Cymorth â
chostau byw

Wrth i'r argyfwng costau byw barhau, mae gennym nifer o ffyrdd y gallem o bosibl eich helpu a gwneud eich biliau'n fwy fforddiadwy.

Bwriad ein hwb costau byw yw cefnogi ein cwsmeriaid a chodi ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael a fyddai o fudd i aelwydydd a lleihau'r defnydd o ddŵr.

Calendr digwyddiadau

y Tîm Cymunedol

Mae ein Tîm Cymunedol yn mynd ati i hyrwyddo'r gefnogaeth a gynigir ac yn mynd i ddigwyddiadau fforddiadwyedd mewn cymunedau ledled y rhanbarth yr ydym yn ei wasanaeth yn rheolaidd.

Gweler isod y rhestr lawn o ddigwyddiadau.

Dysgu mwy

Cael cyngor diduedd

Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr


Mae’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn darparu cyngor a chanllawiau diduedd sy'n ymwneud ag unrhyw fath o broblem â chyflenwad dŵr neu garthffosiaeth mewn cartrefi.

Dysgu mwy

Tips i arbed dŵr

Oeddech chi'n gwybod? Mae'r person cyfartalog yn defnyddio 176 litr o ddŵr y dydd, sef bron i 310 peint!


Rydym yn defnyddio llawer o ddŵr yn ein cartrefi, ond mae ffyrdd hawdd iawn o arbed dŵr yn eich cartref a'ch gardd i arbed arian ac ynni.

Arbed Dŵr

Ein Hymgyrchoedd

Mae gennym ni nifer o ffyrdd y gallwn ni eich helpu a gwneud eich biliau’n fwy fforddiadwy.


Os ydych chi’n hawlio budd-daliadau ar sail prawf modd a/neu anabledd, mae gennym lawer o opsiynau am gymorth ariannol a allai eich helpu chi i arbed arian ar eich bil dŵr.

Gwybod mwy

Cronfa Cymuned

Mae'r cynllun treialu yn cynnig cefnogaeth tymor byr i aelwydydd sy'n gweithio pan fo'u biliau yn uwch na'u hincwm.


Mae Dŵr Cymru yn treialu cynllun sydd â’r nod o roi cymorth dros dro hanfodol i gwsmeriaid aelwydydd sy'n gweithio i dalu eu biliau dŵr wrth i'r argyfwng costau byw barhau. Mae'r cynllun treialu yn cael ei dreialu ar draws Rhondda Cynon Taf a Sir Ddinbych tan fis Mehefin cyn i benderfyniad gael ei wneud ar ei gyflwyno'n ehangach.

Darllenwch fwy am y Gronfa Cymuned yma