Cais am fesurydd dŵr

Information

Rydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau ac mae’n cymryd mwy o amser nag yr hoffem i drefnu apwyntiadau. Mae eich cais wedi ei gofnodi ac nid oes angen cysylltu â ni.

Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl wrth i ni brosesu eich cais.

Os ydych chi am gyflwyno cais am fesurydd, gallwch wneud hynny ar lein.

Cynllun Sychder Drafft Diwygiedig 2025


Yn Dŵr Cymru, ein gweledigaeth yw “I ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid, bob dydd”. Mae'r weledigaeth honno'n cyd-fynd â'n strwythur perchnogaeth unigryw: nid oes gennym unrhyw gyfranddalwyr ac felly gallwn ganolbwyntio'n llwyr ar ddarparu'r gwerth ariannol gorau posibl i'n cwsmeriaid.

Mae'r holl elw a wnawn yn cael ei ailfuddsoddi yn y busnes i wella canlyniadau i'n cwsmeriaid a'r amgylchedd a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae angen i ni gadw at y ffordd hon o weithio bob dydd, yn enwedig yn ystod cyfnodau o straen, fel sychder, a all fod yn heriol i ni a'n cwsmeriaid. Mae pobl yn ymddiried ynom i gynllunio ar gyfer sychder ac yn ymddiried ynom i gyflawni'r cynlluniau hyn pan fydd yna gyfnodau o sychder – rhaid i ni barhau i ennill yr ymddiriedaeth honno bob dydd. Mae ein Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr a'n Cynllun Sychder wrth wraidd y strategaeth hon.

Mae cynhyrchu a chynnal Cynllun Sychder yn broses statudol sy'n ofynnol gan y Llywodraeth sydd wedi gosod y sail gyfreithiol ar gyfer hyn yn Neddf y Diwydiant Dŵr 1991. Cawn ein cyfarwyddo gan Lywodraeth Cymru sydd hefyd yn darparu'r egwyddorion arweiniol ar gyfer ein cynllun. Rydym wedi gweithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n cynhyrchu'r Canllawiau Cynllunio Sychder ar gyfer cwmnïau dŵr yng Nghymru. Mae ein Cynllun Sychder yn nodi sut y byddwn yn ymdrin ag amodau sychder mewn ardaloedd trefol a gwledig o’n hardal gyflenwi, a sut y byddwn yn monitro effaith unrhyw gamau a gymerwn ar yr amgylchedd naturiol.

Fe wnaethom ddiweddaru ein Cynllun Sychder ddiwethaf yn 2020 ac mae gennym brofiad uniongyrchol o ba mor dda y perfformiodd yn ystod sychder 2022. Mae'r Cynllun hwn sydd wedi’i ddiweddaru ar gyfer 2025-30 yn esblygiad o'n Cynllun blaenorol ar y rhan fwyaf. Er mwyn helpu i ddatblygu'r Cynllun Sychder hwn, gwnaethom gynnal trafodaethau cyn ymgynghori’n ffurfiol â'n rhanddeiliaid i helpu i nodi unrhyw faterion allweddol oedd angen i ni eu hystyried. Roedd ein gweithgaredd ymgysylltu cyn ymgynghori yn cynnwys dros 1,000 o dderbynwyr ar draws ystod eang o sefydliadau megis cynghorwyr a chynghorau lleol, Aelodau Seneddol Cymru, Aelodau Seneddol San Steffan, ein Rheoleiddwyr, sefydliadau academaidd a sefydliadau amgylcheddol.

Gwnaethom gyhoeddi ein Cynllun Sychder 2025 drafft ar 10fed Ionawr ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd y cynllun drafft yn esblygiad o'n Cynllun Sychder 2020 wedi'i lywio gan ein modelu diweddaraf yn ogystal â'n profiad o sychder diweddar yn 2022.

Rhoddodd deuddeg o sefydliadau ac unigolion adborth ar y cynllun drafft, ac rydym wedi casglu ynghyd bob un o'u sylwadau ochr yn ochr â'n hymateb i bob sylw yn ein Datganiad o Ymateb. Rydym wedi cynhyrchu Cynllun Sychder Drafft 2025 sydd wedi'i ddiweddaru a'i wella mewn atebaeth i’r adborth gan yr ymgynghorwyr, a chyflwyno ein Cynllun Sychder Drafft, Datganiad Ymateb, a diweddaru'r atodiadau i Lywodraeth Cymru a DEFRA ar 25ed Ebrill 2025.

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch, neu gopïau o adroddiadau ategol nad ydynt wedi'u cyhoeddi ar ein gwefan, e-bostiwch Water.Resources@dwrcymru.com.

Adroddiadau a Chrynodebau

Draft Drought Plan 2025 Statement of Response

Download
701.8kB, PDF

Cynllun Sychder Drafft 2025 - Crynodeb Gweithredol

Download
409kB, PDF

Cynllun Sychder Drafft 2025 - Prif Adroddiad Technegol

Download
5MB, PDF

Cynllun Sychder Drafft 2025 – Atodiad 1 - Cynllun Cyfathrebu Sychder

Download
4.5MB, PDF

Cynllun Sychder Drafft 2025 - Atodiad 2 – Asesiad Risg Sychder

Download
5MB, PDF

Cynllun Sychder Drafft 2025 - Atodiad 4 – Asesiad Amgylcheddol Strategol

Download
11.5MB, PDF

Cynllun Sychder Drafft 2025 - Atodiad 5 – Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Download
1.7MB, PDF

Cynllun Sychder Drafft 2025 - Atodiad 8 – Adroddiad Cyn-ymgynghori

Download
110kB, PDF

Cynllun Sychder Drafft 2025 - Atodiad 10 – Ffurflenni Gweithredu Rheoli Galw

Download
185.7kB, PDF

Cynllun Sychder Drafft 2025 - Atodiad 11 – Sychder a Gwaharddiadau Defnydd Dros Dro: Adroddiad ymchwil cwsmeriaid

Download
3MB, PDF

Cynllun Sychder Drafft 2025 - Atodiad 12 – Rhestr Wirio Cynnwys

Download
48.7kB, XLSX

Cynllun Sychder Drafft 2025 - Atodiad 13 – Datganiad Diogelwch

Download
83.6kB, PDF

Revised Drought Plan 2025: Appendix 14 – Drought Permit and Order Summaries

Download
464.3kB, PDF