Symud cartref
Gall symud cartref achosi straen, ond mae rhoi gwybod i ni yn hawdd. Pa un a ydych chi'n symud i'n rhanbarth am y tro cyntaf, yn symud i eiddo arall yn ein rhanbarth neu'n symud allan o'n rhanbarth yn llwyr, ceir nifer o ffyrdd y gallwch chi ddweud wrthym ni.
Dywedwch wrth Dŵr Cymru fy mod i'n symud tŷ
Os ydych chi'n symud i eiddo newydd ac yn dal i fod yn gyfrifol am dalu bil Dŵr Cymru.
Creu cyfrif bilio Dŵr Cymru newydd
Os na fuoch erioed yn gyfrifol am dalu bil Dŵr Cymru o'r blaen ac yn symud i'ch eiddo cyntaf.
Caewch fy nghyfrif
Os nad ydych bellach yn gyfrifol am dalu bil Dŵr Cymru, neu os ydych yn symud allan o'n hardal gyflenwi.
Pryd i roi gwybod i ni eich bod chi wedi symud
Cwsmeriaid â mesurydd:
- Rhowch wybod i ni ar y diwrnod pan rydych chi’n symud, neu ar ôl hynny.
- Cofiwch gymryd darlleniad terfynol neu gychwynnol ar y diwrnod symud. Wedyn gallwn ni eich bilio chi am y dŵr rydych chi wedi ei ddefnyddio pan oedd yr eiddo yn eich gofal chi.
- Os na allwch chi gymryd y darlleniad eich hun, rhowch wybod i ni 10 diwrnod gwaith cyn i chi symud. Wedyn gallwn ni drefnu bod rhywun ddod i ddarllen eich mesurydd ar eich rhan ar y diwrnod pan rydych chi’n symud.
Cwsmeriaid heb fesurydd:
- Cewch roi gwybod i ni hyd at 14 diwrnod cyn i chi symud.