Cais am fesurydd dŵr

Information

Rydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau ac mae’n cymryd mwy o amser nag yr hoffem i drefnu apwyntiadau. Mae eich cais wedi ei gofnodi ac nid oes angen cysylltu â ni.

Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl wrth i ni brosesu eich cais.

Os ydych chi am gyflwyno cais am fesurydd, gallwch wneud hynny ar lein.

Blas ac Arogl Dŵr


Weithiau mae cwsmeriaid yn dweud wrthym nad yw eu dŵr yn blasu nac yn arogli fel y mae fel arfer. Gellir disgrifio blas ac arogl dŵr mewn sawl ffordd, rydym wedi cynnwys rhai o'r disgrifiadau cyffredin isod:

Clorin

Beth sy’n achosi blas clorin?
Mae clorin yn cael ei ychwanegu at ddŵr yfed yn ystod camau olaf y gwaith trin er mwyn lladd unrhyw ermau niweidiol a allai fod ynddo. Mae ychydig bach o glorin yn aros yn y dŵr wrth iddo wneud ei ffordd i dapiau'r cwsmeriaid er mwyn ei gadw'n iachus ac nid yw’r lefelau o glorin a geir mewn dŵr yfed yn niweidiol. Rydyn ni’n cadw lefelau’r clorin mewn dŵr yfed yn ddiogel o fewn y terfynau a argymhellir o 5mg/l a lefelau'r clorin sy'n cael eu hychwanegu at y dŵr yn y gweithfeydd trin yn cael eu monitro'n ofalus 24 awr y dydd.

Gall lefelau’r clorin amrywio ychydig bach yn ystod y dydd am y bydd galw uwch am ddŵr tap yn golygu bod y dŵr yn teithio trwy’r system yn gynt. Gall newidiadau yn nhymheredd y dŵr effeithio ar y crynhoad o glorin hefyd, gyda'r lefelau'n uwch yn y gaeaf. Bydd cwsmeriaid sy'n byw yn agos at weithfeydd trin dŵr neu orsaf hybu clorin awtomatig yn cael dŵr yfed â lefel ychydig bach yn uwch o glorin na'r rhai sy'n byw ymhellach i lawr y system ddosbarthu am fod lefelau'r clorin yn dirywio po bellaf y bydd y dŵr yn teithio trwy'r prif bibellau dŵr. Mae rhai pobl yn fwy sensitif i flas ac arogl clorin nac eraill.

Awgrymiadau:

  • Gall llenwi jwg, ei orchuddio a gadael i'r dŵr sefyll yn yr oergell nes bod angen ei ddefnyddio leihau blas y clorin. Dylech daflu unrhyw ddŵr sydd wedi bod yn sefyll am fwy na 24 awr.
  • Mae hi’n annhebygol taw clorin sydd i gyfrif am flas tebyg i glorin neu flas metelaidd mewn diodydd poeth — yn arbennig te, mae'n fwy tebygol o fod yn gysylltiedig â deunyddiau plymio mewnol. Os felly, dylech ofyn am gyngor plymwr.

Rydyn ni’n argymell defnyddio plymwr sydd ar restr WaterSafe - y gofrestr genedlaethol o osodwyr cymwys a hyfedr. Gallwch chwilio am blymwr ar wefan WaterSafe.

Cemegol neu Feddyginiaetholl

Beth sy’n achosi blas neu arogl cemegol?
O bryd i'w gilydd, bydd cwsmeriaid yn cysylltu â ni i ddweud bod blas cas ar y dŵr sy'n dod o'u tapiau, ac maen nhw'n aml yn disgrifio'r blas fel blas TCP, meddyginiaethol, metelaidd neu chwerw. Weithiau mae'r arogl yma mewn diodydd sydd wedi eu berwi yn unig neu pan fo gwydraid o ddŵr wedi bod yn sefyll am gyfnod.

Mae'r adwaith rhwng y lefelau isel ond hanfodol o glorin sy'n bresennol mewn dŵr tap a'r cydrannau plastig neu rwber a geir mewn offer domestig fel rhai tegyll, wasieri tapiau, a'r pibellau sy'n cysylltu peiriannau golchi llestri a golchi dillad â'r prif gyflenwad dŵr yn gallu achosi'r blas a'r arogl yma. Os yw’r blas neu’r arogl ar ddiodydd poeth yn unig, gallai hynny fod oherwydd sêl eich tegell neu am fod gennych declyn newydd.

Awgrymiadau

  • I gadarnhau ai pibell y peiriant golchi llestri neu ddillad sydd ar fai, neilltuwch y bibell a blaswch y dŵr eto. Os yw hyn yn datrys y broblem gyda'r blas, gosodwch falf un ffordd ar ben y bibell lle mae'n cysylltu â'r pibellwaith. Dylai cyflenwr yr offer plymio fod yn gallu cadarnhau hyn.
  • I gadarnhau ai'r tegell sydd ar fai, gwnewch ddiod boeth gyda dŵr wedi ei ferwi mewn sosban, a chymharwch y blas a'r ddiod a wnaed a dŵr o'r tegell.  

Rydyn ni’n argymell defnyddio plymwr sydd ar restr WaterSafe - y gofrestr genedlaethol o osodwyr cymwys a hyfedr. Gallwch chwilio am blymwr ar wefan WaterSafe.

Chwerw neu fetelaidd

Beth sy’n achosi blas neu arogl metelaidd chwerw?
Gall blas metelaidd neu chwerw fod oherwydd cynnydd yn y metelau cyffredin fel copr, haearn, neu bibellau galfanedig a geir mewn systemau plymio domestig. Gall fod yn amlycach mewn eiddo sydd â llawer o bibellwaith mewnol am fod y dŵr yn sefyll yn y pibellwaith am fwy o amser. Mae’r blas a’r arogl yma’n gallu bod yn amlycach pan fo’r dŵr wedi cael ei gynhesu. ​

Weithiau bydd gwydrau neu gwpanau sydd wedi bod trwy’r peiriant golchi’n cadw olion o lanedyddion sy’n gallu achosi blas chwerw hefyd.

Awgrymiadau

  • Os yw'r dŵr wedi bod yn sefyll yn y bibell ers oriau, llenwch bowlen golchi llestri â dŵr a thynnwch dŵr ffres trwy'r bibell. Gallwch ddefnyddio'r dŵr yn y bowlen i ddyfrio'r planhigion, felly nid oes angen ei wastraffu.​
  • Rhowch gynnig ar rinsio'r gwydr neu'r cwpan â dŵr tap i weld a yw'r blas yn parhau. Os felly, addaswch y gosodiadau ar eich peiriant golchi llestri a pheidiwch â defnyddio mwy o lanedydd a hylif rinsio na'r hyn y mae'r pecyn yn ei argymell.

Priddlyd neu Lwydaidd

Beth sy’n achosi blas priddlyd neu lwydaidd?
Gall arogl a blas priddlyd neu lwydaidd gael ei achosi gan ddŵr llonydd yn y system blymio fewnol. Gall hyn fod yn arbennig o amlwg os yw eich pibellau dŵr oer yn rhy agos at y pibellau dŵr poeth yn eich eiddo. Gall rhannau hir o bibellau mewnol sy'n cael eu defnyddio'n anaml (a elwir hefyd yn bibellau segur) hefyd arwain at ddŵr llonydd dros amser, a gallant gyfrannu at flas fel pridd neu fwd ar y dŵr.

Gallai rhai cwsmeriaid sylwi bod blas llwydaidd neu briddlyd ar eu prif gyflenwad dŵr, yn arbennig mewn tywydd poeth. Gall hyn fod oherwydd sylwedd sy'n digwydd yn naturiol a all fod yn bresennol mewn rhai cronfeydd dŵr. Mae’r sylwedd yn datblygu mewn dyfroedd amgylcheddol ac mae’n cael ei gynhyrchu gan weithgarwch amgylcheddol naturiol y gronfa sy’n gallu cynyddu pan fo’r tymheredd yn codi mewn hafau poeth. Peth naturiol yw hyn ac nid yw’n niweidiol i iechyd, ond mae’n gallu achosi arogl llwydaidd- priddlyd mewn crynodiadau isel iawn. Rydyn ni’n rhoi triniaeth ychwanegol i’r dŵr er mwyn delio â’r sylwedd yma na ellir ei ddileu trwy ein proses drin arferol yn ein gweithfeydd trin dŵr.

Awgrymiadau

  • Os yw'r dŵr wedi bod yn sefyll yn y bibell ers oriau, llenwch bowlen golchi llestri â dŵr a thynnwch dŵr ffres trwy'r bibell. Gallwch ddefnyddio'r dŵr yn y bowlen i ddyfrio'r planhigion, felly nid oes angen ei wastraffu.
  • Weithiau gall arogl pridd neu lwydni y tu mewn i eiddo effeithio ar ein synnwyr o flas ac arogl y dŵr. Byddem yn argymell llenwi gwydraid â dŵr a mynd y tu allan i’r eiddo, wedyn gweld a yw’r arogl a’r blas yn dal i fod yno.
  • I ganfod ydym yn ymwybodol o ddŵr priddlyd neu lwydaidd yn y rhwydwaith yn eich ardal, ewch i adran ‘Yn Eich Ardal’ ein gwefan.
  • Os yw'r broblem oherwydd y plymio mewnol yn yr eiddo, dylech gysylltu â phlymwr am gymorth a chyngor.

Rydyn ni’n argymell defnyddio plymwr sydd ar restr WaterSafe - y gofrestr genedlaethol o osodwyr cymwys a hyfedr. Gallwch chwilio am blymwr ar wefan WaterSafe.

Petrol neu Ddisel

Beth sy’n achosi arogl neu flas tanwydd?
Yr achos arferol yw pan fydd cwsmeriaid neu eraill wedi gollwng olew gwresogi neu betrol yn ddamweiniol ar y dreif neu yn yr ardd ac os oes pibell gwasanaeth blastig yn rhedeg o dan y gollyngiad, gall y petrol/olew effeithio'n andwyol ar y dŵr yn y bibell wasanaeth. Gall gymryd peth amser i'r olew neu'r petrol deithio drwy'r pridd i gyrraedd y bibell wasanaeth.

Os ffeindiwch chi fod blas neu arogl tanwydd ar eich cyflenwad dŵr, dylech gysylltu â llinell gymorth gweithredol Dŵr Cymru ar unwaith. Bydd arolygydd Dŵr Cymru’n galw i’ch eiddo i ymchwilio i achos y blas neu’r arogl.

Awgrymiadau

  • Weithiau gall arogl petrol neu olew y tu fewn i eiddo effeithio ar ein synnwyr o flas ac arogl dŵr. Byddem yn argymell llenwi gwydraid â dŵr a mynd y tu allan i’r eiddo, wedyn gweld a yw’r arogl a’r blas yn dal i fod yno. Os felly, cysylltwch â ni gan ddefnyddio rhif ein llinell gymorth.

Carthion

Beth sy’n achosi arogl neu flas carthion?
Os ffeindiwch chi fod blas neu arogl carthion ar eich cyflenwad dŵr, dylech gysylltu â llinell gymorth weithredol Dŵr Cymru i gwsmeriaid ar unwaith. Bydd arolygydd Dŵr Cymru’n galw i’ch eiddo i ymchwilio i achos y blas neu’r arogl.

Awgrymiadau

  • Os ydych chi'n llenwi gwydr â dŵr ac yn mynd ag ef i ystafell arall ac nad yw'r arogl carthion yn bresennol mwyach, yna mae'n debygol bod y broblem yn y sinc neu'r draeniau, a dylid eu glanhau neu eu dadflocio. ​
  • Os yw’r arogl yn dal i fod ar y gwydraid o ddŵr wrth fynd ag ef i ffwrdd oddi wrth y sinc, gallai hynny olygu bod problem gyda’ch plymio, a dylech gysylltu â ni gan ddefnyddio rhif ein llinell gymorth weithredol.