Cais am fesurydd dŵr

Information

Rydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau ac mae’n cymryd mwy o amser nag yr hoffem i drefnu apwyntiadau. Mae eich cais wedi ei gofnodi ac nid oes angen cysylltu â ni.

Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl wrth i ni brosesu eich cais.

Os ydych chi am gyflwyno cais am fesurydd, gallwch wneud hynny ar lein.

Ymddangosiad dwr


Mae cyflenwi dŵr yfed o safon uchel yn flaenoriaeth i ni bob amser. Weithiau mae dŵr tap yn gallu edrych yn afliw, yn niwlog neu’n llawn gronynnau bychain bach. Mae gwybodaeth isod i’ch helpu chi i glustnodi beth allai fod yn achosi’r broblem, y rhesymau pam fod hyn yn digwydd, a beth y gallwn ei wneud i helpu i’w atal.

Dŵr afliw

Beth sy’n achosi dŵr afliw?
Gronynnau o haearn neu fanganîs sydd wedi dod o brif bibellau dŵr haearn bwrw, ac sydd wedi setlo dros amser yn y rhwydwaith, sy’n achosi dŵr afliw sy’n felyn, yn oren, yn frown gymylog neu’n ddu fel rheol. Mae rhwyg mewn prif bibell ddŵr, galw mawr mewn cyfnodau o dywydd poeth a sych neu gwaith gwella ar ein rhwydwaith, yn cynyddu llif y dŵr, ac mae hyn yn gallu corddi’r llaid. Nid yw’r afliwio’n para mwy na 24 awr fel rheol. Yr unig ffordd o’i glirio yw gadael iddo weithio’i ffordd drwy’r system.

Er nad yw'n edrych yn dda, mae'r lefelau haearn a manganîs a geir mewn dŵr tap afliw yn annhebygol o fod yn niweidiol i'ch iechyd.

Weithiau, problem gyda’r pibellau neu’r plymio y tu fewn i’ch eiddo sy’n achosi’r afliwio. Os yw dŵr eich cymdogion yn glir, a’r dŵr o dap dŵr oer eich cegin yn glir, ond bod dŵr afliw yn dod allan o unrhyw dapiau eraill, mae hynny’n awgrymu bod problem y tu fewn i’ch eiddo. Os felly, dylech gysylltu â’ch plymwr i ofyn am gyngor

Awgrymiadau

  • Rhedwch eich dŵr tap i helpu i fflysio'r dŵr drwyddo. Y rhan fwyaf o'r amser, bydd fflysio'ch tapiau rhwng hanner awr ac awr yn helpu i glirio unrhyw liw anarferol.
  • Peidiwch â golchi unrhyw ddillad gan y gall y lliw yn y dŵr eu staenio. Os bydd hyn yn digwydd, arhoswch nes bod y dŵr yn glir ac yna golchwch eich dillad fel arfer.

Os oes gennych ddŵr afliw yn eich tap cegin ar ôl rhedeg eich tap, cysylltwch â ni. Efallai y bydd angen i ni ddod i fflysio'r system i gyflymu’r broses.

Dŵr niwlog neu’n gwyn

Beth sy'n achosi dŵr gwyn?

Aer yn y dŵr
Mae dŵr yn gallu edrych yn llaethog neu'n niwlog am fod llawer o swigod aer bychain bach yn y dŵr sy'n gwneud iddo edrych yn wyn. Mae'r swigod yn ddigon diniwed, a byddan nhw'n clirio'n gyflym. Os nad yw'r dŵr yn clirio, gallai hynny fod am fod y broblem yn effeithio ar y dŵr yn y brif bibell ac nid eich eiddo chi'n unig. Efallai bod gwaith wedi cael ei gyflawni yn eich ardal, fel gwaith i drwsio rhwyg yn y bibell. Gallwch chwilio i weld a oes gwaith ar droed ger eich eiddo trwy fynd i adran “Yn Eich Ardal” ein gwefan.

Mae dŵr niwlog yn clirio cyn pen 24 awr fel rheol. Os yw'r dŵr niwlog yn dod o'r brif bibell, yr unig ffordd o'i glirio yw gadael iddo weithio ei ffordd trwy'r system.

Calch neu ronynnau gwyn yn y dŵr
Mae calch mân yn gallu datblygu oherwydd y mwynau naturiol sydd yn y dŵr. Mae cynhesu'r dŵr, yn enwedig ei ferwi, yn rhyddhau'r rhain, ac os ydych chi'n byw mewn ardal â dŵr caled, maen nhw’n gallu edrych fel caenau neu ronynnau gwyn. Nid yw aer neu galch yn effeithio ar ansawdd y dŵr. Yn wir, mae rhywfaint o aer tawdd mewn dŵr tap bob tro, a hebddo, gall y dŵr flasu'n fflat neu'n egr.

Weithiau, problem gyda’r pibellau neu’r plymio y tu fewn i’ch eiddo sy’n achosi’r dwr gwyn. Os yw dŵr eich cymdogion yn glir, a’r dŵr o dap dŵr oer eich cegin yn glir, ond bod dŵr gwyn yn dod allan o unrhyw dapiau eraill, mae hynny’n awgrymu bod problem y tu fewn i’ch eiddo. Os felly, dylech gysylltu â’ch plymwr i ofyn am gyngor.

Awgrymiadau
Mae hi’n rhwydd canfod a yw’r dŵr yn wyn oherwydd aer neu ronynnau dŵr caled:

  • Llenwch wydr glân â dŵr oer o’r tap — os yw’r swigod yn clirio o’r gwaelod i fyny, yna aer sydd yn y dŵr.
  • Mae’n syniad da rhedeg eich tapiau i helpu i fflysio’r dŵr trwy’r pibellau. Y rhan fwyaf o'r amser, bydd fflysio eich tapiau yn helpu i glirio eich dŵr os yw’n gymylog neu’n wyn.
  • Os oes haenen o ronynnau mân ar waelod y gwydr ar ôl iddo glirio, mae hynny oherwydd dŵr caled. I gael gwybodaeth am galedwch dŵr, ewch i’r adran “Yn Eich Ardal” sy’n rhoi gwybodaeth am galedwch y dŵr yn eich lleoliad.

Rydyn ni’n argymell defnyddio plymwr sydd ar restr WaterSafe - y gofrestr genedlaethol o osodwyr cymwys a hyfedr. Gallwch chwilio am blymwr ar wefan WaterSafe (WaterSafe.co.uk).

Os oes aer yn y dŵr sy’n dod allan o dap y gegin, neu os yw’n dal i fod wedi ei afliwio ar ôl rhedeg y tap am hanner awr i awr, anfonwch ymholiad gan ddefnyddio’r ffurflen ‘Cofnodi Problem’ neu rhowch alwad i ni, mae’n bosibl y bydd angen i ni ddod i fflysio’r system i roi hwb iddi.

Lliw glas, pinc, gwyrdd neu unrhyw liw arall mewn dŵr

Achosion

Pibellau copr
Weithiau os yw'r dŵr wedi bod yn sefyll mewn hen bibellau copr am amser hir, gall copr gronni yn y dŵr gan beri iddo edrych yn las neu'n wyrdd. Gallai hyd yn oed rhoi blas cas i'r dŵr. Mae hyn yn gallu digwydd gyda phibellau copr newydd hefyd, ond dylai wella gydag amser am fod calch amddiffynnol yn cronni y tu fewn i'r pibellau gan atal y copr rhag cael ei ryddhau. Gallai hyn roi blas chwerw cas i’ch dŵr yfed neu gallai staenio eich ffitiadau.

Diheintyddion lliw mewn sestonau tŷ bach
Gall seston toiled ddiffygiol neu blymio gwael achosi i ddŵr lifo yn ôl o seston y toiled i'ch tapiau. Os ydych chi'n defnyddio glanedydd seston glas, porffor neu binc (bloc glas) a bod nam ar seston eich toiled, gallai hynny afliwio'r dŵr sy'n dod o'ch tapiau. I gael rhagor o wybodaeth neu gymorth, gweler ein tudalen gymorth ar gydymffurfiaeth toiledau.

Awgrymiadau

  • Rhedwch y tap am ychydig funudau nes bod y dŵr yn clirio cyn ei ddefnyddio, yn enwedig ar ôl gosod pibellau copr newydd.
  • Os ydych chi wedi fflysio eich system ond bod eich dŵr wedi ei afliwio o hyd, neu os yw’r afliwiad yn dychwelyd drosodd a thro, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen ar lein, neu rhowch alwad i ni. Mae’n bosibl y bydd angen i ni ddod allan i ymchwilio i weld beth sy’n achosi’r broblem.

I gael rhagor o gyngor ar afliwiad glas, pinc, gwyrdd neu unrhyw liw arall, cysylltwch â’ch plymwr am gyngor am y gallai fod problem gyda’r plymio mewnol.

Rydyn ni’n argymell defnyddio plymwr sydd ar restr WaterSafe - y gofrestr genedlaethol o osodwyr cymwys a hyfedr. Gallwch chwilio am blymwr ar wefan WaterSafe (WaterSafe.co.uk)

Darnau mân yn y dŵr

Achosion
Weithiau bydd gan gwsmeriaid ronynnau melyn, oren, brown neu ddu yn eu dŵr sy’n gallu afliwio’r dŵr sy’n dod trwy’r tap. Gronynnau o haearn neu fanganîs sy’n achosi hyn. Maen nhw’n dod o brif bibellau haearn bwrw fel rheol ac yn setlo yn y rhwydwaith. Os oes rhwd mewn prif bibell, gall galw mawr mewn cyfnodau o dywydd poeth a sych, neu waith gwella ar ein prif bibellau dŵr gynyddu llif y dŵr, a chorddi’r sediment. Ni fydd yr afliwiad yn para mwy na 24 awr fel rheol, a’r unig ffordd o’i glirio yw gadael iddo weithio’u ffordd trwy’r system. Am gyngor pellach, gweler ein tudalen ar afliwiad.
Gall llysnafedd du (bioffilm) achosi gronynnau du yn eich dŵr os yw’n cronni yn eich tap neu yn eich pen cawod. Mae’n hollol ddiniwed, a’r unig ffordd o’i atal yw glanhau’r ardal lle mae’n tyfu â channydd neu doddiant sterileiddio fel Milton yn rheolaidd. Problem gyda’r plymio mewnol preifat yw twf y llysnafedd du, nid problem gyda’r prif gyflenwad dŵr. Gweler ein tudalen ar Lysnafedd a Staenio am gyngor pellach.
Os ydych chi’n gweld gronynnau gwyn yn y dŵr, gallai hynny fod naill ai oherwydd caledwch y dŵr neu oherwydd problem gyda’ch system blymio fewnol. Gweler ein tudalen am Ddŵr Niwlog neu Wyn am fanylion pellach.
Gall pibellau plwm sydd mewn cyflwr gwael achosi rhai mathau o ronynnau. I gael rhagor o wybodaeth am bibellau plwm, gweler yr adran Pibellau Plwm o dan Ansawdd y Dŵr yn eich Cartref.
Gall pibellau cyflenwi galfanedig achosi gronynnau mewn dŵr yfed hefyd am y gallant gyrydu dros amser. Os oes gronynnau yn eich cyflenwad dŵr a’ch bod yn ymwybodol o bibellau galfanedig yn eich eiddo, dylech ofyn am gyngor gan blymwr.
Gall rhai cwsmeriaid sylwi ar ronynnau du yn eu dŵr. Gall hyn ddigwydd am fod hen bibellau cyflenwi alcathen yn dirwyio dros amser gan achosi gollyngiadau dŵr a phwysedd isel. Os felly, dylech ofyn am gyngor plymwr.

Awgrymiadau

  • Mae’n syniad da rhedeg eich tapiau i helpu i fflysio’r dŵr trwy’r pibellau.
  • Os oes gronynnau melyn, oren neu frown yn eich dŵr, peidiwch â golchi unrhyw ddillad, am y gallai’r dŵr afliw adael staen arnynt. Os bydd hyn yn digwydd, arhoswch nes bod y dŵr yn glir a golchwch eich dillad eto fel arfer.

Rydyn ni’n argymell defnyddio plymwr sydd ar restr WaterSafe - y gofrestr genedlaethol o osodwyr cymwys a hyfedr. Gallwch chwilio am blymwr ar wefan WaterSafe (WaterSafe.co.uk)

Os oes gennych ronynnau yn eich dŵr yn eich tap cegin ar ôl rhedeg eich tap, cysylltwch â ni. Mae’n bosibl y bydd angen i ni ddod i fflysio’r system i roi hwb iddi.