Caledwch dŵr
Mae ein dŵr tap yn dod o amryw o wahanol ffynonellau, o gronfeydd tir uchel i ddŵr daear o dyllau turio. Bydd hyn yn effeithio ar galedwch y dŵr tap a gyflenwn ar gyfer ein cwsmeriaid. Mae’r wybodaeth isod yn cadarnhau beth yw caledwch dŵr, a sut i gael gwybodaeth am galedwch y dŵr yn eich ardal.
Beth yw dŵr caled?
Mae caledwch yn fesur o’r calsiwm a magnesiwm yn bresennol mewn dŵr. Mae dŵr glaw yn naturiol feddal oherwydd nid yw’n cynnwys mwynau. Wrth basio drwy’r ddaear mae’n gallu amsugno mwynau fel calsiwm a magnesiwm. Bydd gronynnau bach iawn (ionau) o galsiwm a magnesiwm yn mynd i mewn i’r dŵr wrth iddo basio dros greigiau meddal fel calchfaen neu sialc. Mae caledwch yn cynnwys dwy ran: caledwch dros dro (carbonad) a pharhaol (nid- carbonad). Wrth ferwi dŵr, bydd y rhan dros dro’n creu calch calsiwm carbonad sy’n gallu ffurfio ar elfennau tegellau. Ni fydd y caledwch parhaol yn gwneud hynny, gan barhau yn y dŵr.
Os byddwch yn symud i ardal lle mae’r rhan helaeth o’r dŵr yn dod o gronfeydd ar yr ucheldiroedd, byddech yn disgwyl cael dŵr meddal. Ond mewn ardal yn derbyn dŵr o lynnoedd iseldiroedd neu ffynonellau dŵr daear bydd y dŵr yn fwy tebyg o fod yn galed.
Arwyddion dŵr caled
Some usual signs of hard water include:
- Chalch tu fewn tegellau
- Lleihau trochion sebon, hylif golchi llestri a phowdr golchi
- ‘Marciau llanw’ ar sinciau, basnau, baths a thoiledau
- Llysnafedd ar ddŵr berw
Sut mae caledwch dŵr yn cael ei fesur?
Fel arfer mynegir caledwch yn nhermau lefel gyfatebol o galsiwm carbonad mewn miligramau per litr neu rannau per miliwn. Fodd bynnag, gellir hefyd ei fynegi fel graddau caledwch yn ôl mesurau Clark (Lloegr), Ffrainc neu’r Almaen.
Nid oes cyfyngiadau rheoleiddiol ar galedwch dŵr.
Meddalydd dŵr
Mae pobl sy’n derbyn dŵr caled yn gallu defnyddio meddalwyr dŵr i leihau’r caledwch. Dewis yr unigolyn yw gwneud hynny ai peidio. Bydd meddalwyr dŵr yn gwella effeithiolrwydd ac yn ymestyn cylch oes offer dŵr poeth. Bydd yn gwneud seboni yn haws ac yn lleihau 'marciau llanw' ar y sinc a’r bath. Bydd pobl gyda chyflyrau croen, megis ecsema, yn wynebu llai o broblemau gyda dŵr meddal oherwydd ni fydd yn sychu’r croen gymaint. Ond, mae’n anodd gwaredu’r holl olion sebon gyda dŵr meddal, felly bydd yn well gan bobl gydag alergedd ddefnyddio dŵr caled.
Pan fyddwch yn prynu meddalydd dŵr, rydym yn eich cynghori i’w brynu gan gyflenwr ag enw da. Dylid ei osod gan blymwr cymwys sy'n aelod o Gymdeithas Fasnach gydnabyddedig, fel y Sefydliad Plymio. Rydym hefyd yn cynghori eich bod yn ystyried rhoi contract cynnal a chadw ar waith i sicrhau bod y meddalydd yn parhau i weithredu'n gywir ac nad yw'n achosi perygl o ran hylendid.
Rydym yn argymell defnyddio plymwyr a restrir ar WaterSafe – y gofrestr genedlaethol ar gyfer gosodwyr cymwys a medrus. Gallwch chwilio am un yma.
Sut gallaf i ddilysu caledwch fy nŵr?
Gweler ein gwybodaeth sydd wedi ei theilwra am galedwch y dŵr yn eich ardal.