Ein Strategaeth Bregusrwydd newydd hyd at 2030
Rydym yn falch o gyflwyno ein strategaeth bregusrwydd newydd 'Cefnogi Ein Cwsmeriaid'.
Mae wedi’i datblygu trwy ymgynghori a thrafod gyda chwsmeriaid, y sefydliadau sy'n eu cynrychioli, ein timau sy'n gweithio gyda chwsmeriaid bob dydd, ein Grŵp Her Annibynnol a'r Cyngor Defnyddwyr Dŵr.
Rydym yn darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol a ddefnyddir gan dros 3 miliwn o bobl, sy'n dibynnu arnom i ddarparu dŵr yfed glân a diogel ac i fynd â’u dŵr gwastraff i ffwrdd yn ddiogel. Yn anffodus, bydd rhai o'n cwsmeriaid yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at y gwasanaethau hyn ac, yn y sefyllfaoedd hyn, mae'n hanfodol ein bod yn gallu ymateb yn gyflym gyda'r cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt.
Mae'r trafodaethau hyn wedi dangos bod ein dull presennol o ddarparu cymorth ychwanegol wedi gweithio'n dda, ac y dylem barhau i ganolbwyntio ar ddata, gan wneud ein gwasanaethau mor hygyrch â phosibl, datblygu ein partneriaethau a hyfforddi ein pobl i gydnabod ac ymateb i anghenion unigol ein cwsmeriaid.
Fel mae'r blynyddoedd diwethaf wedi dangos, mae angen i ni ymateb yn gyflym i fyd sy'n newid yn gyflym. Bydd y profiad hwn yn ein gwasanaethu'n dda wrth gyflawni'r cam nesaf hwn yn ein strategaeth ar gyfer cefnogi cwsmeriaid sydd angen cymorth ychwanegol.
Cynhadledd Bregusrwydd
Fel rhan o'r ymrwymiad parhaus a amlinellir yn ein Strategaeth Bregusrwydd terfynol, cynhaliwyd ein Cynhadledd Bregusrwydd flynyddol ar 17 Gorffennaf 2025. Daeth y digwyddiad ag ystod eang o sefydliadau ynghyd - gan gynnwys elusennau, grwpiau trydydd sector, darparwyr cyfleustodau, rheoleiddwyr, a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru – pawb â’r un: cefnogi cwsmeriaid sydd angen cymorth ychwanegol.
Gwnaeth y siaradwyr gwadd drafod pynciau hanfodol fel y defnydd o ddata i gyrraedd mwy o bobl, mynd i'r afael â rhwystrau hygyrchedd, a phŵer partneriaethau a chydweithio. Cynigiodd y diwrnod ddealltwriaeth gwerthfawr ac, yn bwysicaf oll, cyfleoedd newydd i wella canlyniadau i'n cwsmeriaid.
Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i droi'r ddealltwriaeth hon yn gamau gweithredu a chyflawni ein haddewidion yn y blynyddoedd i ddod.
Ein Strategaeth Bregusrwydd newydd hyd at 2030 - Fersiwn lawn
Cefnogi ein cwsmeriaid
Gweithio wrth galon ein cymuned.
4.2MB, PDF
Cyflwyniad Strategaeth Agored i Niwed
Cyflwyniad Strategaeth Agored i Niwed Drafft
121.8kB, PDF
Crynodeb Gweithredol – Cefnogi ein cwsmeriaid
2.9MB, PDF