COVID-19 (Coronafeirws) – Neges i'n Cwsmeriaid

09:00 04 January 2021

Ry'n ni'n gwybod ei bod hi'n gyfnod anodd a heriol i'n cwsmeriaid. Ry'n ni'n gwybod hefyd bod y gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff a ddarparwn yn allweddol wrth amddiffyn iechyd y cyhoedd a diogelu ein cymunedau.

Fel ry'n ni wedi bod yn ei wneud trwy gydol y pandemig, fe wnawn ni bopeth y gallwn ni i amddiffyn ein cydweithwyr, a hynny wrth gynnal ein gwasanaethau ar gyfer cwsmeriaid. Fe welwch chi ni'n gweithio mewn strydoedd a chymunedau o hyd yn ystod y cyfnod hwn, ond dim ond gwaith hanfodol a fydd yn helpu i amddiffyn iechyd y cyhoedd trwy gynnal ein gwasanaethau dŵr a dŵr gwastraff allweddol a gaiff ei gyflawni yn ystod y cyfnod hwn. Ni fyddwn ni'n gwneud unrhyw waith sy’n gofyn ein bod ni'n mynd i mewn i eiddo cwsmeriaid oni bai bod argyfwng.

Bydd ein Canolfan Gysylltu am Filiau yn parhau i weithredu rhwng 8am a 6pm (dydd Llun i ddydd Gwener) ac mae'r ganolfan ar gael i gynorthwyo ein cwsmeriaid mwyaf bregus sy’n wynebu caledi oherwydd effeithiau’r coronafeirws.

Os yw'r coronafeirws wedi effeithio ar eich sefyllfa chi, a'ch bod chi'n poeni am eich bil dŵr, cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Cofiwch, gallwch ddiweddaru eich cyfrif, rhoi gwybod i ni eich bod chi'n symud, a threfnu debyd uniongyrchol trwy ein gwasanaethau ar lein.

Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau trwy'r wefan hon a thrwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol - Facebook & Twitter.

Fe wnawn ni bopeth y gallwn ni i barhau i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol, a hoffem ddiolch i chi am eich cefnogaeth.

Adnoddau Dŵr


Mae’r sefyllfa o ran adnoddau dŵr yn ardal gyflenwi Dŵr Cymru yn eithaf cryf.

Tua 3% o’r glawiad effeithiol blynyddol yr ydym yn ei dynnu er mwyn ei gyflenwi i’r cyhoedd yn ein rhanbarth ni, o’i gymharu â thua 50% yn ne a dwyrain Lloegr.

Mae tua 95% o’n hadnoddau dŵr yn cychwyn eu taith fel dŵr wyneb naill ai o gronfeydd dŵr neu o afonydd. Ychydig iawn yr ydym yn dibynnu ar gyflenwadau dŵr daear. Trwy ddibynnu ar ddyfroedd wyneb, rydym yn fwy tebygol o wynebu prinder ar ôl cyfnodau byr heb lawer o law gan fod lefelau afonydd yn newid yn fwy sydyn na dyfroedd daear.

Cyfoeth Naturiol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd sy’n gyfrifol am sicrhau bod adnoddau dŵr yng Nghymru a Lloegr yn cael eu defnyddio mewn ffordd gynaliadwy ac mae Dŵr Cymru’n cael trwydded ganddynt ar gyfer pob man lle maent yn tynnu dŵr. Mae’r trwyddedau hyn yn nodi faint o ddŵr y caniateir ei dynnu ar bob dydd o’r flwyddyn ac ar pa gyfradd. Mae gan afonydd yng Nghymru statws ecolegol uchel ac fe gaiff y trwyddedau eu pennu mewn ffordd sy’n sicrhau bod hyn yn parhau. Mae dŵr yn cael ei ryddhau o gronfeydd Dŵr Cymru yn ystod cyfnodau sych i helpu i gynnal llif yn yr afonydd.


Ein Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr

Er mwyn sicrhau bod digon o ddŵr ar gael i’n cwsmeriaid pan fydd arnynt ei angen, mae Dŵr Cymru yn paratoi ac yn cynnal Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr (CRhAD) sy’n rhoi rhagolwg o gydbwysedd y cyflenwad a’r galw yn ein hardal cyflenwi dŵr dros gyfnod o 25 mlynedd.

Cawsom gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ein CRhAD Terfynol ym mis Mai 2014. Bu’r CRhAD hwn trwy broses lawn o ymgynghori â’r cyhoedd ac mae’r CRhAD Terfynol wedi’i ddatblygu i adlewyrchu canlyniadau’r ymgynghoriad.


Ein Cynllun Sychder

Er mwyn sicrhau y gallwn reoli’r dŵr a chynnal y cyflenwadau yn ystod tywydd poeth a sych iawn, mae Dŵr Cymru’n paratoi ac yn cynnal Cynllun Sychder. Mae’r ddogfen hon yn nodi dangosyddion allweddol sychder a’r strategaeth weithredol, y strwythurau rheoli a’r cynllun cyfathrebu a fyddai’n cael eu gweithredu yn ystod cyfnod o sychder.

Paratôdd Dŵr Cymru ei Gynllun Sychder Drafft ym mis Mawrth 2014. Mae Cynllun Sychder Drafft 2014 yn adlewyrchu’r ffordd y byddwn yn defnyddio’r pwerau newydd a roddir i gwmnïau dŵr o dan Orchymyn Defnyddio Dŵr (Gwaharddiadau Dros Dro) 2010.