Byrst mewn Pibell Ddŵr - Brychdyn
Mae cyflenwadau dŵr wedi'u adfer yn llwyr i'r holl gwsmeriaid ar ôl y trafferthion mewn rhannau o Sir y Fflint.
Taflenni Cwsmeriai
Gwybodaeth am dŵr potel
Efallai eich bod wedi ei gasglu o orsaf dŵr amgen yn yr ardal leol, neu iddo gael ei gludo atoch ar gais neu am eich bod ar ein Cofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth.
363.3kB, PDF
Dŵr afliw - Sir Fflint - Pibell ddŵr wedi byrstio
Awst 2025
96.8kB, PDF
Mae'r trefniadau iawndal wedi'u cadarnhau gyda chwsmeriaid domestig yr effeithir arnynt yn derbyn £30 am bob 12 awr y maent wedi bod heb gyflenwad dŵr.
Bydd cwsmeriaid busnes yn derbyn £75 am bob 12 awr y maent wedi bod heb gyflenwad.
Taliadau Ewyllys Da ar gyfer Cwsmeriaid Dibreswyl yn Sir y Fflint ar agor nawr.
Mae'n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra i gwsmeriaid.
Cwestiynau Cyffredin
Mae'r trefniadau iawndal wedi'u cadarnhau gyda chwsmeriaid domestig yr effeithir arnynt yn derbyn £30 am bob 12 awr y maent wedi bod heb gyflenwad dŵr.
Bydd cwsmeriaid busnes yn derbyn £75 am bob 12 awr y maent wedi bod heb gyflenwad. Byddant hefyd yn gallu hawlio am unrhyw golled incwm, a bydd y broses ymgeisio ar agor cyn gynted ag y byddwn yn adfer yr holl gyflenwadau a bod y digwyddiad wedi dod i ben.
Os ydych chi'n paratoi bwydydd fformiwla ar gyfer eich babi, defnyddiwch laeth fformiwla parod os gallwch chi. Gallwch ddefnyddio'r poteli dŵr mae Dwr Cymru yn ei ddosbarthu i wneud fformiwla ar gyfer eich babi. Rhaid i chi ferwi'r dŵr yn gyntaf ac yna ei ddefnyddio fel arfer.
Mae'r aflonyddwch presennol i gyflenwadau dŵr ein cwsmeriaid yn Sir y Fflint yn heriol ac yn rhwystredig. Rydym yn ymddiheuro ac yn gwerthfawrogi'r anghyfleustra a'r pryder mae hyn wedi'i achosi, yn enwedig i'r cwsmeriaid hynny a gafodd broblemau gyda'u cyflenwad dŵr y penwythnos diwethaf.
Mae'r gwaith trwsio yn heriol iawn gan fod y bibell sydd wedi byrstio 5 metr o dan y ddaear gydag amodau tir anodd ac yn agos at geblau trydan sy'n gofyn am ofal ychwanegol.
Ein blaenoriaeth yw sicrhau diogelwch ein staff a'n cwsmeriaid wrth ymgymryd â'r gwaith trwsio ond gallwn eich sicrhau bod ein timau'n gwneud popeth o fewn eu gallu i drwsio'r bibell a dychwelyd ac adfer cyflenwadau cyn gynted â phosibl.
Wrth i'r dŵr ddechrau dychwelyd i normal, efallai y bydd pwysedd y dŵr yn isel neu gall lliw y dŵr fod ychydig yn wahanol i’r arfer.
Pan fydd prif bibell ddŵr wedi byrstio, fel sydd wedi digwydd yma, gall hyn symud gwaddod ar waelod y bibell, gan achosi i'r dŵr newid lliw.
Bydd unrhyw bwysedd dŵr isel yn dychwelyd i normal unwaith y bydd y system wedi'i hail-lenwi. Os nad yw hyn wedi dychwelyd i normal, cysylltwch â ni fel y gallwn wirio hyn.
Gall dŵr afliw fod yn felyn, oren, brown neu ddu, mae'n cael ei achosi gan ronynnau o haearn neu fanganîs sydd fel arfer wedi dod o brif bibellau dŵr haearn sydd wedi setlo dros amser.
Os bydd hyn yn digwydd, dylech redeg eich tap am ychydig funudau, os nad yw hyn yn gweithio, diffoddwch eich tap am 20 munud a rhoi cynnig arall arni.
Efallai y byddwch hefyd yn profi dŵr cymylog, os bydd hyn yn digwydd, ceisiwch ei adael mewn gwydraid o ddŵr am ychydig funudau i weld a yw'n clirio.
Er nad yw'n edrych yn neis, mae'n annhebygol y bydd lefelau'r haearn a'r manganîs a geir mewn dŵr tap afliw yn niweidiol i'ch iechyd. Fodd bynnag, nid ydym yn argymell ei ddefnyddio i wneud bwydydd babanod na photeli babanod. Rydym hefyd yn argymell nad ydych yn golchi dillad yn ystod yr amser hwn gan y gall staenio'ch golch.
Os yw wedi bod yn hirach na 24 awr, efallai y bydd angen i ni ddod i fflysio'r system i helpu ei glirio. Os oes gennych ddŵr afliw am fwy na 24 awr, cysylltwch â ni.