Cymorth gyda biliau


Os ydych chi’n cael trafferth yn fforddio talu eich bil, peidiwch â’i anwybyddu. Mae gennym ni nifer o ffyrdd y gallwn ni eich helpu a gwneud eich biliau’n fwy fforddiadwy.

Cyngor os ydych yn cael trafferth talu eich bil, neu'n meddwl y gallech gael trafferth yn y dyfodol, ond nid ydych mewn dyled...

Os ydych mewn dyled ar eich cyfrif, mae mwy o gyngor ar gael ymhellach i lawr y dudalen hon.

Gwasgaru cost eich bil

Gallwch chi dalu drwy randaliadau bob wythnos, mis, neu 6 mis, yn hytrach na thalu’n llawn pan fyddwch yn derbyn eich bil. Mae’n well gan y rhan fwyaf o’n cwsmeriaid dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol gan ei fod yn gwasgaru’r gost yn ddi-dâl, mae’r taliadau’n cael eu cymryd yn awtomatig ac wedi’u cynnwys yn ein gwarant Debyd Uniongyrchol. Fel arall, gallwch chi sefydlu cerdyn talu os nad yw debyd uniongyrchol yn addas i chi.

Arbedwch arian gyda mesurydd dŵr

Os ydych chi'n byw ar eich pen eich hun, ddim yn defnyddio llawer o ddŵr, neu eisiau lleihau eich bil, yna efallai y byddwch yn arbed arian drwy osod mesurydd dŵr, fel y byddwch chi ond yn talu am y dŵr yr ydych chi'n ei ddefnyddio. Os oes gennych fesurydd dŵr eisoes yna gallwch arbed arian drwy arbed dŵr, mae mwy o wybodaeth am sut i fod yn effeithlon gyda dŵr ar gael yma.

Gofyn am seibiant talu tymor byr

Os yw eich problem ond yn un tymor byr, a bod angen ychydig o gymorth arnoch, gallwn leihau neu atal taliadau dros dro. Gallwch wneud cais am gymorth tymor byr ar-lein a byddwn yn adolygu eich amgylchiadau ac yn eich ffonio'n ôl gydag opsiynau sy'n addas i chi. Gallwch wneud hyn gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau neu os oes gennych chi incwm isel

Os ydych chi eisoes yn talu drwy randaliadau a’ch bod chi’n dal i gael trafferth, peidiwch ag anwybyddu unrhyw broblemau. Edrychwch ar ein cynlluniau eraill a allai helpu os ydych chi’n cael budd-daliadau neu os oes gennych chi incwm isel.

Cael cyngor diduedd

Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr


Mae’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn darparu cyngor a chanllawiau diduedd sy'n ymwneud ag unrhyw fath o broblem â chyflenwad dŵr neu garthffosiaeth mewn cartrefi.

Dysgu mwy

Gwybod sut y gallwn ni eich helpu gyda'ch taliadau

Siarad â chynghorydd

Mae ein tîm cyfeillgar yma i chi.

0800 052 0145

8am - 6pm Llun - Gwener a 9am - 1pm Sadwrn

Os oes arnoch arian i ni eisoes, wedi cael eich cysylltu gan Asiantaeth Casglu Dyledion neu wedi derbyn llythyrau ôl-ddyledion...

Gwyddom y gall bod mewn dyled fod yn straen a gall fod yn anodd gwneud yr alwad gyntaf. Dyma sut y gallwn ni helpu os ydych mewn ôl-ddyledion ar eich cyfrif.

Gofyn am alwad yn ôl am gynlluniau talu personol

Dywedwch wrthym beth yw eich amgylchiadau a'ch manylion cyswllt a byddwn yn adolygu eich cyfrif ac yn paratoi'r opsiynau gorau i chi. Yna bydd un o'n cynghorwyr cyfeillgar yn eich galw'n ôl i gytuno ar ffordd addas ymlaen. Gallwch wneud hyn gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Os oes Asiantaeth Casglu Dyledion wedi cysylltu â chi

Rydym yn gweithio gydag Asiantaethau Casglu Dyledion i gysylltu â chwsmeriaid a chasglu taliadau ar ein rhan. Os ydych wedi derbyn llythyr ganddynt, y peth gorau i'w wneud yw ymateb iddynt drwy'r dulliau cyswllt yn y llythyr. Bydd eu cynghorwyr cyfeillgar wrth law i weithio gyda chi mewn ffordd anfeirniadol i'ch cael yn ôl ar y trywydd iawn

Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau neu os oes gennych chi incwm isel

Os ydych chi eisoes yn talu drwy randaliadau a’ch bod chi’n dal i gael trafferth, peidiwch ag anwybyddu unrhyw broblemau. Edrychwch ar ein cynlluniau eraill a allai helpu os ydych chi’n cael budd-daliadau neu os oes gennych chi incwm isel.

Cysylltwch â’n tîm dyledion

Siaradwch â chynghorydd

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynghylch talu eich bil dŵr, siaradwch â’n cynghorwyr cyfeillgar.

0303 313 0022

8am i 6pm Llun i Gwener. Mae hwn yn rhif ffôn di-dâl.