Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr Terfynol 2019


Un o'n swyddogaethau pwysicaf yw sicrhau bod gan ein cwsmeriaid gyflenwad digonol o ddŵr i fodloni eu hanghenion.

Yn Dŵr Cymru, mae gennym weledigaeth glir i ennill ffydd ein cwsmeriaid bob un dydd. Ni allwn gyflawni hyn trwy ddarparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid yn unig, mae angen i ni ddeall anghenion a disgwyliadau ein cwsmeriaid a meithrin cynlluniau i fodloni'r rhain at y dyfodol hefyd.

Un o'n swyddogaethau pwysicaf yw sicrhau bod gan ein cwsmeriaid gyflenwad digonol o ddŵr i fodloni eu hanghenion nawr ac at y dyfodol, ac felly rydyn ni wedi pennu ein strategaeth 'Digon o Ddŵr i Bawb' yn ein Gweledigaeth "Dŵr Cymru 2050".

Mae hi'n glir bod cyflenwad dibynadwy o ddŵr yn bwysig i'n cwsmeriaid, ac y sicrhau dealltwriaeth lwyr o alluoedd ein systemau, gan gynnwys sut y byddwn ni'n ymateb i dueddiadau yn y dyfodol. Mae ein Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr Terfynol yn edrych ymlaen dros y 30 mlynedd rhwng 2020 a 2050 er mwyn asesu unrhyw risgiau i'n gallu i gyflenwi digon o ddŵr i ddiwallu gofynion ein cwsmeriaid, hyd yn oed yn ystod y blynyddoedd mwyaf sych. Mae'r Cynllun yn dangos ymhle rydyn ni'n credu bod digon o ddŵr gennym i ddiwallu'r angen at y dyfodol, ac ymhle nad oes digon, ac yn esbonio beth y byddwn ni'n ei wneud i ddatrys unrhyw anghydbwysedd.


Y dulliau allweddol o weithredu ar gyfer y cynllun hwn yw:

  • Sicrhau bod safbwyntiau ein cwsmeriaid yn cael eu cymryd i ystyriaeth yn llawn, yn enwedig mewn perthynas â lefelau gwasanaeth a chost y Cynllun;
  • Cymryd polisi Llywodraeth Cymru, a bennir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, i ystyriaeth, a chysoni â'i "Strategaeth Dŵr ar gyfer Cymru 2015". Gan ddefnyddio dull gweithredu ar sail gwasanaethau ecosystemau, byddwn ni'n gweithio i gyfeiriad dulliau mwy integredig o reoli ein hadnoddau dŵr;
  • Ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i gydbwyso'r cyflenwad a'r galw pan ragwelir y bydd prinder cyflenwadau dros oes y cyfnod cynllunio;
  • Darparu rhesymeg dros ddewis gwahanol opsiynau, a nodi pam eu bod nhw'n cynnig gwerth gorau i gwsmeriaid a'r amgylchedd;
  • Blaenoriaethu rheoli'r galw dros opsiynau ar ochr cyflenwadau lle bo manteision ehangach gwneud hynny'n cynnig ateb gwerth gorau. I'r perwyl hwn, rydyn ni wedi pennu targedau ymestynnol ond sy’n bosibl eu cyflawni i leihau gollyngiadau a defnydd cwsmeriaid yn y tymor hir;
  • Ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer cyfnewid adnoddau dŵr â 3ydd partïon lle bod hynny'n fuddiol i'n cwsmeriaid, a lle nad yw hynny ar draul yr amgylchedd;
  • Sicrhau bod y Cynllun yn cydymffurfio â'r holl ofynion statudol Ewropeaidd a domestig perthnasol, a chyflawni Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA) ac Asesiad o Reoliadau Cynefinoedd (HRA) ar gyfer y Cynllun;
  • Gwella gwytnwch systemau cyflenwi i bwysau fel sychder a'r newid yn yr hinsawdd;
  • Bod yn arloesol yn ein dull o fynd ati i gyflawni ein Cynllun.

Cyhoeddwyd ein Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr drafft ym mis Mawrth 2018, a chynhaliwyd ymgynghoriad arno am gyfnod o 12 wythnos. Wedyn cyhoeddwyd Datganiad o Ymateb i'r ymgynghoriad a Chynllun Rheoli Adnoddau Dŵr drafft diwygiedig ym mis Medi 2018. Yn dilyn adolygiad o'n Datganiad o Ymateb i'r ymgynghoriad a'r newidiadau a wnaed i'n Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr diwygiedig drafft, ar 8 Mawrth 2019, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyfarwyddyd i ni gyhoeddi ein Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr terfynol.

Mae'r Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr Terfynol ar gael i’w ddarllen isod. Cyhoeddir y set Derfynol o dablau Adnoddau Dŵr a Gwybodaeth am y Farchnad, yr adroddiad ar yr Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA) a'r Datganiad Ôl-fabwysiadu (PAS), ac adroddiad yr Asesiad o Reoliadau Cynefinoedd cyn bo hir.

Available downloads

Final Water Resources Management Plan 2019 - Main Technical Report

Download
10.2MB, PDF

Final Water Resources Management Plan 2019 - Non Technical Summary

Download
1.8MB, PDF

Final Water Resources Management Plan 2019 - HRA

Download
2.1MB, PDF

Final Water Resources Management Plan 2019 - SEA

Download
8.4MB, PDF

Final Water Resources Management Plan 2019 - SEA Post Adoption Statement

Download
2.2MB, PDF