeirio at un o’n partneriaid:
Os gallech chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod fod yn gymwys ar gyfer Cronfa Cymuned, cysylltwch â sefydliad fel Asiantaeth Cyngor Dyledion, Awdurdod Lleol neu Gymdeithas Tai er mwyn iddynt gynnal asesiad incwm a gwariant.
Help gyda’ch biliau
Mae gennym nifer o ffyrdd y gallem o bosibl eich helpu a gwneud eich biliau'n fwy fforddiadwy.
Find out moreEin cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth
Dysgwch sut y gall ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth am ddim ddarparu cymorth ychwanegol i chi a'ch teulu i ddiwallu eich anghenion penodol.
Darganfod mwy