Tywydd sych
Yn sgil y tywydd sych diweddar, rydyn ni’n gofyn i’n cwsmeriaid feddwl am eu defnydd o ddŵr. Defnyddiwch y dŵr sydd ei angen arnoch, ond ceisiwch beidio â’i wastraffu.
Y tywydd
Mae glawiad yn cael effaith uniongyrchol ar ein hadnoddau dŵr yng Nghymru a rhannau o Sir Henffordd. Gall cyfnodau estynedig o dywydd sych leihau’r storfeydd mewn cronfeydd dŵr.
Torrwyd y record am y dechau Mai mwyaf cynnes erioed yng Nghymru eleni.
Mawrth 2025 oedd y mis Mawrth mwyaf sych ond tri yn hanes Cymru.
Roedd y lefelau glawiad 30% yn is na lefelau 2022, sef y tro diwethaf i gyfyngiadau ar ddefnydd o ddŵr gael eu rhoi ar waith oherwydd amodau sychder yn Sir Benfro a rhan fach o Sir Gâr.
Mae gan bob cronfa ac ardal a wasanaethwn wahanol bwyntiau sbardun o ran cyfyngiadau. Rydyn ni’n awyddus i osgoi gwneud hyn, felly rydyn ni’n gofyn i gwsmeriaid weithio gyda ni i helpu i gynnal adnoddau dŵr.
Ein Cronfeydd Dŵr
Dŵr wyneb sydd i gyfrif am tua 95% o’n hadnoddau dŵr, naill ai ar ffurf cronfeydd storio neu’r afonydd lle rydyn ni’n codi dŵr.
Ychydig iawn o ddibyniaeth sydd gennym ar gyflenwadau dŵr daear.
Mae’r ddibyniaeth yma ar ddŵr wyneb yn gallu ein gadael ni’n fwy bregus i gyfnodau byr o lawiad isel am fod lefelau afonydd yn newid yn gynt na dŵr daear.
Mae adnoddau dŵr yn dod o wahanol fathau o darddleoedd mewn gwahanol rannau o’r DU, gyda rhai yn dibynnu ar gyflenwadau dŵr daear. Nid yw cymharu lefelau ein cronfeydd dŵr ni â chronfeydd mewn rhannau eraill o’r DU yn rhoi darlun cyflawn o’r sefyllfa.
Ar hyn o bryd, mae lefelau’r dŵr yn ein cronfeydd ni ychydig bach yn is na’r hyn sy’n ddisgwyliedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn.
Mae’r tabl isod yn dangos lefelau’r cronfeydd ar draws ein hardal weithredu:
Camau Sychder
Rydyn ni’n dilyn pum cam yn ein cynllun gweithredu ar sychder, ac mae’r rhain yn cael eu rheoli trwy fesurau rheoli galw. Rydyn ni’n cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac asiantaethau eraill ar bob cam.
Cam 1 - Gweithrediad Arferol
Cam 2 - Sychder yn datblygu: Mae’r amodau’n sych, ac yn ôl y rhagolygon, bydd y tywydd sych a braf yn parhau. Mae’r adnoddau dŵr yn dechrau dangos arwyddion o sychder, ond mewn ardaloedd lleol iawn yn unig.
Cam 3 - Sychder
Cam 4 - Sychder Difrifol
Cam 5 - Amodau Argyfwng
Gallwch ddarllen ein cynllun sychder corfforaethol yn ei gyfanrwydd yma.
Beth ydyn ni’n ei wneud i hwyluso’r sefyllfa?
Mae ein timau’n gweithio’n galed i wneud yn siŵr ein bod ni’n cymryd pob cam posibl i sicrhau effeithlonrwydd dŵr ar draws ein hardaloedd gweithredu, gan gynnwys:
- Cynyddu’r storfeydd dŵr
- Addasu parthau, a defnyddio tanceri i gludo dŵr i’r ardaloedd lle mae galw mawr
- Parhau i uwchraddio’r rhwydwaith
- Dwysáu cynhyrchiant yn ein gweithfeydd trin a symud dŵr o gwmpas y system er mwyn ceisio cynnal y lefelau lle mae’r galw ar ei uchaf.
- Canfod a thrwsio gollyngiadau er mwyn cwtogi ar faint o ddŵr sy’n cael ei golli o’r rhwydwaith. Mae timau’n gweithio i drwsio gollyngiadau cyn gynted â phosibl ar draws y wlad. Mae ein timau’n trwsio tua 700 o ollyngiadau pob wythnos ar hyn o bryd, a gall cwsmeriaid helpu trwy roi gwybod i ni os ydyn nhw’n gweld dŵr sy’n gollwng. Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn ni’n lleihau gollyngiadau o chwarter, ac rydyn ni’n gwario tua £400m ar adnewyddu pibellau a thrwsio gollyngiadau mewn ymdrech i gyflawni’r uchelgais yma.
Rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i arbed dŵr trwy drwsio gollyngiadau’n gyflym a symud dŵr o gwmpas lle gallwn ni, ac rydyn ni’n gofyn i chi helpu trwy leihau eich defnydd o ddŵr hefyd.
Mae hi’n bwysig ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan trwy barhau i leihau defnydd fel y gallwn helpu i leihau’r risg o gyfyngiadau ar gyflenwadau eto fyth.
-
Cartref
Helpu chi yn eich cartref a'ch cymuned i arbed dŵr, ynni ac arian.
-
Arbed Dŵr
Trwy ddefnyddio’r holl ddŵr sydd ei angen arnoch, a gofalu i beidio â’i wastraffu, gallwch chi helpu i wneud gwahaniaeth mawr.
-
Get Water Fit
Defnyddiwch ein cyfrifiannell ‘Get Water Fit’ i helpu i ddod o ffyrdd i arbed dŵr ac arian – ac mae cynnyrch ar gael am ddim wrth gofrestru hefyd.