Pam mae fy mil yn uwch na’r disgwyl?


Os oes gennych fesurydd dŵr, byddwch yn cael eich bilio am y dŵr rydych chi’n ei ddefnyddio, ond mae nifer o resymau a allai achosi i'ch bil fod yn uwch na'r disgwyl. Yma, rydyn ni'n mynd â chi trwy'r rhestr o bethau i'w gwirio a'r hyn y gellir ei wneud.

1. Cynnydd mewn prisiau

Bydd bil cwsmeriaid cartref Dŵr Cymru yn cynyddu 27% ar gyfartaledd ar gyfer 2025-26. Byddai cwsmer arferol â mesurydd yn gweld ei bil blynyddol yn cynyddu o £437 i £575, tra byddai cwsmer arferol heb fesurydd yn gweld eu bil blynyddol yn cynyddu o £693 i £913.

Gweler y tabl isod yn dangos y cynnydd cyfartalog mewn prisiau yn dibynnu ar yr hyn y codir arnoch.

Tâl Cynnydd mewn pris
Dŵr yn unig  45%
Carthffosiaeth yn unig  22%
HelpU  10%
Gwasanaeth WaterSure Cymru Llawn a Dŵr  32%
WaterSure Cymru - Dŵr yn unig  45% 
WaterSure Cymru - Carthffosiaeth yn unig  22% 
Cyfartaledd gwasanaeth llawn a dŵr gyda’i gilydd  32% 

 

A yw eich bil yn edrych yn iawn?

Atebwch ychydig o gwestiynau byr i weld amcangyfrif o beth ddylai eich bil fod.

Faint o bobl sy'n byw yn eich eiddo?

Mae hyn yn cynnwys oedolion a phlant

{{ displayNumber }}

Sut ydych chi'n defnyddio eich dŵr?

Ydych chi'n defnyddio cawod pŵer, peiriant golchi dillad neu beiriant golchi llestri, taenellwr gardd, neu bibell ddŵr?

Dewiswch ydy neu nac ydy

Eich amcangyfrif misol

Ar sail yr wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi, byddem ni’n disgwyl i'ch bil fod tua £{MonthlyCharge} y mis* pe baech yn newid i fesurydd.

Amcangyfrif yn unig yw hwn, gall eich bil fod yn uwch neu'n is na hyn yn dibynnu ar faint o ddŵr yr ydych yn ei ddefnyddio. Byddai eich bil wedi’i seilio ar faint o ddŵr yr ydych yn ei ddefnyddio bob 6 mis.

Os oes gennych ddiddordeb, darllenwch isod am fwy o wybodaeth.

*Mae’r amcangyfrif misol yn seiliedig ar gwsmer sy’n derbyn gwasanaeth dŵr a charthffosiaeth.

Gallai eich bil bod o gwmpas

£{{monthlyCharge}}

y mis

neu £{AnnualCharge} y blwyddyn.

2. Sut rydym yn cyfrifo eich taliadau

I gyfrifo eich taliad misol, rydym yn dechrau trwy edrych ar eich dau fil diwethaf a chyfrifo eu cyfartaledd dros gyfnod o 12 mis. Yna, byddwn yn cymhwyso unrhyw newidiadau i brisiau a ddangosir yn y tabl uchod.

Os nad oedd eich taliadau blaenorol yn ddigon i dalu eich biliau, bydd eich swm newydd yn cynnwys addasiad i glirio unrhyw falans sydd ar ôl a thalu am y dŵr rydych wedi’i ddefnyddio.

Os oedd gennych gredyd ar eich bil diwethaf, mae’n bosibl y byddwn wedi lleihau eich taliadau dros dro i ddefnyddio’r credyd hwnnw. Pan fydd wedi ei ddefnyddio, byddwn yn cynyddu eich taliadau i wneud yn siŵr eich bod yn aros ar y trywydd iawn ac yn osgoi mynd i ddyled.

3. Cyfnod bilio hirach

Gallai eich bil diweddaraf fod am gyfnod hirach na'ch bil blaenorol. Po hiraf yw cyfnod y bil, y mwyaf o ddŵr y byddwch chi'n ei ddefnyddio.

Er enghraifft, gallai eich bil cyntaf fod am 150 diwrnod a 26 m3, a'ch ail fil fod am 193 diwrnod a 33 m3.

4. Cynnydd mewn Defnydd

Os yw eich defnydd o ddŵr wedi cynyddu o’i gymharu â’ch bil diwethaf, bydd eich taliad yn cynyddu i adlewyrchu hyn. Rydym yn defnyddio eich defnydd diweddar i benderfynu ar eich taliadau, felly bydd unrhyw ddŵr ychwanegol y byddwch wedi’i ddefnyddio wedi’i gynnwys yn y cyfrifiad.

Bydd hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod eich taliadau yn ddigon i dalu am eich defnydd gwirioneddol a’ch atal rhag mynd i ddyledion ar eich cyfrif.

Gall eich defnydd o ddŵr gynyddu os oes mwy o bobl yn byw yn eich cartref neu os ydych wedi dechrau gwneud gweithgareddau sy’n defnyddio dŵr ychwanegol. Gallai hyn gynnwys cael babi newydd, cael gwesteion i aros, neu aelodau o’r teulu yn symud yn ôl adref.

Gall hefyd ddigwydd pan fydd gwaith yn cael ei wneud ar eich cartref neu pan fyddwch yn mwynhau gweithgareddau sy’n defnyddio dŵr, fel llenwi twba twym, pwll padlo neu bwll gardd, neu dreulio mwy o amser yn garddio a all arwain at gynnydd yn y defnydd o ddŵr a gallai hyn effeithio ar eich taliadau.

5. Gollyngiad dŵr

  • Gall tap sy'n diferu wastraffu o leiaf 18 litr y dydd. Byddai hyn yn costio tua £20 y flwyddyn!
  • Gollyngiad mewn peiriant e.e. peiriant golchi dillad neu foeler.
  • Gollyngiad ar unrhyw bibellau sy'n gyfrifoldeb i chi.

Os ydych chi'n poeni y gallai fod gennych ollyngiad, edrychwch ar ein herthygl help a chyngor ar ddelio â gollyngiadau gartref a sut i gynnal prawf gollyngiadau.

Cadwch lygad

ar eich defnydd

Ewch yn ddi-bapur ar Fy Nghyfrif ac olrhain eich defnydd ar ôl pob darlleniad.

Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif