Cais am fesurydd dŵr

Information

Rydym yn derbyn nifer uchel o geisiadau ac mae’n cymryd mwy o amser nag yr hoffem i drefnu apwyntiadau. Mae eich cais wedi ei gofnodi ac nid oes angen cysylltu â ni.

Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl wrth i ni brosesu eich cais.

Os ydych chi am gyflwyno cais am fesurydd, gallwch wneud hynny ar lein.

Ansawdd Dŵr yn y Cartref


Llysnafedd a staenio

Beth sy’n achosi llysnafedd a staenio?

Mae bacteria a ffyngau sy’n bresennol yn naturiol yn yr awyr, dŵr ac mewn llwch cartrefi’n gallu glynu wrth arwynebau llaith a lluosi i greu llysnafedd du neu staen o amryw liwiau (du, coch, pinc). Dyma’r bioffilmiau neu ‘llysnafedd microbaidd’ a welir mewn ceginau ac ystafelloedd ymolchi. Os nad yw bioffilmiau'n cael eu tynnu cyn gynted ag y maent yn ffurfio, gallant dyfu i mewn i ddeunyddiau penodol, fel growt teils a llenni cawod, gan eu marcio'n barhaol gyda staeniau du, pinc neu goch.

Ble fydd bioffilmiau yn ymddangos?
Mae bioffilmiau yn gallu ffurfio ar unrhyw arwyneb sy’n dod i gysylltiad â dŵr, megis:

  • Tu fewn tapiau dŵr oer — weithiau byddant yn ffurfio llysnafedd llwyd/du yn hongian o’r tap
  • O amgylch ffitiadau tapiau
  • Taenellwyr & cyrtens cawodydd
  • Teils ystafell ymolchi/cawodydd
  • Draeniau a sinciau
  • Arwynebau sinciau ceginau
  • O fewn offer cartref

Er eu bod yn edrych yn salw, yn gyffredinol maent yn ddiniwed a ddim yn fygythiad i iechyd.

Awgrymiadau
Yn anffodus, nid oes unrhyw beth gallwn wneud i’r cyflenwad dŵr yfed i rwystro tyfiant bioffilmiau o fewn adeiladau cwsmeriaid. Mae yna ambell i ffordd y gallwch chi atal twf bioffilm yn eich cartref:

  • Gall glanhau rheolaidd gan ddefnyddio cannydd gwan neu hydoddiant sterileiddio gael gwared ar unrhyw fioffilm sy’n tyfu. Gellir tynnu llysnafedd du sy'n gysylltiedig â ffitiadau tap trwy lanhau tu mewn i'r tap neu o amgylch gwaelod y tap gyda brwsh bach (e.e. hen frws dannedd) wedi'i drochi mewn cannydd ysgafn neu hydoddiant sterileiddio. Bydd tynnu unrhyw fewnosodiadau plastig neu ffitiadau datodadwy a'u glanhau'n rheolaidd hefyd yn atal bioffilmiau rhag aildyfu. Dylid fflysio'r tap yn drylwyr yn syth ar ôl hynny. Os nad yw tyfiant yn cael eu tynnu yn rheolaidd, gallant dyfu i mewn i growt cawod, selwyr silicon a llenni cawod, gan eu staenio'n barhaol.
  • Trwy gynyddu’r awyriad mewn ystafelloedd cynnes a llaith (fel ystafelloedd ymolchi, ceginau ac ystafelloedd gwlyb) ni fydd y dŵr yn sefyll ar arwynebau am yn hir sy’n gallu hybu twf bioffilm. Mae sychu’r dŵr oddi ar sgriniau cawod a theils yn ffordd effeithiol o atal twf bioffilm.
  • Gall sychu arwynebau’n rheolaidd gan ddefnyddio glanedydd cartref atal twf bioffilm trwy glirio olion cynhyrchion fel siampŵ, sebon, powdr golchi neu chwistrell gwallt. Mae’r pethau hyn yn gallu gweithredu fel ffynhonnell bwyd ar gyfer bacteria a ffwng.
  • Gall twf bioffilm effeithio ar declynnau hidlo a meddalu hefyd, felly mae hi’n bwysig eu bod yn cael eu gwasanaethu yn unol â chyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr. Gweler ein tudalen ar Galedwch Dŵr am fwy o wybodaeth am feddalyddion dŵr.

Hidlyddion dŵr

Rydyn ni'n rhoi gofal mawr i ddarparu dŵr yfed diogel i'n holl gwsmeriaid at ddibenion yfed, coginio a golchi. Er mwyn sicrhau nad oes unrhyw facteria peryglus yn y dŵr, mae'n cael ei ddiheintio â chlorin. Mae mymryn bach iawn o glorin yn aros yn y dŵr wrth iddo adael y gweithfeydd trin er mwyn cynnal ei ansawdd nes iddo gyrraedd eich tap. Nid yw’r clorin mewn dŵr yfed yn niweidiol am ein bod ni'n ychwanegu cyn lleied ohono.

A oes angen hidlydd dŵr arnaf i?

Nac oes, am fod y dŵr yn cael ei drin i'r safonau uchaf. Ond mae rhai ohonom ni'n fwy sensitif i flas clorin ac mae defnyddio hidlydd dŵr yn gallu lleihau'r blas. Mae hidlyddion yn cael eu defnyddio i leihau caledwch y dŵr hefyd. Mater o ddewis personol yw hi'n llwyr.

Mae dau fath o hidlydd:

  • Hidlydd 'mewnol', sy'n cael ei osod o dan sinc
  • Jwg hidlo

Os ydych chi'n ystyried defnyddio hidlydd dŵr am fod gennych ddŵr caled, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen ein ffeithlen 'Dŵr Caled'.

Pethau i'w cofio am hidlyddion dŵr

Am fod hidlo'n cael gwared ar unrhyw glorin sy'n weddill o'r dŵr, mae'r canllawiau isod yn ddefnyddiol i gadw eich dŵr yn ddiogel:

  • Rhedwch y tap dŵr oer am funud neu ddwy cyn defnyddio jwg hidlo
  • Peidiwch â gadael i ddŵr wedi ei hidlo sefyll yng ngolau'r haul am yn rhy hir
  • Ar ôl ei hidlo, storiwch eich dŵr yn yr oergell a'i ddefnyddio cyn pen 24 awr
  • Golchwch eich jwg hidlo mewn dŵr poeth â sebon yn gyson, ond nid yr hidlydd ei hun
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dilyn canllawiau'r gweithgynhyrchwr. Gall hidlyddion fynd yn afiach os nad ydyn nhw'n cael eu newid neu eu defnyddio'n iawn
  • Os gwelwch chi ddarnau bychain bach du ar ôl hidlo'r dŵr, gallai hynny olygu bod nam a bod angen newydd yr hidlydd.

Pibellau plwm

Mae yna reoliadau llym sy’n llywodraethu faint o blwm a ganiateir mewn dŵr yfed. Tan y 1970au, roedd plwm yn ddeunydd cyffredin mewn pibellau a thanciau dŵr, felly mae’n debygol y bydd yn dal i fod yn bresennol mewn eiddo a adeiladwyd cyn 1970 ac nad ydynt wedi cael eu moderneiddio’n llwyr. Defnyddiwyd sodr plwm hefyd ar bibellau mewnol hyd at y 1980. Lle mae plwm yn cael ei ganfod mewn dŵr tap, fel arfer mae'n dod o hen bibellau plwm sy'n cysylltu'r eiddo â'r cyflenwad dŵr neu yng ngwaith plymio mewnol yr eiddo sy’n cynnwys sodr plwm. Ni fydd dŵr sy'n gadael gwaith trin dŵr yn cynnwys llawer o blwm, os o gwbl. Os ydych chi'n meddwl bod gennych sodr neu bibellau plwm, gallwch gysylltu â ni i drefnu prawf dŵr am ddim o'r tap cegin oer i wirio lefelau plwm yn eich dŵr.

Sut mae canfod a oes gen i bibellau plwm yn fy nghartref?

Mae yna ambell i brawf syml y gallwch eu cyflawni i ganfod a oes yna bibellau plwm yn eich eiddo:

  • Ffeindiwch y fan lle mae’r bibell ddŵr yn dod i mewn i’r eiddo; mae hyn fel arfer wrth y stoptap mewnol sydd o dan sinc y gegin fel rheol.
  • Chwiliwch ar hyd gymaint o’i hyd ag y gallwch chi.
  • Mae pibellau plwm heb eu peintio fel arfer lliw llwyd dilewyrch ac yn feddal.
  • Wrth grafu’r wyneb yn ofalus â chyllell, fe welwch fetel arian sgleiniog odano.
  • Mae’r asiadau ar bibellau plwm yn aml yn chwyddedig.

Beth gallaf i ei wneud i leihau lefelau’r plwm yn fy nŵr tap?

Os ydych chi’n poeni am bibellau plwm neu sodr plwm, gallech drefnu bod eich dŵr yn cael ei brofi am gynnwys plwm. Rydym yn cynnig profion plwm am ddim i gwsmeriaid ar gais. Os ffeindiwch chi bibellau plwm yn eich eiddo, mae’n bosibl lleihau lefelau’r plwm yn y tymor byr trwy gymryd ambell i gam syml cyn defnyddio’r dŵr at ddibenion yfed neu goginio.

  • Fflysiwch ddŵr sydd wedi bod yn sefyll yn y pibellau am ychydig oriau, dros nos er enghraifft, neu os yw’r tŷ wedi bod yn wag am y diwrnod. Rhedwch y dŵr o’r tap dŵr oer a ddefnyddir ar gyfer dŵr yfed nes casglu llond powlen golchi llestri o ddŵr. Nid oes angen gwastraffu’r dŵr, a gallech ei gasglu i ddyfrio’ch planhigion, er enghraifft.
  • Defnyddiwch ddŵr o’r tap dŵr oer bob tro at ddibenion yfed neu goginio. Mae dŵr poeth yn hydoddi plwm yn gynt na dŵr oer, ac felly mae’n fwy tebygol o gynnwys mwy o blwm. Os oes angen dŵr at ddibenion yfed neu goginio, dylech ddefnyddio dŵr o’r tap dŵr oer a’i gynhesu. Defnyddiwch ddŵr sydd wedi cael ei fflysio’n llwyr o’r tap dŵr oer at ddibenion yfed a chymysgu fformwla llaeth baban.

Ble mae cael rhagor o wybodaeth am blwm?

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen ein ffeithlen 'Plwm mewn dŵr yfed’.

Cadw pysgod

Oes modd defnyddio dŵr tap mewn pwll neu acwariwm?

Pennwyd safonau ansawdd dŵr er mwyn sicrhau bydd dŵr tap yn ddiogel i’w yfed gan bobl. Bydd gweithfeydd trin dŵr yn addasu’r pH er mwyn sicrhau na fydd dŵr yn pydru pibellau metel ac yn ychwanegu clorin er mwyn ei ddiogelu. Fel arfer, ni fydd pysgod yn wynebu dŵr alcali meddal ac nid ydynt yn gallu goddef clorin, felly bydd rhaid trin dŵr tap cyn ei ddefnyddio ar gyfer pysgod neu organebau dyfrol eraill. Ond, cyn belled byddwch yn dilyn rhai rheolau sylfaenol, gallwch ddefnyddio dŵr tap mewn acwaria neu byllau dŵr sy’n cynnwys rhywogaethau pysgod gwydn.

Rheolau sylfaenol cadw pysgod

  • Defnyddio dŵr o dap oer yn cysylltu â’r prif gyflenwad dŵr bob tro, nid dŵr tanc
  • Rhedeg y tap am gyfnod i waredu dŵr yn sefyll yn y pibellau cyn llenwi acwariwm ac ati
  • Rhai pysgod ac anifeiliaid morol di-asgwrn-cefn yn sensitif iawn i fetelau fel copr a sinc o fewn pibellau, sy’n gallu crynhoi dros amser mewn tanciau a phyllau dŵr
  • Osgoi defnyddio dŵr o dap poeth, neu ddŵr wedi’i drin gyda meddalyddion

Gofynion tymheredd

Yn gyffredinol mae dŵr tap yn llawer oerach na dŵr mewn acwaria a thanciau dŵr dan do, a gall fod yn oerach na phwll dŵr yn yr haf. Nid yw pysgod yn gallu goddef newidiadau tymheredd cyflym, gan ddioddef sioc sy’n gallu profi’n farwol. Os yn gwresogi acwariwm, cofiwch gynhesu dŵr tap wrth ychwanegu ychydig o ddŵr wedi’i ferwi mewn cynhwysydd nid-metel, neu wrth ddefnyddio gwresogydd acwariwm i godi’r tymheredd. Ni ddylai chwistrelli dŵr yn araf i ail-lenwi pyllau dŵr achosi problemau, cyn belled yr ychwanegir dim ond ychydig o ddŵr yn rheolaidd.

Gofynion clorin

Er mwyn sicrhau bod dŵr tap yn ddiogel i'w yfed, rydyn ni'n ei ddiheintio gan ddefnyddio crynodiad isel o glorin. Nid oes yr un o'n gweithfeydd trin dŵr yn cyflenwi dŵr â chloramin.

Mae hi'n bwysig tynnu'r clorin o’r dŵr cyn ei ddefnyddio i gadw pysgod. Dylid gwneud hyn trwy ychwanegu sylwedd dadglorineiddio gan ddilyn cyfarwyddiadau’r cynnyrch at y dŵr cyn iddo fynd i’r tanc neu’r pwll.

Fydd dŵr tap yn newid ar ôl ei roi mewn pwll neu acwariwm?

Mae gwastraff pysgod, tyfiant planhigion ac alga, gorfwydo a diffyg ffiltro yn cynhyrchu gwastraff nitrogenus gwenwynig, sy’n gostwng lefelau ocsigen. Mae tyfiant alga yn gallu newid lefelau pH yn ddyddiol. Os bydd gwastraff nitrogenus yn crynhoi bydd yn bygwth iechyd y pysgod. Mae ffilterau biolegol yn gallu gwaredu gwastraff nitrogenus, ond rhaid eu cynnal yn iawn. Os ydych am weld lefelau cyfartalog y nitradau yn eich dŵr, edrychwch ar yr adroddiad parth ansawdd dŵr diweddaraf yn ein hadran ‘Yn Eich Ardal’.

Ble mae cael rhagor o wybodaeth?

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen ein ffeithlen ‘Cadw pysgod’.

Symud Tŷ

Sut gallaf i ddod o hyd i fanylion ansawdd dŵr fy eiddo newydd?

Os ydych chi wedi symud i eiddo newydd yn ddiweddar a’ch bod am gael gwybod am galedwch neu ansawdd y dŵr yn yr ardal, gallwch ddod o hyd i’r manylion yn adran ‘Yn Eich Ardal’ ein gwefan.

Mae fy eiddo wedi bod yn segur am gyfnod, a fydd hyn yn effeithio ar ansawdd y dŵr?

Os yw’r eiddo wedi bod yn wag am gyfnod, byddem yn argymell fflysio’r dŵr trwy’r system i glirio unrhyw ddŵr llonydd o’r pibellau. Ar ôl fflysio, os ydych chi'n sylwi ar flas, arogl neu ymddangosiad anarferol i'r dŵr, gallwch gysylltu â ni am fwy o gyngor..

Archwiliadau dŵr

Yn rhan o’r broses o brynu eiddo, gall cyfreithwyr trosglwyddo eiddo gyflawni archwiliad dŵr ar yr eiddo. Mae hyn yn gallu cynnwys edrych ar yr adroddiad parth ansawdd dŵr diweddaraf ar gyfer yr ardal lle mae’r eiddo. Mae hi’n bwysig cofio bod yr adroddiadau parth yma’n crynhoi’r holl samplau a gymerir ym mhob parth yn flynyddol, ac nid ydynt yn cyfeirio at un eiddo penodol. Gallwch weld yr adroddiad parth ansawdd dŵr diweddaraf ar gyfer eich ardal trwy nodi eich cod post yn adran ‘Yn Eich Ardal’ y wefan. Am ragor o gyngor neu wybodaeth, cysylltwch â ni.

Taflen ffeithiau Plwm y Bartneriaeth Dŵr ac Iechyd

PDF, 294.6kB

Arwain mewn dŵr yfed