Cadw’n gynnes dros y gaeaf


Roedd digwyddiad yn Y Rhyl i hyrwyddo gwasanaethau a fydd yn helpu cwsmeriaid i gadw'n gynnes ac yn iach dros y gaeaf yn llwyddiant mawr.

Daeth tua 70 o gwsmeriaid i'r digwyddiad, a gynhaliwyd gan Dŵr Cymru, ym Manc Bwyd Y Rhyl a chael cefnogaeth a chyngor ar arbed arian gan 13 o bartneriaid gan gynnwys Nyth, Cyngor ar Bopeth, Cymru Gynnes a Chyngor Sir Ddinbych.

Dywedodd un cwsmer a fynychodd: "Fe wnes i fwynhau'r digwyddiad heddiw yn fawr, rwy'n byw ar fy mhen fy hun felly mae cael gwybodaeth am y tariffau gorau wedi bod mor ddefnyddiol, mae pawb mor gyfeillgar felly does dim ots os ydych chi'n dod ar eich pen eich hun."

Yn y digwyddiad cynhaliwyd arddangosiad gan y Banc Bwyd ar sut i ddefnyddio cynhwysion o barsel bwyd i greu pryd bwyd maethlon, gan gynnwys cyfle i flasu am ddim. Roedd hefyd cyfle i ddau berson ennill ‘slow cooker’, a rhoddwyd y ddau ar y diwrnod. Cafodd y bobl a ddaeth i’r digwyddiad gynhwysion, a roddwyd gan Morrisons yn Y Rhyl, i ail-greu'r pryd o fwyd gartref.

Bu Tracey Jones, Cynghorydd Cymuned Cwsmeriaid Bregus Dŵr Cymru, yn arwain ar drefnu'r digwyddiad. Dywedodd: "Rwy'n hapus iawn gyda sut aeth y digwyddiad. Yn ogystal â siarad â llawer o bobl am lwyth o gefnogaeth, gwnaethom gymryd manylion 15 cwsmer naill ai i'w cofrestru ar un o'n tariffau cymdeithasol neu ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth.”

“Mae'n wych gallu gweithio gyda phartneriaid fel hyn, allan yn y gymuned yn ymgysylltu â chwsmeriaid ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w cyllid, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig.”