Digwyddiad i’r Teulu yng Nghasnewydd


Cynhaliodd Dŵr Cymru ddigwyddiad am ddim i’r teulu yn ystod hanner tymor yng Nghanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd.

Roedd dros 30 o sefydliadau partner, gan gynnwys Cyngor Dinas Casnewydd, Mind, OVO Energy, Elusen Ddyled Step Change a Tesco, yn bresennol i roi gwybodaeth am gymorth gyda chostau byw, arbed ynni, iechyd meddwl a llawer mwy. Roedd llawer o weithgareddau llawn hwyl i deuluoedd hefyd gan gynnwys paentio wynebau, celf a chrefft a hyd yn oed troelli platiau!

Roedd y digwyddiad yn boblogaidd iawn gyda thros 300 o gwsmeriaid yn galw heibio yn ystod y dydd.

Dywedodd Jody Perkins, Cynghorydd Hyrwyddiadau: “Rwyf mor falch gyda’r ffordd yr aeth y digwyddiad ddoe. Y nod oedd cynnig rhywle i deuluoedd ddod ynghyd yn ystod hanner tymor i gael gwybodaeth, cymorth a llawer o hwyl.

“Roedd hi’n anhygoel gweld cynifer o bobl yno ac roedden ni’n gallu cynnig llawer o gyngor a chymorth i gwsmeriaid. Mae’r canlyniadau cynnar yn dangos ein bod ni wedi helpu dros 20 o bobl gyda chymorth dyledion ar y diwrnod, a byddwn ni’n ffonio llawer o gwsmeriaid yn ôl er mwyn rhoi ychydig mwy o wybodaeth iddyn nhw. Fe welson ni lawer o gwsmeriaid yn cofrestru ar gyfer mesuryddion dŵr, hefyd.

“Rwyf mor falch fy mod i wedi bod yn rhan o’r diwrnod yma ac i weld yr holl waith caled yn talu ar ei ganfed i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i les ariannol ein cwsmeriaid.”

Roedd stondinau Dŵr Cymru yn cynnwys aelodau o’n Timau Cyngor ar Filiau a Dyled, Cwsmeriaid Bregus, Cartref, Cyflogaeth ac Addysg, yr oedd pob un ohonyn nhw’n gallu cynnig cyngor a chymorth gwerthfawr gyda biliau, cofrestru ar gyfer mesuryddion dŵr, a gwella lles ariannol. Roedd yn gyfle gwych i ddangos ein cynllun cymorth ‘Cymuned’ ar gyfer teuluoedd sy’n gweithio, y cyntaf o’i fath, a’r cymorth y gallwn ni ei gynnig gyda chostau byw.

Mae’r adborth gan sefydliadau partner wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yn hyn. Pan ofynnwyd sut y bydden nhw’n disgrifio’r digwyddiad, dywedodd Ethylle Bering o Grŵp Pobl: “Ardderchog, galwodd cymaint o deuluoedd heibio a chawson nhw fagiau llawn o bethau!...Fe ges i gyfle i roi 200 o fylbiau golau sy’n arbed ynni allan hefyd felly gobeithio ein bod ni wedi gallu cefnogi rhai teuluoedd!”