Gwasanaethau ein canolfan gyswllt

Wedi’i ddiweddaru: 10:15 09 January 2026

Rydym yn cael problemau technegol gyda’n systemau TG heddiw ac yn gweithio'n galed i'w datrys. Gallwch barhau i ddefnyddio ein ffurflenni gwe, er y gallai gymryd mwy o amser na’r arfer i ymateb i’ch ymholiad.

Wyddoch chi gallwch hefyd wneud y canlynol ar-lein heb orfod siarad â ni?
Rhoi gwybod i ni eich bod chi’n symud
Sefydlu Debyd Uniongyrchol neu gynllun talu
Gwneud taliad
Cyflwyno darlleniad mesurydd
Dod o hyd i broblemau gweithredu yn eich ardal

Diolch am eich amynedd.

Storm Goretti

Yn ôl y rhagolygon, bydd Storm Goretti’n dod ag eira, glaw trwm, a gwyntoedd cryfion dros y 24 awr nesaf. Mae ein timau wedi bod yn paratoi ac yn gwneud popeth y gallan nhw i gynnal cyflenwadau a sefydlogi’r rhwydwaith.

Dylai cwsmeriaid barhau i gymryd y camau canlynol er mwyn atal llifogydd yn eu cartrefi:

  • Archwiliwch eich pibellau, yn arbennig y rhai sydd allan yn yr awyr agored neu mewn garej
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod ble mae’ch stoptap, fel rheol bydd hyn o dan sinc y gegin, ond gallai fod yn y tŷ bach lawr llawr neu yn y garej
  • Wrth i’r rhew ddadmer, cadwch lygad am ddŵr yn gollwng trwy gymalau neu holltau yn y pibellau, a chaewch y stoptap os oes angen
  • Cadwch rif plymwr cofrestredig wrth law

Mae rhagor o gymorth a chynghorion yma.

Paratowch am y Gaeaf

Mae yna rai pethau hawdd y gallwch eu gwneud i sicrhau bod eich cartref neu eich busnes yn barod am y gaeaf.

Gyrfaoedd

Ymunwch â’n cymuned talent

Mae ein samplwyr dŵr, peirianwyr rhwydwaith, gwyddonwyr, gweithredwyr carthffosydd a’n cynghorwyr gwasanaeth cwsmeriaid i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i ennill ffydd ein cwsmeriaid bob dydd.

Ewch i’n gyrfaoedd