Symud allan o'ch llety myfyrwyr

Information

Os mai chi yw deiliad y cyfrif a’ch bod yn symud allan o'ch llety myfyriwr, naill ai i eiddo arall neu'n cau eich cyfrif, gallwch fewngofnodi neu gofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif a rhoi gwybod i ni ar-lein yma.

Mae cwestiynau cyffredin am lety myfyrwyr ar gael yma.

Cofrestrwch i weld eich cyfrif ar-lein


Rydym yn uwchraddio ein gwasanaethau ar-lein ac yn ei gwneud yn haws i chi reoli eich cyfrif Dŵr Cymru.

Pam cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif?

Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer ein gwasanaethau ar-lein, gallwch chi:

  • Weld eich biliau, balans, taliadau a llythyrau ar-lein
  • Cyflwyno darlleniad mesurydd
  • Sefydlu neu newid debyd uniongyrchol
  • Gwneud taliad
  • Cadw golwg ar unrhyw faterion sy’n effeithio ar eich ardal chi

Byddwch chi hefyd yn newid i filio di-bapur, yn hytrach na chael eich bil drwy’r post. Yna byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd eich bil yn barod naill ai drwy neges destun a/neu e-bost.