Byrst mewn Pibell Ddŵr - Brychdwn

Wedi’i ddiweddaru: 22:00 15 August 2025

Gallwn gadarnhau bod y gwaith atgyweirio'r prif bibell ddŵr ym Mrychdyn wedi'i gwblhau y prynhawn yma.

Mae'r gwaith o ail-lenwi’r rhwydwaith ddŵr hefyd wedi dechrau. Bydd hyn yn cymryd amser gan fod angen osgoi achosi unrhyw nam arall ar y rhwydwaith eang hwn sy'n fwy na 500km o hyd.

Bydd yr anghyfleustra yn parhau dros y 48 awr nesaf wrth i'r rhwydwaith ail-lenwi'n raddol. Dylai’r cyflenwad fod wedi ei adfer ar gyfer y rhan fwyaf o gwsmeriaid yfory, ond ni fydd y cyflenwadau wedi eu hadfer yn llwyr i bawb tan ddydd Sul.

Mae'n ddrwg gennym am hyn. Roedd y gwaith o atgyweirio yn heriol gan fod y brif bibell ddŵr 5m o dan y ddaear a ceblau tanddaearol o’i gwmpas.

Rydym yn parhau i gefnogi ein cwsmeriaid mwyaf bregus, ac hefyd yn darparu dŵr i 2 ysbyty a 20 cartref gofal.

Gall cwsmeriaid gael cyflenwad o boteli dŵr yn ein canolfannau:

  • Pafiliwn Jade Jones, Y Fflint CH6 5ER
  • Maes Parcio a Theithio, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, CH5 2NY
  • Maes Parcio Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NF

Rydym yn gofyn i gwsmeriaid i gymryd y dŵr sydd angen arnyn nhw yn unig.

Os oes gennych unrhyw aelodau teulu, ffrindiau neu gymdogion hŷn neu fregus, rydym yn eich annog i wirio arnynt i sicrhau eu bod â dŵr potel.

Rydym wedi cyhoeddi’r manylion ynglŷn a’r iawndal yma.

Rydym wedi cyhoeddi llythyr agored at ein cwsmeriaid yma.

I gael y newyddion diweddaraf, ewch i Yn Eich Ardal neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ebrill 2022


Lansiwyd ein hymgyrch Yma i Chi ym mis Ionawr eleni. Ym mis Ebrill aeth ein Tîm Cymunedol ar daith i hyrwyddo ein gwasanaethau cymorth ariannol a diogelu i'r cymunedau ledled Ynys Môn a Gwynedd.

Ymunodd Cyngor ar Bopeth, Cymru Gynnes a Nest â ni mewn nifer o leoliadau gan gynnwys llyfrgelloedd Caernarfon, Bangor, Pwllheli, Pen-y-Groes, Porthmadog, Y Bala a Blaenau Ffestiniog – Diolch yn fawr i Nia a'r tîm am ein cynnal.

Roeddem hefyd yn y Sioeau Teithiol Gwledig yn Llannerchymedd, Morawelon, Llanfechell a Moelfre. Cyfle gwych i gynorthwyo cwsmeriaid a allai fel arall fod yn ynysig ac nad ydynt yn gallu ymgysylltu â'n gwasanaethau cymorth.